Mae mapiau Explorer yr Arolwg Ordnans (graddfa 1:25,000, cloriau oren) yn ddelfrydol ar gyfer pob math o weithgareddau awyr agored. Maen nhw’n dangos llwybrau troed, llwybrau ceffylau a llwybrau eraill, ffiniau, nodweddion tirweddol a mannau o ddiddordeb.  

Explorer 201 Trefyclo a Llanandras

Explorer 214 Llanidloes a’r Drenewydd 

Explorer 215 Y Drenewydd a Machynlleth

Explorer 216 Y Trallwng a Threfaldwyn

Explorer 239 Llyn Efyrnwy a Llanfyllin

Mae mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans (graddfa 1:50,000, cloriau pinc) yn dangos ardaloedd ehangach na’r mapiau Explorer, ond maen nhw’n dal i ddangos llwybrau troed, llwybrau ceffylau a llwybrau eraill. Maen nhw’n berffaith ar gyfer gwyliau a beicio.   

Landranger 125 Y Bala a Llyn Efyrnwy

Landranger 135 Aberystwyth a Machynlleth

Landranger 147 Cwm Elan a Llanfair-ym-Muallt

Landranger 148 Llanandras a’r Gelli Gandryll