English

COVID 19 Update

Closed sections of National Trails in Wales

As of 24 March 2020, to reduce the spread of Coronavirus (Covid 19), Welsh Government has now enacted emergency legislation to allow the closure of public footpaths and access land in Wales. This legislation is called The Health and Protection (Coronvirus, closure of Leisure Businesses, Footpaths and Access Land (WALES) (Regulations 2020).
These are areas which are liable to large numbers of people congregating or being in close proximity to each other, or the use of which otherwise poses a high risk to the incidence or spread of infection in its area with the coronavirus. This new legislation affects some sections of National Trails in Wales.
Please check local authority and National Park websites for details of closures.

https://gov.wales/public-rights-way-and-access-land-closures

Teithlenni'r Llwybr

Gan ddilyn ffin Cymru a Lloegr am 177 o filltiroedd ger Clawdd Offa o’r 8fed ganrif, mae’r Llwybr Cenedlaethol hwn yn mynd â chi drwy amrywiaeth o dirweddau. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd anhygoel i gael golwg ar ein bywyd gwyllt a’n hanes brodorol.
Crwydrwch Lwybr Clawdd Offa am dri diwrnod, wythnos neu fwy hyd yn oed. Fe gewch ysbrydoliaeth ar gyfer eich antur gerdded trwy ddefnyddio un o’r cynlluniau taith a awgrymir gennym, neu dewiswch un o’n cynlluniau y gellir eu harchebu, sydd â seren wrth eu hymyl.

Llwybr Clawdd Offa

Cliciwch y botwm chwarae i weld uchafbwyntiau Llwybr Clawdd Offa

DIWRNODAU

14

PELLTER

285km

Gwybodaeth am y Llwybr

Dewch o hyd i ffeithiau defnyddiol a dysgwch fwy am Lwybr Clawdd Offa isod.

Ynglŷn a'r Llwybr

Mae Llwybr Clawdd Offa yn llwybr cerdded 177 milltir (285km) o hyd. Cafodd ei enwi ar ôl y Clawdd mawreddog a adeiladwyd o dan orchymyn y Brenin Offa yn yr 8fed ganrif. Y rheswm am hyn, yn ôl pob tebyg, oedd er mwyn rhannu teyrnas Mersia oddi wrth oddi wrth deyrnasoedd ei elynion, ar diroedd a elwir bellach yn Gymru. 

Mae’r Llwybr, a agorwyd yn ystod haf 1971, yn cysylltu Clogwyni Sedbury ger Cas-gwent ar lannau aber afon Hafren, â thref arfordirol Prestatyn ar lannau Môr Iwerddon. Mae’n mynd trwy wyth sir wahanol ac yn croesi ffin Cymru a Lloegr dros 20 o weithiau. Mae’r Llwybr yn archwilio gwlad y Gororau (fel y gelwir y rhan hon o’r wlad) ac yn croesi Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar hyd crib fawreddog Darren y Gader.  Yn ogystal â hyn, mae’r Llwybr yn cysylltu tair Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol – Dyffryn Gwy, Bryniau Swydd Amwythig a Bryniau Clwyd/Dyffryn Dyfrdwy. 

Archwilio’r Llwybr

Mae’r Llwybr yn mynd drwy nifer o wahanol fathau o dirwedd. Gall y darnau hir o ucheldir ar Fannau Brycheiniog a Bryniau Clwyd fod yn heriol mewn tywydd gwael neu pan na ellir gweld ymhell. Y darn mwyaf gwastad yw hwnnw sy’n dilyn afon Hafren a Chamlas Maldwyn.  Ym mhobman arall, mae’n fater o gerdded graddol, i fyny ac i lawr. 

Mae’r Llwybr Cenedlaethol wedi’i farcio’n dda iawn, felly mae’n hawdd dilyn y llwybr. Ond mae bob amser yn syniad da mynd â  theithlyfr neu fap. 

Gellir cerdded Llwybr Clawdd Offa trwy gydol y flwyddyn.  Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei gerdded rhwng misoedd Ebrill a Hydref. Y gwanwyn a dechrau’r haf yw’r adeg orau i weld y fflora ar hyd y ffordd. 

Beth sy’n arbennig am y Llwybr?

 

Mae taith Llwybr Clawdd Offa drwy’r Gororau wir yn cynnig rhywbeth i bawb. Pun ai eich bod yn chwilio am daith gerdded ysgafn sy’n para awr neu ddwy, neu’n dymuno cerdded y Llwybr cyfan dros gyfnod o bythefnos neu fwy, yna rydych yn siŵr o gael taith gerdded gofiadwy mewn darn godidog o gefn gwlad. 

Mae’r dirwedd bob amser yn odidog, o ddolydd glannau afon Gwy a Hafren i fryniau tonnog a heddychlon Swydd Amwythig a Phowys. Ceir hefyd ucheldiroedd grugog a dramatig y Mynyddoedd Duon a Bryniau Clwyd / Dyffryn Dyfrdwy. 

Mae’r Llwybr naill ai’n pasio’n agos neu’n mynd trwy lawer o drefi hanesyddol, gan gynnwys Cas-gwent, Trefynwy, Y Gelli Gandryll, Ceintun, Llanandras, Trefyclo, Bishop’s Castle, Trefaldwyn, Y Trallwng, Croesoswallt, Llangollen, Yr Wyddgrug, Rhuthun, Dinbych a Phrestatyn. Ar hyd y ffordd, byddwch yn canfod cestyll mawreddog, eglwysi gwledig tawel, bryngaerau llawn dirgelwch o’r Oes Haearn a thafarndai gwlad deniadol. 

Ac, wrth gwrs, mae’r Llwybr hefyd yn aml yn dilyn Clawdd Offa ei hun. Cafodd y clawdd  a’r ffos anhygoel hon eu hadeiladu â llaw yn yr 8fed ganrif dan orchymyn y Brenin Offa o hen deyrnas Eingl-Sacsonaidd, Mersia. Mae’n debyg mai’r bwriad oedd rhannu Mersia oddi wrth deyrnasoedd ei elynion, sydd bellach yng Ngymru. Mae rhai darnau o’r Clawdd yn dal i fod yn rhan o’r ffin rhwng Cymru a Lloegr heddiw. 

Darganfyddwch dirweddau dramatig, cestyll hynafol a thraphontydd dŵr anhygoel.

Archwiliwch y bryniau ar hyd ffin Cymru a Lloegr rhwng Cas-gwent a Phrestatyn. Darganfyddwch gestyll mawreddog, eglwysi gwledig tawel, bryngaerau llawn dirgelwch o’r Oes Haearn a thafarndai gwlad deniadol.

Creu eich taith eich hun

Wedi’ch ysbrydoli? Gallwch lunio eich cynllun taith unigryw a dechrau cynllunio eich ymweliad â’r Llwybr Cenedlaethol gwych hwn yma.