Gwybodaeth am y Llwybr

Gan ddilyn y clawdd mawreddog a adeiladwyd yn yr 8fed ganrif dan orchymyn y Brenin Offa, mae Clawdd Offa yn cynnig 177 milltir (285km) o gerdded trawiadol. Gan gychwyn ar Glogwyni Sedbury ger Cas-gwent ar lannau aber afon Hafren, mae’n rhedeg ar hyd ffin Cymru a Lloegr hyd nes cyrraedd tref arfordirol, Prestatyn, ar lannau Môr Iwerddon. Gan ddilyn dyffrynnoedd a chribau creigiog, mae’r llwybr amrywiol hwn bob amser yn ddiddorol.

Paratoi ar gyfer eich taith

Dewiswch y tabiau saeth glas isod am fwy o fanylion.

Am y Llwybr

 

Mae’r Llwybr yn 177 milltir (285km) o hyd. Mae’n cymryd tua phythefnos i gwblhau’r llwybr cyfan, er bod pobl, yn ôl y sôn, wedi’i gwblhau mewn pedwar diwrnod. Mae llawer o bobl yn dewis cwblhau darnau byrion yn unig mewn tripiau diwrnod, neu gwblhau’r Llwybr cyfan dros wythnosau, misoedd neu flynyddoedd lawer. 

Mae’r Llwybr yn mynd trwy nifer o wahanol fathau o dirwedd. Mae’n debyg mai’r rhan anoddaf yw darn llechweddog Bryniau Swydd Amwythig rhwng Trefyclo a Chroesffordd Brompton. Gall y daith hefyd fod yn anodd ar ucheldiroedd Bannau Brycheiniog a Bryniau Clwyd, yn enwedig mewn tywydd gwael neu pan na ellir gweld ymhell. 

Y rhan fwyaf gwastad yw’r darn rhwng Pont Tal-y-bont a Llanymynech sydd, i raddau helaeth, yn dilyn afon Hafren a Chamlas Maldwyn. Ym mhobman arall, mae’n fater o gerdded graddol, i fyny ac i lawr. 

Mae’r Llwybr yn enwog ers tro am y nifer o gamfeydd sydd arno. Mae llawer o’r rhain wedi cael eu tynnu oddi yno yn y blynyddoedd diwethaf, ac rydym yn bwriadu lleihau’r nifer ymhellach er mwyn gwneud y Llwybr yn fwy hygyrch. 

Os byddwch yn cerdded y Llwybr yn ei gyfanrwydd o’r de i’r gogledd, mae tua 28,000 troedfedd o ddringo, sydd yr un uchder ag Everest. 

Nid oes unrhyw ddargyfeiriadau mawr ar y llwybr ar hyn o bryd.

Archwilio’r Llwybr

Y maes awyr agosaf i ben gogleddol y llwybr yw Liverpool John Lennon. Yn y de, Maes Awyr Caerdydd yw’r agosaf. 

Gellir cyrraedd dau ben y Llwybr a sawl pwynt ar ei hyd ar y trên. Mae gorsaf Cas-gwent tua 2 filltir (3km) o gychwyn y Llwybr. Mae gorsaf Prestatyn tua 0.3 milltir (0.5km) o’r pen gogleddol. 

Mae yna orsaf yn Nhrefyclo, sef canol y Llwybr a lleoliad Canolfan Clawdd Offa. 

I gael gwybodaeth fanwl am y gwasanaeth trenau, ewch i  www.nationalrail.co.uk  neu www.traveline.info

Mae bysus lleol yn galw mewn mannau ar, neu ger Llwybr Clawdd Offa. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am fysiau ar www.traveline.info.

Mae Hay Ho! yn wasanaeth bws sy’n cysylltu Gorsaf Drenau Henffordd a’r Gelli Gandryll ar ddyddiau Sul a Gwyliau’r Banc trwy’r flwyddyn. Amserir y bws i gwrdd â threnau o Lundain a gogledd-orllewin a chanolbarth Lloegr. Ewch i dudalen Facebook Hay Ho! am ragor o wybodaeth. 

Os ydych yn bwriadu gyrru, mae Cas-gwent, sydd ar ben deheuol y Llwybr, yn agos i draffordd yr M4 sydd â mynediad cyflym i Lundain. O’r pen gogleddol, mae’n daith fer mewn car i’r M56 a’r M6 sy’n cysylltu â rhannau eraill o’r wlad. 

Os ydych chi’n bwriadu gyrru ac am adael eich car mewn man cyhoeddus tra’n treulio nifer o ddyddiau’n cerdded y llwybr, rydyn ni’n argymell eich bod chi’n hysbysu’r heddlu lleol o’ch bwriad. Efallai y bydd modd i chi adael eich car gyda’ch darparwr llety.

Mae dewis da o lefydd i aros yn agos at y Llwybr a gallwch eu gweld ar y Map Rhyngweithiol isod neu ar y dudalen Creu Eich Taith Eich Hun yma. 

Lawrlwythwch ac argraffwch restr o’r llefydd aros ar hyd y llwybr ar gyfer pob rhan o’r llwybr.   

Mae’r ardal yn boblogaidd a gall llefydd aros lenwi’n fuan yn y tymor brig, felly rydyn ni’n argymell eich bod yn archebu mewn da bryd.  

Mae yna ddigon o feysydd gwersylla ar hyd y Llwybr, a gallwch eu gweld yma. Os ydych yn bwriadu gwersylla, cofiwch nad yw hi’n gyfreithlon i wersylla’n wyllt yng Nghymru na Lloegrbydd angen i chi aros mewn gwersylloedd swyddogol. 

 Mae yna sawl cwmni a all drefnu i gludo eich bagiau i chi, eich helpu chi i gynllunio’ch taith, neu drefnu pecyn llawn i chi. 

Mae rhestr o’r cwmnïau hyn i’w gweld yma 

Gellir cerdded Llwybr Clawdd Offa trwy gydol y flwyddyn, felly does dim adeg benodol mewn gwirionedd.  Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cerdded rhwng misoedd Ebrill a Hydref. Y gwanwyn a dechrau’r haf yw’r adegau gorau i weld y fflora ar hyd y ffordd. 

Mae’r teithlyfrau fel arfer yn mynd o’r de i’r gogledd, a dyma’r cyfeiriad y mae’r rhan fwyaf o bobl yn cerdded y Llwybr. Ond does dim byd i’ch atal rhag mynd y ffordd arall. Mae yna hyd yn oed deithlyfr sydd wedi’i ysgrifennu o’r gogledd i’r de – felly dewiswch chi! 

Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n mynd â map a/neu deithlyfr gyda chi, neu gopi o’r daflen gerdded os ydych chi’n gwneud taith fyrrach. Gall cwmpawd fod yn ddefnyddiol hefyd. 

Os ydych chi’n cerdded ar eich pen eich hun, efallai yr hoffech chi ddweud wrth rhywun i ble rydych chi’n mynd gan fod rhannau ar hyd y llwybr heb signal ffôn symudol. Gwnewch yn siŵr fod eich ffôn wedi’i wefru’n llawn cyn cychwyn. 

Gall tywydd y DU fod yn gyfnewidiol, felly mae’n ddoeth bod yn barod. Bydd angen esgidiau da, dillad sy’n gwrthsefyll glaw, a digon o haenau cynnes arnoch chi. Ewch â digon o ddŵr gyda chi a phaciwch ambell i blastar ar gyfer eich traed, rhag ofn. Yn ystod yr haf, mae’n bosib y bydd angen eli haul arnoch chi. 

Gall derbyniad ffôn symudol fod yn dameidiog ar hyd y llwybr, peidiwch â dibynnu ar allu defnyddio’ch ffôn i’ch helpu i ddilyn y ffordd. Bydd Wi-Fi ar gael mewn ar rhai llefydd aros a thafarndai/caffis ar hyd y ffordd. 

Mae’r Deyrnas Unedig yn unigryw gan fod yma rwydwaith o lwybrau y gall y cyhoedd eu defnyddio, dyma’r rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Gallwch weld y llwybrau hyn ar fapiau’r Arolwg Ordnans. 

Mae Llwybrau Cenedlaethol wedi’u harwyddo â symbol mesen a/neu enw’r Llwybr, y byddwch chi’n eu gweld ar gamfeydd, gatiau ac arwyddbyst. Dyma’r symbol a ddefnyddir gan bob un o Lwybrau Cenedlaethol Cymru a Lloegr.  

Wrth i chi gerdded y Llwybr fe welwch chi hefyd arwyddbyst yn pwyntio at lwybrau eraill. Gallwch ddefnyddio’r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus i adael y Llwybr er mwyn archwilio mannau o ddiddordeb, cyrraedd eich llety a dod o hyd i lefydd i gael bwyd a diod. 

Yn aml, fel welwch saethau lliw ar arwyddion, sy’n dynodi statws y rhan honno o’r llwybr. Y rhai mwyaf cyffredin yw rhai melyn, sef llwybrau troed, a glas, sy’n cyfeirio at lwybrau ceffyl. 

Gallwch lawrlwytho ffeil GPX o’r dudalen Creu Eich Taith Eich Hun  (mae’r botwm o dan map). 

 

Mapiau, Teithlyfrau a Nwyddau

Mae’r teithlyfr a’r map swyddogol ar gyfer y Llwybr ar gaelSiop y Llwybrau  ynghyd ag ystod eang o anrhegion a nwyddau eraill. 

 

 

Mae rhestr o fapiau Arolwg Ordnans ar gyfer y Llwybr i’w chael yma. 

 

Mae tystysgrifau ar gael o  Siop y Llwybrau. 

Map Rhyngweithiol

Defnyddiwch yr Hidlydd Map i weld llefydd i ymweld â nhw a ble i aros ar hyd Llwybr Clawdd Offa. Gallwch weld gwybodaeth ar y map trwy dicio'r blychau yn yr Hidlydd Map.

Wedi’i ychwanegu at eich Cynllunydd Taith isod

Cyfrifiannell pellter

Pellter a fesurwyd: - Milltiroedd (- km)

Cael proffil graddiant llwybr

Cynhyrchu
Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Customise your trip with our filters.

Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Ewch o un opsiwn i’r llall isod i ddangos y marcwyr sydd ar gael.

Cyffredinol Marchogaeth Beicio

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Gwasanaethau

Llwybrau

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Mae'r proffil o uchder eich teithlen yn cael ei greu pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiannell pellter (uchod) i dynnu llinell.

Teithiau poblogaidd

Chwiliwch am ysbrydoliaeth ar gyfer eich antur gerdded gan ddefnyddio’r teithlenni rydyn ni’n eu hargymell, neu dewiswch un o'n teithlenni y gallwch eu harchebu, sydd wedi eu labelu â seren.

Creu eich taith eich hun

Wedi’ch ysbrydoli? Gallwch greu taith bersonol a dechrau cynllunio eich ymweliad â’r Llwybr Cenedlaethol gwych hwn yma.

Cysylltu â Swyddog y Llwybr

Os oes gennych chi adborth neu gwestiwn am Lwybr Glyndŵr, cysylltwch â Rheolwr y Llwybr os gwelwch yn dda.

Cysylltwch â Rob Dingle
Trail Officer