Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau ar fynediad i fannau gwyrdd
Cyfnod clo cenedlaethol yng Nghymru
O 6pm nos Wener 23 Hydref 2020 tan ddechrau dydd Llun 9 Tachwedd 2020, bydd trefn genedlaethol o gyfyngiadau symud, a elwir hefyd yn doriad tân neu doriad cylched, mewn grym ledled Cymru. Bydd unrhyw un sy’n mynd yn groes i’r cyfyngiadau hyn yn cyflawni trosedd ac yn agored i ddirwy.
Cyfyngiadau lleol presennol
Bydd yr holl gyfyngiadau presennol yn dal mewn grym yn yr ardaloedd dan gyfyngiadau symud tan 6pm nos Wener 23 Hydref 2020.
Arhoswch gartref a pheidio â theithio heb fod rhaid
Mae’n ofynnol i holl ddinasyddion Cymru aros gartref, heblaw am ddibenion penodol iawn fel ymarfer corff. Ni chaniateir teithio os nad yw’n hanfodol ar gyfer gweithio neu gyflawni cyfrifoldebau gofalu. Mae’r cyfyngiad ar deithio’n cynnwys croesi’r ffin i mewn ac allan o Gymru.
Ymweld â’r llwybr
Ni chaniateir i neb fynd ar wyliau yng Nghymru tra pery’r toriad tân hwn.
Darllenwch gyngor diweddaraf Croeso Cymru, sy’n cynnwys gwybodaeth am archebu llety: https://www.croeso.cymru/cy/coronafeirws
Ymarfer Corff
Fe gewch chi adael y tŷ i wneud ymarfer corff mor aml ag yr hoffech, cyn belled â’ch bod yn dechrau a gorffen y daith gartref, naill ai ar eich pen eich hun neu gydag eraill sy’n byw ar yr un aelwyd â chi.
Cadwch Gymru’n Ddiogel
Dilynwch gyngor diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â’r coronafeirws (COVID-19) i gadw’ch hun ac eraill yn ddiogel: https://icc.gig.cymru/pynciau/coronafeirws/
Darllenwch atebion diweddaraf Llywodraeth Cymru i gwestiynau cyffredin ynglŷn â’r coronafeirws a’r toriad tân: https://llyw.cymru/cyfnod-atal-y-coronafeirws-cwestiynau-cyffredin
Beth fydd yn digwydd ar ôl 9 Tachwedd?
Caiff manylion unrhyw gyfyngiadau a fydd mewn grym ar ôl 9 Tachwedd eu cyhoeddi’n nes at yr amser. Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf: https://llyw.cymru/coronafeirws
Y cyngor wrth ddefnyddio llwybrau cyhoeddus yn Lloegr yw:
Arhoswch gartref. Achubwch fywydau. https://www.gov.uk/coronavirus
Celebrate Welsh cultural and natural history in the footsteps of Owain Glyndŵr on this peaceful trail
DYSGWCH FWYBe surrounded by history and wildlife beside the 8th Century ancient monument along the English Welsh Border
DYSGWCH FWYFollow the most breathtaking coastline in Britain past rugged cliffs, sheltered coves and stunning beaches
DYSGWCH FWYDewiswch Lwybr a defnyddiwch y cynllunydd taith i greu eich taith eich hun.
Dysgu mwy am y Llwybrau sy’n rhoi cyfle i chi archwilio’r gorau sydd gan Gymru a Lloegr i’w gynnig.
DYSGWCH FWYMae popeth fydd ei angen arnoch ar gyfer eich antur Llwybr Cerdded Mawr ar gael yn Siop y Llwybrau
DYSGWCH FWYOs oes gennych gwestiwn neu adborth am y Llwybr, rydyn ni’n barod iawn i helpu.
DYSGWCH FWY