English

Diweddariad COVID 19

Rhannau o'r Llwybrau Cenedlaethol sydd ar gau yng Nghymru

O 24 Mawrth 2020 ymlaen, er mwyn cyfyngu ar ledaeniad haint Coronafeirws (Covid 19), mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi deddfwriaeth frys ar waith er mwyn galluogi cau llwybrau cyhoeddus a thir mynediad agored yng Nghymru. Enw’r ddeddfwriaeth yw’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws: Cau Busnesau Hamdden, Llwybrau Troed a Thir Mynediad) (Cymru) 2020. 

Mae’r rhain yn ardaloedd lle mae perygl y gall nifer fawr o bobl ymgynnull yno neu ddod yn agos at ei gilydd, neu y byddai defnyddio’r ardaloedd yn peri risg uchel o ran cynyddu nifer yr achosion neu ledaeniad y Coronafeirws yn yr ardal. Mae’r ddeddfwriaeth newydd hon yn effeithio ar rai rhannau o’r Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru. 

Gwiriwch wefannau’r awdurdodau lleol a’r Parciau Cenedlaethol i gael manylion am y mannau sydd wedi cau.

Ewch i https://llyw.cymru/cau-hawliau-tramwy-cyhoeddus-thir-mynediad

 

Teithlenni'r Llwybr

Defnyddiwch y rhain i’ch ysbrydoli ar gyfer y dyfodol yn unig. Mae’r cyfyngiadau presennol yn golygu na allwch chi deithio i fwynhau’r Llwybrau Cenedlaethol.

Llwybr Glyndŵr

Cliciwch ar y botwm chwarae i weld uchafbwyntiau Llwybr Glyndŵr

DIWRNODAU

9

PELLTER

135km

Gwybodaeth am y Llwybr

Dewch o hyd i ffeithiau defnyddiol a dysgwch fwy am Lwybr Glyndŵr isod.

Am y llwybr

Mae Llwybr Glyndŵr yn Llwybr Cenedlaethol 135 milltir (271 km) o hyd sy’n ymdroelli trwy weundir agored, tir ffermio, coetir a choedwigoedd canolbarth Cymru. Gan ddechrau yn Nhrefyclo a gorffen yn y Trallwng, mae’r llwybr wedii enwi ar ôl Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru ac arweinydd cenedlaetholgar Cymru’r Oesoedd Canol a drefnodd wrthryfel yn erbyn brenin Lloegr, Harri IV, yn 1400. 

Does dim rhaid i chi gerdded y llwybr i gyd ar un tro i fwynhau’r hyn sydd ganddo i’w gynnig. Gallwch ei fwynhau fel cyfres o deithiau cerdded diwrnod. 

 

Archwilio’r llwybr

Gall unrhyw un sy’n weddol ffit gerdded Llwybr Glyndŵr, er ei fod yn ddigon bryniog, yn aml yn disgyn i loriau’r cymoedd ac esgyn i gopaon y bryniau sawl gwaith mewn diwrnod. Dylech fod yn ymwybodol ei fod yn croesi tir sydd weithiau’n arw ac anghysbell. Bydd y gallu i ddefnyddio cwmpawd yn fendith os yw’n niwlog. 

Gellir mwynhau Llwybr Glyndŵr ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Daw’r haf â diwrnodau hir a phoeth (weithiau) ond mae’n well gan rai pobl flodau gwyllt y gwanwyn neu liwiau hardd yr hydref.

Yn y gaeaf, mae canolbarth Cymru dan flanced o eira yn olygfa a hanner. Fodd bynnag, rhaid cadw hinsawdd Cymru, lle mae glaw yn bosibl ar unrhyw adeg, mewn cof, a chofio hefyd fod rhai o’r llefydd aros ar gau dros y gaeaf. Felly mae’n bwysig cario dillad addas. Cofiwch hefyd mai ychydig o olau dydd sydd yn y gaeaf (dim ond tua wyth awr ganol gaeaf). 

Mae’r llwybr yn dechrau wrth gloc y dref yn Nhrefyclo ac yn gorffen wrth y gamlas yn y Trallwng. Dyma’r ffordd y mae’r rhan fwyaf o bobl yn cerdded y llwybr. Gallwch fynd y ffordd arall, ond bydd hynny’n fwy o her. 

Beth sy’n arbennig am y llwybr?

Mae Llwybr Glyndŵr yn mynd â chi at rai o nodweddion tirweddol gorau Cymru gan gynnwys bryniau tawel Sir Faesyfed, glannau Cronfa ddŵr Clywedog a Phumlumon â’i garped o rug. Mae golygfeydd arbennig dros Gader Idris, Llyn Efyrnwy, Mynyddoedd Cambria a’r Golfa. Mae’r llwybr yn cyrraedd ei bwynt uchaf yn Foel Fadian (1530 troedfedd/510m) ac ar ddiwrnod clir mae golygfeydd o ddyffryn mawreddog Dulas hyd at Fachynlleth a’r môr. 

Mae’r Llwybr hwn yn eich tywys trwy ardal ffermio go iawn. Un o brif atyniadau’r Llwybr yw’r pleser o gerdded trwy dir gwaith, does dim byd yn artiffisial am y tir hwn. 

 

Darganfod hanes a chefn gwlad gogoneddus

Cewch ymweld â chestyll ac amgueddfeydd ac archwilio llynnoedd a dyfrffyrdd wrth i chi gerdded y llwybr tawel hwn drwy berfeddwlad Cymru.

Creu eich taith eich hun

Wedi'ch ysbrydoli? Gallwch greu teithlen bersonol a dechrau cynllunio'ch ymweliad â’r Llwybr Cenedlaethol hwn yma.