20 mlynedd o Lwybr Cenedlaethol Glyndŵr

Dewch i ddarganfod, crwydro a datgelu cyfrinachau Llwybr Glyndŵr

Mae Llwybr Cenedlaethol Glyndŵr, a agorwyd yn swyddogol 20 mlynedd yn ôl, yn llwybr 135 milltir o hyd sy’n ymdroelli drwy amrywiaeth eang o dirweddau. Mae’r golygfeydd ar hyd y llwybr yn cynnwys dyffrynnoedd, llynnoedd a chronfeydd dŵr; coetiroedd a choedwigoedd diarffordd, glannau afonydd, gweundir agored a phorfeydd. Mae rhannau o’r llwybr yn anghysbell gan fynd heibio ambell i fferm a phentref. Mae barcutiaid cochion, hebogau tramor, bwncathod a gweilch y pysgod yn hedfan uwchben y llwybr.

Cafodd y Llwybr ei enwi ar ôl Owain Glyndŵr. Ganwyd Owain Glyndŵr tua 1354, a bu’n gyfrifol am drefnu gwrthryfel y Cymry yn erbyn teyrnasiad Harri’r IV yn 1400 gyda’r nod o sefydlu cenedl Gymreig annibynnol. Er iddo golli’r frwydr oherwydd diffyg arfau, mae’n parhau i fod yn arwr Cymreig hyd heddiw, ac yn cael ei goffáu ledled Cymru gyda chofebion, ac enwau strydoedd a thafarndai. Mae Llwybr Glyndŵr yn nodi lleoliad hela, gorymdeithio a gwrthryfela Owain Glyndŵr.

Gallwch gerdded y llwybr dros gyfnod o 9 diwrnod o’r dechrau i’r diwedd neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus gan ddechrau a gorffen ym Machynlleth, y Trallwng neu Drefyclo, gyda phob un o’r rhain ar y brif linell drenau. Gellir cyrraedd rhannau eraill ar fws. I gael gwybodaeth am gynllunio eich taith gerdded ewch i dudalen Gwybodaeth am y Llwybr.

Gallwch hefyd brofi’r llwybr mewn rhannau byrrach. Chwiliwch am lwybrau cerdded a beicio byr arbennig sy’n cael eu creu i ddathlu 20 mlynedd o’r llwybr.

Er mwyn rhoi blas i chi o’r llwybr arbennig hwn, rydym ni wedi dewis lluniau a chlipiau fideo yn dangos rhai o’r uchafbwyntiau, y lliwiau cyfnewidiol drwy’r tymhorau a’r bobl leol sy’n helpu i wneud y llwybr yn arbennig, a’i gadw felly. Gallwch hefyd glywed beth mae rhai o’r ymwelwyr sy’n cerdded y llwybr yn credu sy’n ei wneud yn unigryw. Gallwch weld un o’r fideos isod neu bori drwyddynt i gyd ar YouTube.

Dewch i ddarganfod Llwybr Glyndŵr

Ymunwch yn y dathlu!

Byddwch yn rhan o ddathliadau ugainmlwyddiant y llwybr

Llwybrau cerdded a beicio byr arbennig

Mae cyfres o lwybrau cerdded a beicio byr yn cael eu creu ar gyfer 20 mlwyddiant  sefydlu’r llwybr. Gallwch ddarganfod mwy a lawrlwytho taflen ar gyfer pob taith gerdded o’r dudalen Teithiau Cerdded Cylchol a Llinol.

Rhannwch eich profiadau

I gymryd rhan, rhannwch eich stori – boed yn hanesyn, ffotograff neu hyd yn oed ddarn o gelf neu farddoniaeth a ysbrydolwyd gan y Llwybr, byddem wrth ein bodd yn clywed eich straeon. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio #LlwybrGlyndŵr ar Facebook, Twitter ac Instagram.

Nwyddau 20 mlwyddiant

Rydym ni hefyd wedi cynhyrchu cylchoedd allweddi arbennig i ddathlu 20 mlwyddiant y llwybr i gofio am y flwyddyn arbennig hon. Os hoffech gael un, cysylltwch â Swyddog Llwybr Glyndŵr.

Glyndwr's Way 20th anniversary keyring design