Croeso i ddechrau eich antur

Mae Cymru a Lloegr yn cynnig rhai o’r llwybrau cerdded gorau yn y byd. P’un a ydych chi’n chwilio am antur heriol neu am dreulio ychydig ddyddiau’n darganfod cefn gwlad hardd, siopau te a thafarndai clyd, rydych chi’n sicr o gael profiad gwerth chweil ar y Llwybrau Cenedlaethol.

Ynglŷn â’r wefan hon

P’un a ydych chi’n cynllunio tro byr neu daith aml-ddiwrnod, fe welwch lu o wybodaeth ar y wefan hon. Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth wedi’i threfnu yn ôl llwybr a gallwch gael mynediad iddi drwy glicio ar gwymplen ‘Y Llwybrau’ ar frig y dudalen a chlicio ar y llwybr y mae gennych ddiddordeb ynddo.

Mae gan bob llwybr ei fap rhyngweithiol ei hun lle gallwch weld y llwybr a defnyddio’r hidlwyr i ddangos llety, pethau i’w gwneud, gwasanaethau fel bwyd a diod, trafnidiaeth, mannau dŵr yfed a mwy. Mae’r map hefyd yn dangos llwybrau cerdded byr, manylion unrhyw wyriadau a gwybodaeth i feicwyr a marchogion lle bo ar gael. Gallwch ddod o hyd i’r map ar dudalen ‘Gwybodaeth a Map’ pob llwybr. Cliciwch ar hidlwyr y map i arddangos y gwahanol gategorïau o wybodaeth.

I gael rhagor o ganllawiau ar ddefnyddio’r wefan ewch i’n tudalen Cymorth.

Y Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru

Llwybr Glyndŵr ger Llangynllo. Hawlfraint y Goron.
Llwybr Glyndŵr

Dathlwch hanes diwylliant a natur Cymru drwy ddilyn ôl troed Owain Glyndŵr ar hyd y llwybr heddychlon hwn.

Dysgwch fwy
Llwybr Clawdd Offa, Pencloddiau, haul a chymylau, golygfeydd dramatig, Sir Ddinbych
Llwybr Clawdd Offa

Byddwch yng nghanol hanes a bywyd gwyllt ger yr heneb hon o’r 8fed ganrif ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Dysgwch fwy
View of the Pembrokeshire Coast
Llwybr Arfordir Sir Benfro

Dilynwch yr arfordir mwyaf syfrdanol ym Mhrydain heibio i glogwyni geirwon, cildraethau cysgodol a thraethau godidog.

Dysgwch fwy

Y Llwybrau Cenedlaethol

Gyda 15 o Lwybrau Cenedlaethol a sawl rhan o Lwybr Arfordir Lloegr y Brenin Charles III eisoes ar agor, mae’n sicr y dewch chi o hyd i Lwybr sy’n berffaith i chi.

Mwy o Wybodaeth

Y Llwybrau Cenedlaethol

Darganfod mwy am y Llwybrau.

Dysgwch fwy
Siop

Dewch o hyd i bopeth fydd ei angen arnoch ar gyfer eich antur yn siop y Llwybrau Cenedlaethol.

Dysgwch fwy
Cysylltwch â ni

Os oes gennych gwestiwn neu adborth am y Llwybr, rydym yn hapus i helpu.

Dysgwch fwy