Llwybr Clawdd Offa: Cas-gwent i Drefyclo

Gan ddilyn y ffin rhwng Cymru a Lloegr ar hyd Clawdd Offa, o’r 8fed ganrif, mae’r Llwybr Cenedlaethol hwn yn eich tywys trwy dirweddau amrywiol, gan roi cyfle anhygoel i chi weld ein bywyd gwyllt brodorol.

Mae gan daith Llwybr Clawdd Offa trwy ororau Cymru a Lloegr rywbeth i bawb. Cafodd ei enwi ar ôl, ac mae’n aml yn dilyn, y clawdd ysblennydd hwnnw a adeiladwyd yn ôl gorchymyn y Brenin Offa yn yr 8fed ganrif.

Mae’r dirwedd bob amser yn odidog, o ddolydd glannau afon i fryniau tonnog a heddychlon Swydd Amwythig a Phowys ac ucheldir grugog, dramatig y Mynyddoedd Duon.

Mae’r Llwybr yn aml yn dilyn y Clawdd Offa trawiadol ei hun. Adeiladwyd y clawdd a’r ffos anhygoel hon â llaw yn ôl yn yr 8fed ganrif dan orchymyn y Brenin Offa o hen deyrnas Eingl-sacsonaidd, Mersia. Ei fwriad, mae’n debyg, oedd rhannu Mersia oddi wrth deyrnasoedd ei elynion yn yr hyn sydd bellach yn Gymru, ac mae rhai rhannau’n dal i ffurfio’r ffin rhwng Cymru a Lloegr hyd heddiw.

 

Trosolwg o'r Daith

Mae'r eiconau isod yn tynnu sylw at bellter, graddfa a thema'r daith hon.

Pellter

128.5km

Nifer o ddiwrnodau

7

Graddfa

Heriol

Thema

Hanes / Bywyd Gwyllt

Math o dirwedd

Cefn Gwlad Tonnog / Bryniau Uchel a Rhostir / Cysylltu Trefi a Phentrefi

Llwybr Clawdd Offa: Cas-went i Drefyclo

Mae pob cam o’r daith wedi cael ei gynllunio’n ofalus i’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch antur ar ddwy droed. Cliciwch ar y tabiau glas isod am fwy o wybodaeth.

Manylion y Daith

Mae’r daith hon ar gael gan Celtic Trails, cwmni sy’n credu nad oes ffordd well o weld a gwerthfawrogi’r byd naturiol o’n cwmpas na thrwy gerdded. Am dros 20 mlynedd, maen nhw wedi mwynhau helpu cerddwyr ar eu taith, gyda’u gwasanaeth personol unigryw a’u dewis o lefydd aros llawn cymeriad.

Mae’r daith yn cynnwys 8 noson mewn llety gyda 7 diwrnod o gerdded. Byddwch yn cyrraedd Cas-gwent ar ddiwrnod 1, yn dechrau cerdded ar ddiwrnod 2 ac yn gadael Trefyclo ar fore diwrnod 9. Mae’n bosib dewis cerdded y darn hwn o’r llwybr dros lai o ddiwrnodau.

Bydd modd cerdded y daith hon unrhyw bryd rhwng mis Mawrth a mis Hydref. Chi fydd yn dewis ar ba ddiwrnod yr hoffech i’ch gwyliau ddechrau.

Bydd eich gwyliau’n cynnwys llety o safon dda mewn cymysgedd o dai llety, ffermdai, tafarndai lleol a gwely a brecwast gyda chyfleusterau en-suite neu breifat lle bynnag y bo modd. Bydd hefyd yn cynnwys brecwast, trosglwyddo’ch bagiau, eich cludo rhwng y llety a’r llwybr lle bo angen, cynllunio’r daith a Phecyn Cerdded sy’n cynnwys Canllaw i’r Llwybr a map Harvey.

I ddarganfod mwy am y daith hon a gwneud ymholiad neu archebu, cliciwch ar y botwm Ymholi Nawr ar frig y dudalen. Mae’r botwm Cadw yn Fy Rycsac yn caniatáu i chi arbed teithlenni er mwyn eu gweld yn nes ymlaen, neu eu lawrlwytho fel dogfennau PDF.

Teithlen

Mae Cas-gwent, sy’n lle da i gychwyn crwydro Cymru, yn siwrne gyfleus mewn car, trên a bws. Fe ddewch chi o hyd i’r dref ychydig oddi ar yr M4 mewn car, ac i gerddwyr sy’n teithio ar drên, mae trenau rheolaidd o Lundain, gydag un gwasanaeth cysylltu byr o Gasnewydd.  Mae hefyd (fel arfer) ddau wasanaeth bws uniongyrchol yn gadael Llundain bob dydd.

Ar ôl gadael Cas-gwent, fe gewch olygfeydd trawiadol dros Gastell Cas-gwent (yr hynaf o’i fath ym Mhrydain), lle mae afonydd Hafren a Gwy yn cwrdd. Heibio i Glogwyni Sedbury yw’r man y daw’r Clawdd ei hun i’r golwg, ac mae’r llwybr yn rhedeg ar hyd y clogwyni calchfaen cyn dringo’n uchel trwy goedwigoedd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy. Mae’r darn hwn yn cynnwys rhai golygfannau gwirioneddol syfrdanol dros y dyffryn oddi tano. Yn eu plith mae golygfa dros Abaty Tyndyrn o Bulpud y Diafol – un o nifer o safleoedd ar y ffin â Chymru sy’n diferu mewn mytholeg a chwedloniaeth leol.

14.24km / 8.9 milltir

Yma, mae’r afon yn dod yn gwmni cyson i chi ar eich taith wrth i chi wneud eich ffordd dros bont haearn nodweddiadol Bigsweir ar lwybr sy’n crwydro’n ôl ac ymlaen rhwng Cymru a Lloegr. Yna, mae’r llwybr yn cyrraedd pentref Redbrook, lle mae dringfa serth i fyny heibio i Dŵr Llynges y Cymin o’r 17eg ganrif yn arwain at olygfeydd panoramig dros yr ardal gyfagos. Oddi yma, mae’r llwybr yn eich arwain dros borthdy canoloesol i dref farchnad brysur Trefynwy, lle mae’r dirwedd yn newid o afonydd a choedwigoedd afon Gwy i fryniau a chymoedd hardd y Sir Fynwy wledig. Yna, mae’n mynd â chi drwy King’s Wood at ddiwedd rhan heddiw o’r llwybr.

17.6 km / 11 milltir

Mae’r rhan hon yn mynd â chi drwy ardal o Gymru sydd, i raddau helaeth, heb newid rhyw lawer drwy hanes. Mae’n ddarn o gefn gwlad sy’n wyrdd a diarffordd iawn, ac mae’r llwybr yn eich tywys dros fryniau tonnog, trwy berllannau seidr a chefn gwlad agored, eang ar hyd ymylon y Mynyddoedd Duon. Mae Clawdd Offa’n diflannu o’r golwg yma, ond mae eich taith yn cynnwys llawer o fannau hanesyddol o ddiddordeb, gan gynnwys adfeilion abatai, capeli hyfryd a hen gaerau a chestyll. Un o’r rhai mwyaf trawiadol yw’r Castell Gwyn o’r 12fed ganrif, sy’n rhan o lwybr cylchol y Tri Chastell gerllaw.

16km / 10 milltir

Mae’r taith heddiw’n mynd â chi allan o bentref bach Llangatwg Lingoed ar y Gororau,  ymhellach i mewn i’r Mynyddoedd Duon tuag at Tarren y Gader. Ar eich ffordd, byddwch yn sylwi ar rai o gopaon amlycaf y Gororau, gan gynnwys yr Ysgyryd Fawr, Pen-y-fâl, yn ogystal â Bannau Brycheiniog.

Yn raddol, mae eich llwybr yn mynd yn fwy tonnog a diarffordd wrth i chi gyrraedd dolydd agored sy’n cynnwys dim ond ambell hen ffermdy a phentref bach. Bydd gan y rhain eu hen gapeli ac eglwysi eu hunain sy’n werth ymweld â nhw wrth basio. Mae’r llwybr yn dechrau dringo yn y fan hon wrth i chi ddod i gyrraedd bryngaer o’r Oes Haearn, sef Pentwyn, a cham cyntaf Tarren y Gader. Yma, mae dringfa serth, droellog cyn ymuno â llwybr sydd wedi’i ddiffinio’n dda ar hyd y copa sy’n mynd â chi i lawr i bentref Longtown ar gyfer diwedd y daith am heddiw.

14.4km / 9 milltir (gan gynnwys 2 filltir o ddisgynfa serth i’ch llety)

Mae mwy o ddringo ar y rhan hon o’r daith wrth i chi ddod yn ôl dros Darren y Gader, yn ogystal â’r pwynt uchaf ar y llwybr hwn, sy’n 2,300 o droedfeddi (700m). Wrth ddilyn y llwybr uchel hwn dros y gefnen, fe welwch rai o olygfeydd mwy godidog y daith hon, yn ogystal ag un o’r darnau hyfrytaf o gefn gwlad am filltiroedd, ac mae’n beth digon cyffredin gweld ceffylau gwylltion yn pori.

Wrth i’r llwybr ddisgyn yn ôl i’r cwm, fe welwch Briordy Llanddewi Nant Hodni, 1.5 milltir i ffwrdd, sy’n lle heddychlon i oedi a mwynhau golygfeydd y Mynyddoedd Duon o’ch cwmpas. Gallwch hefyd gael diod neu rywbeth i’w fwyta yn y Priory Cellar Bar.

20.8km / 13 milltir (gan gynnwys 2 filltir o ddisgynfa serth i’ch llety)

Mae’r llwybr heddiw yn cychwyn yn ôl ar hyd glannau afon Gwy, gan ddringo tuag at ymyl llwybr trwy goedwigoedd ac yn ôl allan i gaeau agored trwy blwyf Yr Eglwys Newydd ar y Cefn ac i fyny dros fryn Disgwylfa. Bydd modd gweld golygfeydd sy’n ymestyn dros yr hen Sir Faesyfed o fan yma a Bryn Hergest. Mae Ceintun, sydd fymryn dros y ffin yn Lloegr, yn un o’r ‘trefi cerddwyr’ enwocaf, ac mae’r bensaernïaeth o’r 16eg ganrif, y tafarndai croesawgar a’r hen strydoedd troellog sy’n arwain trwy’r dref wedi cadw llawer o swyn gwreiddiol yr ardal.

23.2 km / 14.5 milltir

Ar y rhan hon, fe welwch y Clawdd yn dod yn fwy amlwg eto ac yn dechrau cynyddu o ran ei uchder wrth i chi wneud eich ffordd dros Fryn Rushock, gan lynu wrth lwybr sy’n rhoi golygfa heb ei hail i chi dros y wlad o’ch cwmpas. Does dim dwywaith bod y Clawdd wedi’i gynllunio’n wreiddiol er mwyn darparu man da i weld unrhyw ‘drwbl’ yn dod o bell. Tuag at Drefyclo, bydd y llwybr yn mynd â chi i fyny dringfa ysgafn drwy Granner Wood i Drefyclo a Chanolfan Clawdd Offa, lle y gall ymwelwyr gael cipolwg ar hanes yr ardal a’r Clawdd. Gallwch hefyd gasglu pasbort Clawdd Offa yma i nodi’r rhannau o’r llwybr sydd wedi’u cwblhau gennych.

21.6 km / 13.5 milltir

Cymerwch ychydig oriau i grwydro tref farchnad hyfryd Trefyclo cyn mynd am adref. Yn gyforiog o hanes gyda thai hanner pren o’r 17eg ganrif a strydoedd troellog cul, mae’r dref wedi’i lleoli ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Llety

Mae Celtic Trails yn ymfalchïo yn eu dewis o lety o safon. Byddwch yn aros mewn amryw o lefydd gan gynnwys tai llety, ffermdai, tafarndai lleol a gwely a brecwast gyda chyfleusterau en-suite neu breifat lle bynnag y bo modd. Darperir brecwast. Bydd cludiant rhwng eich llety a’r llwybr hefyd yn gynwysedig lle bo angen.

Mae’r daith hon yn cynnwys llety am 8 noson.

Teithio

Mae bysus lleol yn galw mewn mannau ar neu ger Llwybr Clawdd Offa.

Ewch i Traveline i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen a chynllunio siwrneiau.

Gellir cyrraedd dau ben y llwybr yn hawdd ar y trên. Mae gorsaf Cas-gwent tua 2 filltir/3 km o ben deheuol y llwybr.

Mae gorsaf Trefyclo ar linell Calon Cymru gyda gwasanaethau rheolaidd yn mynd tua’r gogledd i Amwythig a thua’r de i Abertawe.

Ewch i wefan www.nationalrail.co.uk i gael gwybodaeth am yr amserlenni diweddaraf ac er mwyn cynllunio’ch taith.

 

Cyngor

Nid yw dringfeydd na disgyniadau serth yn gyffredin ar y llwybr hwn. Ond mae’n bosibl y bydd cerddwyr yn teimlo bod y llwybr yn eithaf anodd wrth iddo godi a disgyn drosodd a thro mewn mannau. Mae modd dadlau bod y darnau mwyaf heriol rhwng y Mynyddoedd Duon, Trefyclo a Cwm, lle mae’r llwybr yn dringo ac yn disgyn yn serth. Ond, wedi dweud hynny, mae’r olygfa o’r Mynyddoedd Duon yn arbennig o gofiadwy, ac yn werth y dringo.

 

Bwyd a Diod

Mae traddodiad mawr yng Nghymru o fyw oddi ar y tir, sy’n ymestyn yn ôl cyn belled ag oes hynafol y Celtiaid. Yn hanesyddol mae bwyd wedi bod yn iachus a syml – prydau wedi’u gwneud gyda dim ond ychydig o gynhwysion syml o ansawdd uchel. Heddiw mae yma lu o farchnadoedd ffermwyr organig, cynhyrchwyr artisan, gwyliau bwyd, a bwytai gwobredig yn aros i chwi eu mwynhau.

Prif adnoddau naturiol Cymru sydd wedi rhoi sail i’w thraddodiad coginio. Mae cig oen Cymru sy’n haeddiannol fyd-enwog, yn cael ei ffermio ar y mynyddoedd a’r dyffrynoedd gwyrddion. Mae caws wedi bod yn fwyd traddodiadol yng Nghymru ers amser maith ac mae cawsiau sydd wedi ennill gwobrau i’w gweld ar fyrddau cartrefi a bwytai fel ei gilydd. Cadwch lygad am fwydydd Cymreig arbennig fel bara lawr, bara brith a chawl – efallai mai dyma fydd bwyd y dyfodol!

Os ydych chi bron â thagu o syched ar ddiwedd diwrnod hir ar y Llwybr yna chewch chi mo’ch siomi – mae Cymru yn enwog am ei chwrw. O fragdy annibynnol mwyaf y Deyrnas Unedig, Brains, i fragdai bach lleol, mae gan y rhan fwyaf o ardaloedd Cymru fragdy eu hunain. Fe gewch chi seidr a gwinoedd lleol hefyd – mae dros 20 o winllannoedd yng Nghymru, yn cynhyrchu gwinoedd sydd wedi ennill gwobrau.

Map o'r Deithlen

Llusgwch y map a defnyddiwch yr offeryn chwyddo i lywio.

Wedi’i ychwanegu at eich Cynllunydd Taith isod

Cyfrifiannell pellter

Pellter a fesurwyd: - Milltiroedd (- km)

Cael proffil graddiant llwybr

Cynhyrchu
Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Customise your trip with our filters.

Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Ewch o un opsiwn i’r llall isod i ddangos y marcwyr sydd ar gael.

Cyffredinol Marchogaeth Beicio

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Gwasanaethau

Llwybrau

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Mae'r proffil o uchder eich teithlen yn cael ei greu pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiannell pellter (uchod) i dynnu llinell.

Teithlenni eraill a allai fod o ddiddordeb i chi

Chwilio am rywbeth tebyg? Dyma ychydig o syniadau i chi…