Llwybr Glyndŵr: Trefyclo i Fachynlleth

Mae Llwybr Glyndŵr yng nghefn gwlad trawiadol canolbarth Cymru. Ychydig o wyliau cerdded sydd mewn ardaloedd mor anghysbell a heb eu difetha.

Gan ddechrau yn Nhrefyclo, mae’r daith hon yn dilyn 73 milltir o Lwybr Cenedlaethol Llwybr Glyndŵr. Mae Trefyclo’n dref farchnad yng nghanolbarth Cymru ers 1230 a chynhelir marchnad anifeiliaid ffyniannus yno hyd heddiw. Mae’r dref yn gyforiog o hanes gyda’i thai hanner pren o’r 17eg ganrif a’i strydoedd cul a throellog. Wedi’i lleoli hanner ffordd rhwng dechrau a diwedd y Llwybr Cenedlaethol, daw eich antur i ben yn nhref fach Machynlleth. Yma, fe welwch chi Senedd-dy Owain Glyndŵr. Yn y 15fed ganrif, cyhoeddwyd Machynlleth yn brifddinas Cymru gan Owain Glyndŵr – Caerdydd yw’r brifddinas erbyn hyn, wrth gwrs.

Trosolwg o'r Daith

Mae'r eiconau isod yn tynnu sylw at bellter, graddfa a thema'r daith hon.

Pellter

117km

Nifer o ddiwrnodau

5

Graddfa

Cymhedrol

Thema

Hanes / Bywyd Gwyllt

Math o dirwedd

Cefn Gwlad Tonnog / Bryniau Uchel a Rhostir / Cysylltu Trefi a Phentrefi

Llwybr Glyndŵr: Trefyclo i Fachynlleth

Mae pob cam o'r daith wedi'i gynllunio'n ofalus i'ch helpu i wneud y gorau o'ch antur gerdded. Cliciwch ar y tabiau glas isod am fwy o wybodaeth.

Manylion y Daith

Mae’r deithlen hon ar gael gan Great British Walks, cwmni sy’n cael ei redeg ac sy’n eiddo i’r cerddwyr brwd Julie a Nick Thomas sy’n byw yn Sir Fynwy, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Nid yw Nick a Julie erioed wedi cymryd y ffaith eu bod yn byw mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn ganiataol ac mae’r ddau’n mwynhau cerdded yn yr awyr agored. Mae’r cwpl wedi treulio’r rhan fwyaf o’u gwyliau yn cerdded hyd a lled y Deyrnas Unedig, yn bennaf ar Lwybrau Cenedlaethol Cymru, Lloegr a’r Alban, gan ddarganfod uchafbwyntiau newydd bob tro ac ardaloedd hyfryd ar gyfer gwyliau cerdded yn ogystal â llefydd braf i aros.

Mae Great British Walks yn trefnu’r llety i gyd, gan gynnwys brecwast, trosglwyddo’ch bagiau rhwng y llefydd aros, a’ch cludo rhwng y llety a’r llwybr os yw’r llety oddi ar y llwybr. Maen nhw’n darparu eich cynlluniau taith ar ffurf Pecyn Gwyliau sy’n cynnwys Canllaw i’r Llwybr (a map, lle bo angen), eich teithlen, cyfarwyddiadau i’r llety a thaflenni am bethau o ddiddordeb yn lleol.

I ddarganfod mwy am y deithlen a gwneud ymholiad neu archebu, cliciwch ar y botwm Ymholi Nawr ar frig y dudalen. Mae’r botwm Cadw yn Fy Rycsac yn caniatáu i chi arbed teithlenni er mwyn eu gweld yn nes ymlaen, neu eu lawrlwytho fel dogfennau PDF.

Teithlen

Casglwch allweddi eich llety cyfforddus yn Nhrefyclo ac yna treuliwch weddill y dydd yn crwydro’r dref farchnad lewyrchus hon. Mae Trefyclo (sy’n dalfyriad o ‘Tref y clawdd’) ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae dau Lwybr Cenedlaethol yn cwrdd yma – Llwybr Glyndŵr a Llwybr Clawdd Offa.

Canolfan Clawdd Offa yn West Street yw’r Ganolfan Wybodaeth i Dwristiaid. Dewch i wybod am hanes y Brenin Offa a’i glawdd enwog, ac yna ewch i weld un o rannau’r clawdd sy’n dal i’w gweld o amgylch y dref.

Mae Llwybr Glyndŵr yn dechrau dringo ar unwaith i fyny stryd garegog oddi wrth dŵr y cloc yng nghanol y dref. Mae’n ymdroelli’n rhwydd allan o Drefyclo ac yna’n dringo trwy diroedd pori tawel Sir Faesyfed. Mae’r llwybr wedyn yn mynd â chi i fyny dros dir fferm at weundir gwyllt Beacon Hill – un o rannau mwyaf agored a deniadol y llwybr. Ddiwedd yr haf mae’r grug yn troi’r tir yn borffor cyn belled ag y gwelwch chi. Mae’r bryniau a’r gweundiroedd yn raddol newid yn dir fferm eto wrth i chi ddod i lawr i Felindre.

25 km / 15 milltir

Rydych chi’n gadael Felindre trwy gaeau glaswellt ac yn nes ymlaen yn cyrraedd lôn wledig dawel. Yna i fyny a thros y porfeydd unig, uchel heibio i wrthgloddiau hynafol Castell y Blaidd ac i lawr yn rhwydd i Lanbadarn Fynydd. O Lanbadarn mae’r llwybr yn codi’n gyflym eto i’r gweundir agored lle mae golygfeydd pell godidog i’r dwyrain a’r gorllewin. Wedi i chi fynd heibio’r piler triongli ar Ysgwd Ffordd sy’n 440 metr o uchder, fe fydd hi ar i lawr bob cam o’r ffordd i’r lôn hir sy’n mynd â chi i Abaty Cwm Hir.

25 km/15.5 milltir

Mae Abaty Cwm-hir wedi ei enwi  ar ôl yr abaty Sistersaidd a sefydlwyd ym 1143. Mae gan y pentref eglwys ddeniadol iawn sydd ar agor bob amser. Aiff y Llwybr â chi heibio’r eglwys ar hyd lôn laswelltog, gan ddringo i fyny ac i lawr yn raddol trwy goedydd a chaeau.

O Flaentrinant mae’r Llwybr yn igam-ogamu trwy gefn gwlad sydd gyda’r harddaf a mwyaf bryniog ar y llwybr. Fe welwch chi fferm wynt ar fryniau uchel gerllaw wrth i chi gerdded i lawr llethr serth at lawr y dyffryn corsiog sy’n frith o hen goetiroedd. Fe fyddwch chi’n haeddu seibiant pan gyrhaeddwch chi dref fywiog Llanidloes sydd â digonedd o dafarnau a chaffis i chi eu mwynhau.

24.5 km / 15.5 milltir

Mae’r llwybr yn dechrau ger adeilad hyfryd hen Neuadd y farchnad yng nghanol Llanidloes. Mae’n croesi Afon Hafren ac yna’n gwneud ei ffordd tuag at argae ysblennydd Clywedog ac adfeilion trawiadol mwynglawdd Bryntail. Yn fuan wedi hynny, byddwch yn cyrraedd glan Llyn Clywedog ac yn ddiweddarach yn dringo’n uchel uwchben y gronfa ddŵr ar y ffordd i Afon Biga. Mae’r safle picnic yma yn lle hyfryd i aros i badlo yn y nant. Ewch ymlaen ar hyd y llwybr gan fwynhau’r golygfeydd hyfryd a gwyro ychydig oddi ar y llwybr er mwyn cyrraedd eich llety dros nos yn Nylife.

22.5 km / 14.5 milltir

Bydd y rhan hon yn eich arwain i fyny at yr hen ffordd Rufeinig uwchben Dylife. Chwiliwch am olion gwyrdd caer fechan wrth i chi fynd ar hyd y llwybr a ddefnyddiwyd gan filwyr Rhufeinig bron i ddwy fil o flynyddoedd yn ôl. Ychydig yn nes ymlaen byddwch yn dod ar draws ceunant trawiadol Clywedog ac yn fuan wedi hynny byddwch yn cerdded dros y rhostir o amgylch Glaslyn. Mae Foel Fadian (564 metr) i’w weld uwchben y trac ac mae’n werth chweil gadael y llwybr a mynd at y piler triongli i weld y golygfeydd rhyfeddol i bob cyfeiriad o’r copa.

O Aberhosan mae dringfa serth o’ch blaen wrth i chi gerdded ar lonydd tawel ac yna trac fferm i fyny tuag at Cefn Modfedd. Yna byddwch yn cerdded trwy goedwig tuag at drac gwyrdd ymhell uwchlaw Cwm Cemrhiw. Yna ymlaen i ddarn hir o goed wedi’u cwympo a thir comin ymhell uwchlaw Machynlleth a fydd yn dod â chi i lawr i’r dref ar hyd y ‘Grisiau Rhufeinig’. Coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru a sefydlodd ei senedd yma yn 1404. Mae Machynlleth yn dref fywiog a difyr yn enwedig ar ddydd Mercher sy’n ddiwrnod marchnad.

22 km / 14.5 milltir

Llety

Mae cwmni Great British Walks bob amser yn trefnu llety lleol sydd wedi’i argymell, mor agos â phosib at Lwybr Glyndŵr ac yn ceisio rhoi blas i chi o wahanol fathau o lety. Felly efallai y byddwch yn aros mewn llety gwely a brecwast, gwesty, ffermdy o bosib, tafarn leol neu westy bach. Darperir cyfleusterau en-suite neu breifat lle bynnag y bo modd.

Mae’r daith 5 diwrnod hon yn cynnwys llety am 6 noson.

Teithio

Mae gwasanaethau bws lleol i/o Drefyclo ond gallan nhw fod yn anaml felly gwiriwch yr amseroedd cyn i chi deithio.

Mae gwasanaeth bws yr ‘Offa Hoppa’ yn cysylltu Ceintun, Llanandras a Threfyclo ac mae’n gwneud sawl siwrnai’r dydd.

Edrychwch ar wefan Traveline i gael gwybodaeth am yr amserlenni diweddaraf ac er mwyn cynllunio’ch taith.

Mae Trefyclo’n un o’r gorsafoedd ar reilffordd hyfryd Calon Cymru. Ymhlith y llefydd eraill mae Abertawe (3¼ awr), Llandeilo (2¼ awr), Llanwrtyd (80 munud), Llandrindod (38 munud) ac Amwythig (54 munud).

Ewch i wefan www.nationalrail.co.uk am wybodaeth am y gwasanaethau trên ac i gynllunio’ch taith.

Cyngor

Gall unrhyw un sy’n weddol ffit gerdded Llwybr Glyndŵr, er ei fod yn ddigon bryniog, yn aml yn disgyn i waelodion cymoedd ac yn esgyn i gopaon y bryniau sawl gwaith mewn diwrnod. Mae’r daith hon yn gymhedrol ac yn cynnwys 5 diwrnod o gerdded rhwng 22 a 25 km bob dydd (14-15 milltir bob dydd). Dylech fod yn ymwybodol ei fod yn croesi tir sydd weithiau’n arw ac anghysbell. Bydd y gallu i ddefnyddio cwmpawd yn fendith os yw’n niwlog.

Bwyd a diod

Mae traddodiad mawr yng Nghymru o fyw oddi ar y tir, sy’n ymestyn yn ôl cyn belled ag oes hynafol y Celtiaid. Yn hanesyddol mae bwyd wedi bod yn iachus a syml – prydau wedi’u gwneud gyda dim ond ychydig o gynhwysion syml o ansawdd uchel. Heddiw mae yma lu o farchnadoedd ffermwyr organig, cynhyrchwyr artisan, gwyliau bwyd, a bwytai gwobredig yn aros i chwi eu mwynhau.

Prif adnoddau naturiol Cymru sydd wedi rhoi sail i’w thraddodiad coginio. Mae cig oen Cymru sy’n haeddiannol fyd-enwog, yn cael ei ffermio ar y mynyddoedd a’r dyffrynoedd gwyrddion. Mae caws wedi bod yn fwyd traddodiadol yng Nghymru ers amser maith ac mae cawsiau sydd wedi ennill gwobrau i’w gweld ar fyrddau cartrefi a bwytai fel ei gilydd. Cadwch lygad am fwydydd Cymreig arbennig fel bara lawr, bara brith a chawl – efallai mai dyma fydd bwyd y dyfodol!

Os ydych chi bron â thagu o syched ar ddiwedd diwrnod hir ar y Llwybr yna chewch chi mo’ch siomi – mae Cymru yn enwog am ei chwrw. O fragdy annibynnol mwyaf y Deyrnas Unedig, Brains, i fragdai bach lleol, mae gan y rhan fwyaf o ardaloedd Cymru fragdy eu hunain. Fe gewch chi seidr a gwinoedd lleol hefyd – mae dros 20 o winllannoedd yng Nghymru, yn cynhyrchu gwinoedd sydd wedi ennill gwobrau.

Map o'r Deithlen

Llusgwch y map a defnyddiwch yr offeryn chwyddo i lywio.

Wedi’i ychwanegu at eich Cynllunydd Taith isod

Cyfrifiannell pellter

Pellter a fesurwyd: - Milltiroedd (- km)

Cael proffil graddiant llwybr

Cynhyrchu
Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Customise your trip with our filters.

Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Ewch o un opsiwn i’r llall isod i ddangos y marcwyr sydd ar gael.

Cyffredinol Marchogaeth Beicio

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Gwasanaethau

Llwybrau

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Mae'r proffil o uchder eich teithlen yn cael ei greu pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiannell pellter (uchod) i dynnu llinell.

Teithlenni eraill a allai fod o ddiddordeb i chi

Chwilio am rywbeth tebyg? Dyma ychydig o syniadau i chi…