Telerau ac Amodau

Dyma’r Telerau ac Amodau ar gyfer defnyddio  www.nationaltrail.co.uk  (‘y Safle’) gwefan Llwybrau Cenedlaethol.

Mae’r termau a ddefnyddir yn golygu’r canlynol:

Y/Safle hwn = www.nationaltrail.co.uk
Ni = Natural England
Chi = Defnyddiwr  www.nationaltrail.co.uk 

Y defnydd a wneir o www.nationaltrail.co.uk  

Mae mynediad i’r Safle hwn a’r defnydd ohono yn amodol ar dderbyn y Telerau a’r Amodau hyn. Os nad ydych yn cytuno â’r Telerau a’r Amodau hyn, rhowch y gorau i ddefnyddio’r Safle ar unwaith. 

Rydym yn cadw’r hawl i newid y Telerau a’r Amodau hyn ar unrhyw adeg. 

Cywirdeb y wybodaeth ar y safle 

Er ein bod yn ymdrechu i sicrhau bod yr holl wybodaeth ar y Safle yn gywir, ni allwn dystio y bydd yr holl wybodaeth yn gywir ac yn gyfredol bob amser. Mae’r Saflen cynnwys llawer iawn o ddata o amrywiaeth o ffynonellau, ac mae camgymeriadau’n debygol o ddigwydd – er enghraifft, manylion llety neu ddarparwyr gwasanaethau. Ni allwn, felly, dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am gamgymeriad neu hepgoriad o ran cynnwys y Safle. 

Cysylltwch â ni i ddweud wrthym os byddwch yn dod o hyd i unrhyw wybodaeth anghywir ar y Safle, a byddwn yn ei chywiro cyn gynted ag y gallwn. 

Mae rhan o’r Safle hwn yn cynnwys deunyddiau a gyflwynwyd i Natural England gan aelodau o’r cyhoedd a thrydydd partïon. Cyfrifoldeb y trydydd partïon hyn yw sicrhau bod y deunyddiau a gyflwynir i’w cynnwys ar y Safle hwn yn cydymffurfio â’r gyfraith. Ni allwn warantu cywirdeb na dibynadwyedd y deunydd hwn ac rydym drwy hyn yn gwadu unrhyw gyfrifoldeb am gamgymeriad, hepgoriad neu anghywirdeb yn y deunydd, neu am unrhyw gamddehongli, colled, siom, esgeulustod neu ddifrod a achosir wrth ddibynnu ar unrhyw ddeunydd a gynhwysir ar y Safle. 

Ni allwn ychwaith dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw fethiant, neu fethiant honedig, i ddarparu’r gwasanaethau y cyfeirir atynt ar y Safle neu mewn achos o fethdaliad, achos o ddiddymu neu roi’r gorau i fasnachu unrhyw gwmni, unigolyn neu fusnes y cyfeirir ato ar y Safle 

Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys unrhyw wefan y ceir dolen hyperdestun iddi o’r Safle hwn. Darperir dolenni o’r fath er hwylustod i chi. 

Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw iawndal sy’n codi mewn contract neu fel arall yn sgil defnyddio neu anallu i ddefnyddio’r Safle hwn, neu unrhyw ddeunydd sydd ynddo, neu o unrhyw weithred neu benderfyniad a gymerwyd o ganlyniad i ddefnyddio’r Safle hwn neu unrhyw ddeunydd o’r fath. 

Hawlfraint 

Oni nodir fel arall, Natural England neu Natural England a Chyfoeth Naturiol Cymru sy’n berchen ar yr hawlfraint ac unrhyw hawliau eraill ym mhob deunydd ar y safle hwn. Caniateir i chi argraffu a lawrlwytho darnau o’r safle hwn ar yr amodau canlynol: 

  • Mae’r defnydd o ddogfennau a graffeg cysylltiedig ar y safle hwn ar gyfer gwybodaeth a/neu ddefnydd personol, anfasnachol yn unig; 
  • Dim ond at ddibenion gwylio’n ddiweddarach y gellir defnyddio unrhyw gopïau o’r tudalennau hyn a gedwir ar ddisg neu unrhyw gyfrwng storio arall, neu er mwyn argraffu darnau ar gyfer eu defnyddio’n bersonol, anfasnachol; 
  • Ni ddylid addasu unrhyw ddogfennau neu raffeg berthynol ar y safle hwn mewn unrhyw ffordd; 
  • Nid yw’r graffeg ar y safle hwn i’w defnyddio ar wahân i’r testun cysylltiedig; 
  • Mae’n rhaid i hysbysiad hawlfraint y Llwybrau Cenedlaethol (© Llwybrau Cenedlaethol) ymddangos ym mhob copi; 
  • Ni cheir atgynhyrchu na storio unrhyw ran o’r safle hwn ar unrhyw wefan arall heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Natural England. 

Arolwg Ordnans  

Mae holl fapio sail yr Arolwg Ordnans a ddefnyddir i arddangos gwybodaeth ar wefan y Llwybr Cenedlaethol wedi’i ddarparu o dan  Gytundeb Mapio’r Sector Cyhoeddus  gyda’r Arolwg Ordnans ac mae’n ddarostyngedig i Hawlfraint yr Arolwg Ordnans – (c) Hawlfraint y Goron 2020.  Arolwg Ordnans 100022021. 

Cytundeb Mapio’r Sector Cyhoeddus 

Cewch drwydded ddi-dâl, heb fod yn gyfyngedig, i weld y data trwyddedig at ddibenion anfasnachol yn unig am y cyfnod y mae Natural England yn sicrhau ei fod ar gael;
Ni chaniateir i chi gopïo, is-drwyddedu, dosbarthu, gwerthu neu fel arall sicrhau bod y data trwyddedig ar gael i drydydd partïon mewn unrhyw ffurf.
Yr Arolwg Ordnans yn unig sydd â’r hawliau trydydd parti i orfodi telerau’r drwydded hon. 

I gael rhagor o wybodaeth am drwyddedu’r Arolwg Ordnans, ewch i https://www.ordnancesurvey.co.uk/business-government/licensing-agreements/copyright-acknowledgements 

Nid ydym yn rhoi unrhyw wybodaeth adnabod i’r Arolwg Ordnans. 

Ffotograffau ar y safle 

Os gwelwch chi ffotograff sy’n eiddo i chi neu eich sefydliad nad yw wedi’i gydnabod, yna cysylltwch â ni er mwyn dweud wrthym. 

Rydym yn cadw’r hawl i ddefnyddio unrhyw ffotograffau sy’n cael eu hychwanegu at y safle at ddibenion hyrwyddo. 

Rydym yn cadw’r hawl i ddileu unrhyw ddelweddau sy’n amhriodol yn ein tyb ni. 

Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n ychwanegu delweddau gael yr hawl i wneud hynny – nid ydym yn gyfrifol am hawlfraint y delweddau a ychwanegir gan unrhyw un heblaw amdanom ni ein hunain. Os bydd unrhyw anghydfod yn codi o ran hawlfraint, byddwn yn cael gwared ar y delweddau dadleuol. 

Gwarchod eich preifatrwydd 

Mae Natural England wedi ymrwymo i warchod eich preifatrwydd fel defnyddiwr ein gwefan  www.nationaltrail.co.uk, a chyfrinachedd unrhyw wybodaeth bersonol y gallech ei rhoi i ni yn ystod eich ymweliad â’r Safle. 

Data a gyflwynir gennych 

Bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei darparu i’r safle, fel lluniau, gwybodaeth am lety, ymholiadau, adroddiadau am broblem neu restrau ar gyfer y wefan, yn cael ei chasglu yn ein cronfa ddata. Defnyddir y wybodaeth a ddarperir ar gyfer ateb ymholiadau a cheisiadau gan ddefnyddwyr y safle. Mae’r wybodaeth hefyd yn ein helpu i wella ein gwefan, drwy ei gwneud yn fwy personol i bob defnyddiwr unigol. 

Mae rhestrau lletyn cael eu cynhyrchu gan y safle a’u hallgludo ar ffurf pdf. Mae’r rhain yn cynnwys crynodeb o’r wybodaeth am eich busnes, ond yn eithrio’r cyfeiriad e-bost gweinyddol. 

Mae gennym ddisgresiwn i olygu, newid neu ddileu unrhyw ddata y byddwch yn ei ychwanegu. 

Os byddwch yn cyflwyno ymholiad neu adborth drwy e-bost neu drwy’r wefan, efallai y byddwn yn trosglwyddo eich manylion cyswllt i’r Rheolwr Llwybr perthnasol. Dylech fod yn ymwybodol bod gan Reolwyr Llwybr eu polisïau diogelu data eu hunain ac fe’ch cynghorir i gysylltu â nhw am fanylion os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut y caiff eich data ei ddefnyddio. 

Oni bai ei bod yn ofynnol i ni rannu eich data perthnasol yn ôl y gyfraith, ni fyddwn fel arall yn rhannu, gwerthu na dosbarthu unrhyw wybodaeth bersonol (h.y. data nad yw’n cael ei gyhoeddi ar y wefan) heb eich caniatâd. 

Cwcis a Dadansoddeg 

I gael gwybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, cliciwch  yma 

Lle mae cwcis dadansoddol wedi cael eu galluogi gan y defnyddiwr, rydym yn cofnodi dadansoddeg gan ddefnyddio’r gwasanaeth trydydd parti, Google. Rydym yn gwneud hyn er mwyn deall sut mae gwefan y Llwybrau Cenedlaethol yn cael ei defnyddio. Yn dibynnu ar osodiadau preifatrwydd eich dyfais neu borwr, efallai y bydd y dadansoddeg yn casglu eich dynodwr hysbysebu. Gall y dadansoddeg hefyd gofnodi data technegol am eich dyfais neu borwr gan gynnwys y math o borwr a chyfeiriad IP. Fodd bynnag, mae Google yn cwtogi’r data IP cyn iddo fynd i mewn i’r adroddiadau dadansoddol, felly ni allwch gael eich adnabod yn ôl eich cyfeiriad IP trwy Google Analytics. Mae gwybodaeth y dadansoddeg yn cael ei chadw ar weinyddion Google o fewn ardal a ddiogelir gan gyfrinair. 

Eich hawliau 

Mae gennych hawl i weld pa ddata personol sydd gennym amdanoch. I gael copi o’r wybodaeth bersonol a ddelir gennym amdanoch, ebostiwch  nationaltrails@naturalengland.org.uk 

Os ydych yn credu bod unrhyw wybodaeth amdanoch yr ydym yn ei dal yn anghywir neu’n anghyflawn, ysgrifennwch neu anfonwch e-bost atom cyn gynted â phosibl gan ddefnyddio’r cyfeiriad isod. Byddwn yn cywiro unrhyw wybodaeth a ganfuwyd yn anghywir yn syth. 

Dylid anfon unrhyw gwestiynau sydd gennych mewn perthynas â’r polisi hwn neu sut rydym yn defnyddio eich data personol i nationaltrails@naturalengland.org.uk 

Darparwyr Llety 

Rhaid i bob llety a ychwanegir i’r safle dderbyn archebion gan gerddwyr. 

Mae cael eich rhestru yn rhad ac am ddim. 

Mae Natural England yn cadw’r hawl i gysylltu â chi unrhyw bryd ynglŷn â’ch rhestriad. 

Efallai y byddwn yn adolygu rhestrau llety ac yn dileu unrhyw gofnodion sydd wedi dyddio. 

Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data? 

Rydym yn dibynnu ar y sail gyfreithiol ganlynol, o dan y gyfraith diogelu data, ar gyfer prosesu eich data personol: 

Oherwydd ein bod wedi cael eich caniatâd (e.e. lle rydych yn cysylltu â ni gydag ymholiad neu os ydych yn cydsynio i dderbyn marchnata oddi wrthym ni). 

Rydym yn casglu ac yn defnyddio eich data gan ei fod yn angenrheidiol ar gyfer sicrhau ein buddiannau cyfreithlon wrth hyrwyddo a darparu gwybodaeth am y Llwybrau Cenedlaethol. 

Am ba hyd y caiff y data ei storio? 

Byddwn yn cadw eich data gyhyd ag y bydd gennym reswm busnes dros wneud hynny, sydd fel arfer yn golygu gyhyd â bod y wefan yn parhau i fod yn weithredol neu eich bod yn gofyn i ni ddileu’r data hwnnw. 

Manylion cyswllt 

National Trails
Mail Hub,
Natural England
County Hall,
Spetchley Road,
Worcester. WR5 2NP