Best Offa - Awydd peint?

Am bob peint a photel a werthir, mae Monty’s Brewery yn rhoi rhodd ariannol i gefnogi Llwybr Clawdd Offa. Felly, gallwch deimlo’n dda wrth gael diod ar ddiwedd eich diwrnod.

Monty’s Brewery sy’n bragu cwrw swyddogol Llwybr Clawdd Offa. Mae’r cwrw melynfrown hwn yn cael ei fragu â chydbwysedd da rhwng y brag a’r hopys. A gyda chryfder o 4%, mae’n berffaith ar ôl diwrnod hir yn cerdded y Llwybr. 

Gallwch brynu’r cwrw hwn mewn poteli o  Best of British  ac o’r gasgen mewn tafarndai ar hyd y Llwybr.