Countryside Code bilingual logo

 

Mae nifer o godau Cefn Gwlad wedi eu cyhoeddi a’u hyrwyddo dros sawl degawd – mae’r llinell amser isod yn dangos manylion hanes eu datblygiad. Efallai bod yr iaith wedi newid, y deunyddiau hyrwyddo wedi esblygu a’r cyfryngau cymdeithasol wedi cymryd drosodd ond mae fersiwn newydd 2021 o’r Cod yn cynnwys yr un negeseuon sylfaenol â fersiwn 1951- diogelu’r amgylchedd a pharchu pobl eraill sy’n byw, gweithio ac ymweld â’r awyr agored wrth fwynhau’r profiad yn ddiogel.

Dros 70 mlynedd o’r Cod Cefn Gwlad

Y 1930au a’r 1940au

Tyfodd cnewyllyn Cod 1951 yn y 1930au a’r 1940au pan gynhyrchwyd cod ac iddo saith pwynt, sef Y Cod Cefn Gwlad – y Cerddwyr, gan Gymdeithas y Cerddwyr, yn ogystal â Chod Cefn Gwlad y Gymdeithas Mannau Agored a’r Cod Cwrteisi a gynhyrchwyd gan yr Ymgyrch Diogelu Lloegr Wledig

1951

Arweiniodd Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 at gynhyrchu’r Cod Cefn Gwlad cenedlaethol cyntaf, a oedd yn seiliedig ar ymgynghoriad gydag 17 sefydliad a oedd â buddiant. Cafodd y Cod Cefn Gwlad ei gyhoeddi ym 1951 gan y Comisiwn Parciau Cenedlaethol. Roedd yn cynnwys y deg neges ganlynol:

  • “Gochelwch rhag pob perygl o dân
  • Caewch bob giât
  • Cadwch gŵn o dan reolaeth briodol
  • Cadwch at lwybrau ar dir fferm
  • Osgowch ddifrodi ffensys, cloddiau a waliau
  • Peidiwch â gadael unrhyw sbwriel
  • Gwarchodwch gyflenwadau dŵr
  • Amddiffynnwch fywyd gwyllt, planhigion gwyllt a choed
  • Ewch yn ofalus ar ffyrdd y wlad
  • Parchwch fywyd cefn gwlad.” (Comisiwn Parciau Cenedlaethol, 1951)

Adroddodd y Comisiwn Parciau Cenedlaethol yn 1951:

“Rydym yn ystyried y Cod Cefn Gwlad yn ganolbwynt y byddwn yn datblygu corff o wybodaeth am gefn gwlad o’i gwmpas. Wrth i wybodaeth ledaenu, dylai fod llawer llai o ddifrod a achosir yn aml gan bobl sydd â bwriadau da ond sy’n hollol ddifeddwl. Yn sgil hyn i gyd gobeithiwn y bydd modd dyfnhau parch a chyfeillgarwch rhwng pobl y wlad a phobl y dref.’

O’r 1950au ymlaen cynhyrchwyd deunyddiau hyrwyddo amrywiol gan gynnwys llyfrynnau, posteri a hysbysebion teledu. Dyluniodd Norman Thelwell gyfres o gartwnau i helpu i hyrwyddo’r Cod Cefn Gwlad newydd.

Ar hyd y 50au a’r 60au, defnyddiwyd y Cod gan ymwelwyr i gefn gwlad a pherchnogion tir ac yn ystod y cyfnod hwn cafodd ei gyfieithu am y tro cyntaf i’r Gymraeg. Enillodd cenedlaethau o sgowtiaid a geidiaid eu bathodyn Cod Cefn Gwlad; cyhoeddodd y Swyddfa Hysbysrwydd Ganolog y cod ar y teledu– Public Information Films | 1964 to 1979 | Film index | Joe & Petunia – Acceptance of the Country Code (nationalarchives.gov.uk); Hysbysebodd British Railways y cod ar drenau; hyrwyddodd Butlins y cod mewn gwersylloedd gwyliau; defnyddiwyd logo’r Cod Cefn Gwlad gan y Swyddfa Bost ar eu peiriannau ffrancio, ac arddangosodd ffatrïoedd y cod yn eu ffreuturau.

Y 1960au tan y 1980au

Y 1960au tan y 1980au – Dynodwyd y llwybr troed pellter hir cyntaf, Llwybr y Penwynion (Pennine Way) yn 1965, ac ysgogwyd yr angen am god i annog defnydd cyfrifol o gefn gwlad gan boblogaeth oedd yn teithio fwyfwy ac a oedd â diddordeb cynyddol mewn hamdden. Daeth hwn yn 1979 pan gafodd y Cod Cefn Gwlad ei adolygu gan y Comisiwn Cefn Gwlad (Comisiwn y Parciau Cenedlaethol gynt) a arweiniodd at y Cod nesaf gydag un ar ddeg o negeseuon allweddol, a gyhoeddwyd yn 1982:

  1. Mwynhewch gefn gwlad a pharchwch y bywyd a’r gwaith sydd yno
  2. Gochelwch rhag pob perygl o dân
  3. Caewch bob giât
  4. Cadwch eich cŵn o dan reolaeth agos
  5. Cadwch at lwybrau cyhoeddus ar dir fferm
  6. Defnyddiwch giatiau a chamfeydd i groesi ffensys, cloddiau a waliau
  7. Gadewch lonydd i dda byw, cnydau a pheiriannau
  8. Ewch â’ch sbwriel adref gyda chi
  9. Helpwch i gadw dŵr yn lan
  10. Gwarchodwch fywyd gwyllt, planhigion a choed
  11. Cymerwch ofal arbennig ar ffyrdd y wlad
  12. Peidiwch â gwneud unrhyw sŵn diangen.

Yr Unfed Ganrif ar Hugain

2000 – Daeth y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy i fodolaeth ynghyd â’r ddyletswydd statudol i’r Asiantaeth Cefn Gwlad a Chyngor Cefn Gwlad Cymru (ar y pryd) gyhoeddi cod ymarfer i bobl oedd yn defnyddio’r hawliau mynediad newydd.

2004 – Lansiwyd fersiwn newydd eto o’r Cod gydag ymgyrch proffil uchel (Aardman Animation/ Creature Comforts) oedd yn cyd-daro â’r broses o hyrwyddo’r hawliau mynediad newydd o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.  Cynlluniwyd y Cod gyda’i logo newydd i roi sicrwydd i reolwyr tir wrth i’r hawliau mynediad cyhoeddus ddechrau, a gwneud y cyhoedd yn ymwybodol o’u hawliau a’u cyfrifoldebau ar draws cefn gwlad i gyd. Cynhyrchwyd y Cod diwygiedig trwy bartneriaeth rhwng yr Asiantaeth Cefn Gwlad a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.

Yn 2010, daeth ymgyrch Aardman i ben a diwygiwyd y Cod ychydig bach er mwyn cynnwys cyfeiriad at fynediad i’r arfordir – ehangu’r hawliau mynediad i Lwybr Arfordir Lloegr.

Yn 2010, dechreuodd Cyfoeth Naturiol Cymru (Cyngor Cefn Gwlad Cymru gynt) ddatblygu ‘Teulu’r Cod Cefn Gwlad’ yn ychwanegol at y Cod Cefn Gwlad, sy’n cynnwys: Y Cod Cerdded Cŵn, Y Cod Defnyddwyr Llwybrau, Cod y Glannau, Y Cod Canŵio, Y Cod Pysgota a’r Cod Nofio yn y Gwyllt.  Roedd y codau hyn, ynghyd â chyfres o animeiddiadau a grëwyd yn 2019 yn ychwanegu cryfder a manylder i gefnogi’r Cod Cefn Gwlad.

In 2017 gwnaeth adolygiad Pwyllgor Dethol Tŷ’r Arglwyddi o ddull cyflwyno Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig dynnu sylw at y ffaith nad oedd Natural England wedi diwygio’r cod ers 2006.  Ymrwymodd Natural England, mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud adolygiad sylweddol, a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer 2021 i gyd-daro â chwblhau Llwybr Arfordir Lloegr.

2021 oedd pen-blwydd y Cod Cefn Gwlad yn 70. Ail-lansiwyd y Cod cyhoeddus ym mis Ebrill 2021 ac yna’r Cyngor i Reolwyr Tir ym mis Chwefror 2022. Roedd hwn yn gychwyn ar ymgyrch tymor hir i hyrwyddo negeseuon y Cod – eich canllaw i fwynhau parciau a dyfrffyrdd, yr arfordir a chefn gwlad. Gallwch weld y fideo lansio yma.