Gwybodaeth am y Llwybr

Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro, sy’n troi a throelli ar hyd arfordir mwyaf syfrdanol Prydain, yn cynnig 186 milltir (299km) o gerdded rhyfeddol. Gyda’i glogwyni geirwon, cildraethau cysgodol, traethau llydan, braf ac aberoedd sy’n treiddio’n ddwfn i ganol cefn gwlad, mae’n llwybr gwirioneddol ogoneddus. Mwynhewch y blodau gwyllt a’r adar ar hyd yr arfordir, a’r bywyd gwyllt morol os fyddwch chi’n ffodus, ac ymlaciwch ar ddiwedd y dydd yn un o’r pentrefi bach arfordirol.

Paratoi ar gyfer eich taith

Dewiswch y tabiau saeth glas isod am fwy o fanylion.

Ynglŷn â'r Llwybr

Mae’r Llwybr yn 186 milltir (299km) o hyd. 

Mae’r teithlyfr swyddogol yn argymell taith sy’n cymryd deuddeg diwrnod (gan gerdded tua 15 milltir (24km) bob dydd. Mae hwn yn gyflymder go heriol ddydd ar ôl dydd, ac mae’n werth cynllunio ar gyfer cael ambell ddiwrnod byrrach neu i ymestyn y daith dros gyfres o ymweliadau. 

Yn ei gyfanrwydd, mae Llwybr yr Arfordir yn her gorfforol sylweddol – honnir bod y 35,000 troedfedd o esgyn a disgyn yn gyfystyr â dringo Everest – ond gellir ei fwynhau mewn darnau byrrach, sy’n hygyrch i bobl o bob oedran a gallu, gyda’r pentrefi bach arfordirol yn eich croesawu a’ch denu i fwynhau ymhellach.  

O ystyried pob dargyfeiriad ar gyfer llanwau mawr, stormydd a meysydd tanio, mae llwybr o dros 193 o filltiroedd (312km) llwybr yn cael ei gynnal. Gan ddibynnu ar yr amodau a’r amgylchiadau, bydd cerddwyr yn teithio rhwng 168 milltir (270km) a 186 milltir (300km) o’r llwybr. Wedi i chi ychwanegu’r gwaith cerdded o’ch llety i’r Llwybr ac yn ôl, mae’n debygol y bydd y cyfanswm tipyn dros 200 milltir (322km). 

Nid oes unrhyw ddargyfeiriadau mawr ar y llwybr ar hyn o bryd.

Archwilio’r Llwybr

Maes Awyr Caerdydd yw’r agosaf at y Llwybr. Ymhlith y cwmnïau hedfan sy’n rhedeg hediadau rheolaidd, wedi’u hamserlennu, yn ddomestig a rhyngwladol, i mewn ac allan o Gaerdydd mae KLM, Qatar Airways a Ryanair. 

I gyrraedd Amroth (pen deheuol y Llwybr) ewch ar y trên i Gilgeti ac yna daliwch fws rhif 351. 

I gael gwybodaeth fanwl am y gwasanaeth trenau ewch i www.nationalrail.co.uk 

I gyrraedd Llandudoch (pen gogleddol y Llwybr) ewch ar y trên i Hwlffordd ac yna’r bws 412 i Aberteifi. Yna ewch ar y bws cerddwyr 405 (Poppit Rocket) neu cerddwch i Landudoch, 2.5km. Mae’r 405 hefyd yn mynd i Poppit – 2km arall o gerdded ar hyd y ffordd (does dim palmant). 

Mae gwasanaethau bws National Expres o Lundain a Birmingham. Mae gan Sir Benfro fflyd o bum gwasanaeth bws arfordirol sy’n rhedeg bob dydd o’r wythnos drwy gydol yr haf. Mae’r bysiau’n gwasanaethu’r rhan fwyaf o’r 186 milltir o Lwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro, a gellir cael mwy o wybodaeth ar wefan Cyngor Sir Penfro. 

Mae modd cael gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus a help gyda chynllunio eich taith ar wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio 0871 200 22 33. 

Mae dewis da o lefydd aros yn agos at y Llwybr a gallwch eu gweld ar y Map Rhyngweithiol isod neu ar dudalen Creu Eich Taith Eich Hun yma. 

Lawrlwythwch ac argraffwch restr o’r llefydd i aros ar y Llwybr ar gyfer pob rhan o’r Llwybr. 

Mae’r ardal yn boblogaidd a gall llefydd aros lenwi’n fuan yn y tymor brig, felly rydyn ni’n argymell eich bod yn archebu mewn da bryd. 

Mae yna ddigon o feysydd gwersylla ar hyd y Llwybr, a gallwch eu gweld yma. Os ydych chi’n bwriadu gwersylla, cofiwch nad yw hi’n gyfreithlon i wersylla’n wyllt yng Nghymru na Lloegr – bydd angen i chi aros mewn gwersylloedd swyddogol. 

Mae yna sawl cwmni a all drefnu i gludo eich bagiau i chi, eich helpu chi i gynllunio’ch taith, neu drefnu pecyn llawn i chi. 

Mae rhestr o’r cwmnïau hyn i’w gweld yma. 

Mae gan Lwybr Arfordir Sir Benfro rywbeth i’w gynnig drwy gydol y flwyddyn, ac mae’n well gan lawer gerdded pan na fydd hi mor boeth, yn y gwanwynn neu’r hydref, a hyd yn oed ar ddiwrnodau iachusol yn y gaeaf. Mae’r adeg orau’n dibynnu arnoch chi i raddau helaeth, ar eich diddordebau ac a yw’n well gennych chi’r tymor gwyliau prysur, neu fisoedd tawelach y gwanwyn, hydref a gaeaf. Gall fod yn anodd dod o hyd i lety yn yr haf, yn enwedig am un noson yn unig, felly argymellir eich bod yn archebu mewn da bryd. 

Y gwanwyn yw’r adeg orau i weld adar yn mudo a pharu a blodau gwyllt. Mae’r hydref hefyd yn dda ar gyfer adar sy’n mudo, a lloi morloi. 

Mae llawer o bobl yn cerdded y llwybr o Landudoch yn y gogledd i Amroth yn y de. Fel hyn y mae’r rhan fwyaf o deithlyfrau wedi’u hysgrifennu, a dyma sut y mae’r  camfeydd a’r clwydi wedi’u rhifo. Ond does dim ffordd gywir ac anghywir – mae digon o bobl yn mwynhau cerdded i’r naill gyfeiriad a’r llall. 

Ymhlith y pwyntiau eraill i’w hystyried mae: 

  • Wrth gerdded o’r gogledd i’r de, mae’r diwrnod cyntaf o gerdded, o Landudoch i Drefdraeth yn rhyw 16 milltir, gan godi a disgyn tua 3,000 troedfedd. 
  • Os ydych chi’n cerdded o’r de i’r gogledd, mae’r diwrnod cyntaf o Amroth yn cynnig digonedd o gyfleoedd i gael lluniaeth a llety. Mae’r darn 16 milltir rhwng Amroth a Skrinkle yn ddiwrnod digon heriol ynddo’i hun. Ceir sawl bryn serth, ond mae tafarn bob rhyw bedair milltir, o leiaf, a digonedd o gaffis. Mae tref Dinbych-y-pysgod yn cynnig digon o ddewis ar gyfer gorffwyso dros nos yn gynnar os yw’r corff neu’r offer yn dioddef. 
  • Does dim lluniaeth na gwasanaethau ger y llwybr rhwng Poppit a Thraeth Trefdraeth. Dyma’r rhan fwyaf heriol o Lwybr yr Arfordir, ac nid yw’n daith i rai anffit. Byddai’n werth i rai sy’n anghyfarwydd â cherdded yn bell, drefnu llety ymlaen llaw yn Nhrewyddel, a rhannu’r daith hon yn ddwy ran 8 milltir o hyd

Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n mynd â  map a/ neu deithlyfr gyda chi, neu gopi o daflen y daith os ydych chi’n gwneud taith fyrrach. Fe allai cwmpawd fod o ddefnydd hefyd. 

Os ydych chi’n cerdded ar eich pen eich hun, efallai yr hoffech chi ddweud wrth rhywun i ble rydych chi’n mynd gan fod rhannau ar hyd y llwybr heb signal ffôn symudol. Gwnewch yn siŵr fod eich ffôn wedi’i wefru’n llawn cyn cychwyn. 

Gall tywydd y DU fod yn gyfnewidiol, felly mae’n ddoeth bod yn barod. Bydd angen esgidiau da, dillad sy’n gwrthsefyll glaw, a digon o haenau cynnes arnoch chi. Ewch â digon o ddŵr gyda chi a phaciwch ambell i blastar ar gyfer eich traed, rhag ofn. Yn ystod yr haf, mae’n bosib y bydd angen eli haul arnoch chi.

Cynghorir cerddwyr fod y signal ffôn symudol yn annibynadwy neu ddim ar gael o gwbl ar hyd y rhan fwyaf o’r arfordir; peidiwch â dibynnu ar allu defnyddioch ffôn i’ch helpu i ffeindio’ch ffordd. Mae wi-fi ar gael mewn rhai llefydd aros a thafarndai/caffis ar hyd y ffordd. 

Mae’r Deyrnas Unedig yn unigryw gan fod yma rwydwaith o lwybrau y gall y cyhoedd eu defnyddio, dyma’r rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Gallwch weld y llwybrau hyn ar fapiau’r Arolwg Ordnans. 

Mae Llwybrau Cenedlaethol wedi’u harwyddo â symbol mesen a / neu enw’r Llwybr, y byddwch chi’n eu gweld ar gamfeydd, giatiau ac arwyddbyst. Dyma’r symbol a ddefnyddir gan bob un o Lwybrau Cenedlaethol Cymru a Lloegr. 

Wrth i chi gerdded y Llwybr, fe welwch chi hefyd arwyddbyst yn pwyntio at lwybrau eraill. Gallwch ddefnyddio’r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus i adael y Llwybr er mwyn archwilio mannau o ddiddordeb, cyrraedd eich llety a dod o hyd i lefydd i gael bwyd a diod. 

Yn aml, fel welwch saethau lliw ar arwyddion, sy’n dynodi statws y rhan honno o’r llwybr. Y rhai mwyaf cyffredin yw rhai melyn, sef llwybrau troed, a glas, sy’n cyfeirio at lwybrau ceffyl.  

Gallwch lawrlwytho ffeil GPX o’r dudalen Creu Eich Taith Eich Hun (mae’r botwm o dan y map). 

Mapiau, Llawlyfrau a Nwyddau

Mae’r teithlyfr a’r map swyddogol ar gyfer y Llwybr ar gael o Siop y Llwybrau, ynghyd ag ystod eang o anrhegion a nwyddau eraill. 

Mae rhestr o fapiau Arolwg Ordnans ar gyfer y Llwybr i’w chael yma. 

Mae tystysgrifau ar gael o Siop y Llwybrau.

Map Rhyngweithiol

Defnyddiwch yr Hidlydd Map i weld llefydd i ymweld â nhw a ble i aros ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro. Gallwch weld gwybodaeth ar y map trwy dicio'r blychau yn yr Hidlydd Map.

Wedi’i ychwanegu at eich Cynllunydd Taith isod

Cyfrifiannell pellter

Pellter a fesurwyd: - Milltiroedd (- km)

Cael proffil graddiant llwybr

Cynhyrchu
Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Customise your trip with our filters.

Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Ewch o un opsiwn i’r llall isod i ddangos y marcwyr sydd ar gael.

Cyffredinol Marchogaeth Beicio

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Gwasanaethau

Llwybrau

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Mae'r proffil o uchder eich teithlen yn cael ei greu pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiannell pellter (uchod) i dynnu llinell.

Creu eich taith eich hun

Wedi’ch ysbrydoli? Gallwch greu taith bersonol a dechrau cynllunio eich ymweliad â’r Llwybr Cenedlaethol gwych hwn yma.

Cysylltu â Swyddog y Llwybr

Os oes gennych chi adborth neu gwestiwn am Lwybr Arfordir Sir Benfro, cyslltwch â Rheolwr y Llwybr os gwelwch yn dda. 

Cysylltwch â Theresa Nolan
Trail Officer