Dewiswch isod pa fath o wybodaeth yr hoffech chi ei hychwanegu

Picture of Hotel
Rhestru eich llety

Ydych chi’n darparu llety ger y Llwybr? Mae ei restru ar y wefan yn rhad ac am ddim.

Dysgwch fwy
Fish and Chip shop
Hybu eich busnes

Ydych chi’n rhedeg siop, caffi neu dŷ tafarn? Neu efallai siop llogi neu drwsio beiciau? Ydych chi’n ffariar neu’n filfeddyg? Neu ydych chi’n cynnig teithiau tywys ar droed neu ar gefn beic neu geffyl ar y llwybrau? Os ydych chi’n cynnig gwasanaeth i ddefnyddwyr y llwybr, gwnewch yn fawr o’r hysbyseb rhad ac am ddim, ac ychwanegwch eich busnes at y map.

Dysgwch fwy
Picture of the sea from a clifftop
Rhannu eich hoff luniau.

Rydyn ni’n gwybod fod y llwybrau’n creu atgofion gwych, felly beth am rannu eich atgofion chi drwy ychwanegu eich lluniau?

Dysgwch fwy
Picture of the sea from a clifftop
Atyniadau ar gyfer ymwelwyr, mannau o ddiddordeb

Mae’r Llwybrau’n pasio llawer o atyniadau bendigedig, ac mae yna lefydd arbennig iawn ar hyd-ddyn nhw hefyd. Ychwanegwch eich atyniad ar gyfer ymwelwyr, oriel, amgueddfa neu hoff adeilad yma. Gallwch hefyd ychwanegu mannau o ddiddrdeb fel golygfeydd godidog neu lecynnau hardd.

Dysgwch fwy
Hybu digwyddiad

Cynhelir llawer o ddigwyddiadau ar y Llwybrau bob blwyddyn. Os oes gennych chi ddigwyddiad yr hoffech i bobl wybod amdano, yna ychwanegwch ef at galendr digwyddiadau’r Llwybr yn rhad ac am ddim.

Dysgwch fwy