Countryside Code bilingual logo

Eich canllaw i fwynhau parciau a dyfrffyrdd, yr arfordir a chefn gwlad

Mae Cefn Gwlad yn cynnwys pob math o lefydd. Cefn gwlad yw’r bryniau eang a’r llwybrau coediog sy’n rhoi boddhad i gymaint ohonom, ond mae hefyd yn bodoli mewn llu o lefydd eraill! O barciau trefol i’n dyfrffyrdd a’n harfordiroedd, mae’r awyr agored yn

Mae’r Cod Cefn Gwlad yn ganllaw pwysig i’n helpu ni i gyd deimlo’n hyderus wrth fwynhau amser yn yr awyr agored mewn ffordd ddiogel a pharchus. Gall y Cod hefyd ein helpu i feithrin ymdeimlad o gysylltiad â’n mannau naturiol ac rydym yn fwy tebygol o wneud y peth iawn pan fydd gennym y cysylltiad hwnnw. Yn fwy a mwy, rydyn ni’n gweld y manteision mae treulio amser ym myd natur yn eu rhoi i’n hiechyd ni; gall camu i’r awyr agored fod o fudd enfawr i’ch lles.

Felly p’un a oes gennych chi ddiddordeb mewn dod o hyd i barc lleol yn eich ardal chi neu gynllunio antur ymhellach i ffwrdd, cofiwch wirio’r Cod Cefn Gwlad cyn i chi deithio a darganfod rhai o’r adnoddau cyffrous sydd gennym i chi.

Shaun the Sheep, ein Pencampwr Cod Cefn Gwlad!

Shaun the Sheep waving and carrying a rucksack
Mae Shaun the Sheep wedi ymuno â’r achos drwy hybu’r Cod Cefn Gwlad a helpu plant a phobl ifanc i Barchu, Diogelu a Mwynhau’r awyr agored.

O fferm Mossy Bottom, bydd Shaun a ffrindiau yn dilyn y Cod Cefn Gwlad ac yn dangos i blant sut i ofalu am natur, dilyn arwyddion, a rhannu’r gofod gydag eraill.

Ewch i’n tudalen Shaun the Sheep i ddysgu mwy!

Mae'r Cod Cefn Gwlad wedi cael ei gyfieithu i ieithoedd eraill

Ewch i’n tudalen Ieithoedd Eraill i’w lawrlwytho nhw.cynnig rhywbeth i bawb. Er mwyn i ni i gyd allu mwynhau treulio amser ym myd natur, mae’n bwysig ein bod ni’n parchu ac yn gwarchod ein mannau naturiol.

Countryside Code Language Translations Graphic

Darllenwch y Cod Cefn Gwlad

Mae’r Cod Cefn Gwlad ar gael mewn dau fformat:

Fersiwn fanwl ar wefan CNC

Crynodeb taflen PDF

Y Cod Cefn Gwlad ar gyfer Cymru

Mae’r Cod Cefn Gwlad yn gymwys i Gymru a Lloegr

Mae’r Cod yn cael ei gyhoeddi ar y cyd gan Natural England a Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyngor ac arweiniad defnyddiol i gael amser da a diogel yn yr awyr agored

Sbwriel

Ewch â sbwriel adref – peidiwch â gadael unrhyw ôl o’ch ymweliad.

Cŵn

Cadwch gŵn dan reolaeth ac o fewn golwg bob amser. Bagiwch a biniwch faw cŵn.

Cynlluniwch eich Antur

Dylech wybod beth i’w ddisgwyl a beth y gallwch ei wneud.

Gofalwch am Fyd Natur

Peidiwch â difrodi na tharfu a pheidiwch â gadael unrhyw ôl o’ch ymweliad.

Da Byw a Bywyd Gwyllt

Peidiwch â bwydo da byw, ceffylau neu anifeiliaid gwyllt oherwydd gall hyn achosi niwed iddynt.

Tanau

Os nad ydych chi’n siŵr, peidiwch â chynnau tân. Dim ond mewn ardaloedd cyfyngedig y caniateir barbeciws a thanau gwersyll. Gwiriwch yn gyntaf.

Marchogion

Dilynwch arwyddbyst ac arwyddion lleol. Dylai defnyddwyr eraill ildio i farchogion.

Cwrteisi

Byddwch yn gyfeillgar, rhannwch y lle gyda phob defnyddiwr.

Beicwyr

Dilynwch arwyddbyst ac arwyddion lleol. Ildiwch i gerddwyr a marchogion.

Teithio a Pharcio

Ystyriwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Parciwch yn ystyriol drwy beidio â rhwystro mynedfeydd, dreifiau neu fannau parcio hygyrch.

Hygyrchedd

Ystyriwch anghenion a gallu pob defnyddiwr pan fyddwch yn yr awyr agored.

Dilynwch Arwyddion Lleol

Dysgwch am yr arwyddion a symbolau sy’n cael eu defnyddio yng nghefn gwlad.

Cysylltwch â thîm y Cod Cefn Gwlad yn CNC

#CodCefnGwlad       #ParchuDiogeluMwynhau

Cysylltwch