Countryside Code bilingual logo

Adnoddau Cymraeg

Codau gweithgareddau yng Nghymru

Mae teulu’r Cod Cefn Gwlad yn cynnwys cyngor ychwanegol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau yng Nghymru.

Darllenwch godau’r gweithgareddau ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC):

Y Cod Cerdded Cŵn

Y Cod Defnyddwyr Llwybrau

Cod y Glannau

Y Cod Canŵio

Y Cod Pysgota

Y Cod Nofio yn y Gwyllt

Adnoddau addysg ar sbwriel

Gall athrawon ac addysgwyr helpu dysgwyr i ddeall effaith sbwriel ar yr amgylchedd gydag adnoddau CNC ar sbwriel, tipio anghyfreithlon a gwastraff.

Ffeithluniau’r Cod Cefn Gwlad gan Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru

NFU Cymru LogoMae gan Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru gyfres wych o ffeithuniau ar y Cod Cefn Gwlad y gallwch eu defnyddio am ddim. Ewch i’w gwefan i ddysgu sut maen nhw wedi cyfrannu at adnewyddu’r Cod Cefn Gwlad, i ddysgu mwy am eu gwaith ac i edrych ar eu hadnoddau cyfryngau cymdeithasol.

Ewch i wefan Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru.

Posteri’r Cod Cefn Gwlad

Lawrlwythwch bosteri dwyieithog sy’n crynhoi’r Cod ac yn egluro ystyr symbolau’r llwybrau:

Poster crynhoi’r Cod Cefn Gwlad PDF

Poster arwyddion y Cod Cefn Gwlad PDF

Adnoddau Saesneg

Ewch ar antur arfordirol gyda The Snail and the Whale

The Snail and the Whale activity bookletMae Natural England, Macmillan Children’s Books a’r Sefydliad Rheoli Morol yn cynnig ysbrydoliaeth i gael hwyl a sbri ar yr arfordir gyda llyfryn gweithgareddau ar gyfer plant 4-8 oed, a ysbrydolwyd gan y stori sy’n ffefryn gan deuluoedd, The Snail and the Whale.

Mae’r llyfryn hwn, y gallwch ei gael am ddim, yn cynnwys gweithgareddau, posau a ffeithiau diddorol – popeth rydych chi ei angen i fwynhau diwrnod allan yn crwydro’r arfordir.

This free booklet contains activities, puzzles and fun facts – everything you need to enjoy a day out exploring the coast.

Ewch i dudalen The Snail and the Whale i ddysgu mwy ac i lawrlwytho’r llyfryn.

Canllaw Ysgol Grasmere ar Ddeall y Cod Cefn Gwlad

Gwyliwch y fideo arbennig yma i gael cyngor defnyddiol gan ddisgyblion Ysgol Grasmere.

Cydnabyddiaeth: Ysgol Grasmere @grasmereschool