Countryside Code bilingual logo

 

Bydd y diweddariad ar y Cod Cefn Gwlad i reolwyr tir yn cael ei integreiddio i’r ymgyrch tymor hir i newid ymddygiad, sy’n ceisio cynyddu hamdden cyfrifol a gwarchod mannau gwyrdd ar gyfer y dyfodol.

Adnoddau gan ein partneriaid

NFU Cymru LogoMae gan Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr ystod eang o ffeithluniau ar y Cod Cefn Gwlad y gallwch eu defnyddio’n rhad ac am ddim. Ewch i’w gwefan i weld sut y mae’r Undeb wedi cyfrannu at ddiwygio’r Cod Cefn Gwlad, i ddysgu mwy am ei waith a gweld ei adnoddau cyfryngau cymdeithasol.

Ewch i wefan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr.

Cymeradwyaeth

“Mae deall y Cod Cefn Gwlad a dilyn ei gyngor yn helpu i amddiffyn cefn gwlad a phawb sy’n gweithio ynddo, yn byw yna neu’n ymweld. Rydym yn falch o allu helpu i hyrwyddo’r cod ymarfer da hwn.”
Ed Dungait Is-Gadeirydd Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc


“Mae’r Awdurdod yn croesawu’r penderfyniad i gynnwys canllawiau i berchnogion tir yn y Cod Cefn Gwlad, sy’n adlewyrchu’r ffaith bod yr Awdurdod yn hyrwyddo ymagwedd synhwyrol a chymesur at reoli diogelwch yng nghefn gwlad. Mae’r canllaw hwn yn darparu fframwaith gwerthfawr i berchnogion tir reoli risgiau i ymwelwyr a gweithwyr fel y gall pobl weithio a mwynhau amser hamdden yng nghefn gwlad yn ddiogel.”
Dr Stephen Britton Arolygwr yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch


“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae hyd yn oed mwy ohonom wedi gwerthfawrogi manteision treulio amser yng nghefn gwlad ac mae hi wedi bod yn wych croesawu ymwelwyr newydd i’n Parciau Cenedlaethol. Mae ffermwyr a pherchnogion tir wedi gwneud ymdrech arbennig i alluogi pobl i fwynhau cefn gwlad ac mae’n bwysig eu bod yn cael eu cefnogi â’r arweiniad sydd ei angen arnynt i alluogi ymwelwyr i gael diwrnod da yn y wlad mewn ffordd ddiogel a chyfrifol.  Fel teulu o Barciau Cenedlaethol, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda nhw er mwyn manteisio gymaint â phosib ar y canllawiau newydd.”
Tom Hind Arweinydd Rheoli Ymwelwyr ar gyfer Parciau Cenedlaethol y DU a Phrif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol North York Moors


“Fel rheolwyr rhostiroedd rydym yn croesawu’r cydweithredu cefnogol gan y llywodraeth yn y canllaw hwn i helpu i gynyddu niferoedd yr ymwelwyr sy’n gwneud y gorau o gefn gwlad godidog Lloegr, gan hefyd ei ddiogelu ar gyfer eraill a’r rheini sy’n byw ac yn gweithio ar y tir. Nid yw’r mwyafrif llethol yn gadael unrhyw ôl, ond mae enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol fel tipio anghyfreithlon a fandaliaeth wedi cynyddu’n ddiweddar, gan achosi difrod anghymesur.

Mae bygythiad i fywyd hyd yn oed, yn sgil defnydd anaddas o farberciws ar rostiroedd, a all arwain at danau gwyllt dinistriol. Mae’r canllaw newydd yn cydnabod y problemau hyn ac yn cynnig cyngor adeiladol ar sut i newid ymddygiad niweidiol ac atal difrod i’r union beth y mae ymwelwyr yn ei werthfawrogi.”
Amanda Anderson Cyfarwyddwr, Cymdeithas y Rhostiroedd


“Mae’r CLA wrth ein boddau o fod wedi cyfrannu at ailwampio’r Cod Cefn Gwlad a byddwn yn parhau i weithio tuag at wneud mannau gwyrdd cyhoeddus yn hygyrch ac yn lleoedd i bawb eu mwynhau. Mae’r Cod bellach yn cynnig cyngor penodol i berchnogion tir a fydd yn arbennig o ddefnyddio i’n haelodau, gan eu harfogi â’r offer a’r wybodaeth i reoli diddordeb cynyddol y cyhoedd mewn mynd i fannau gwyrdd.

Yn hytrach na chreu gwrthdaro rhwng cymunedau gwledig ac ymwelwyr, mae’r canllaw yn eu huno drwy ffocysu ar werthfawrogiad ar y cyd o’n cefn gwlad. Yn fwyaf pwysig, mae’n amlinellu sut gall y ddau weithio gyda’i gilydd i’w wella. Gyda thros 150,000 milltir o lwybrau cyhoeddus a 2.5 miliwn acer o dir mynediad agored ym Mhrydain Fawr, mae cymaint i’w fwynhau mewn ffordd gyfrifol.”
Mark Tufnell Llywydd Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad

 

Mae cyngor i Reolwyr Tir yng Nghymru ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru

GOV.UK logo

Mae cyngor i Berchnogion Tir yn Lloegr ar wefan GOV.UK