Disgrifiad o'r Llwybr

Mae Llwybr Clawdd Offa yn llwybr cerdded 177 o filltiroedd (285km) o hyd. Cafodd ei enwi ar ôl, ac mae’n aml yn dilyn y clawdd trawiadol y gorchmynnodd y Brenin Offa ei adeiladu yn yr 8fed ganrif, yn ôl pob tebyg er mwyn gwahanu ei deyrnas ef, Mersia, oddi wrth deyrnasoedd ei elynion, ar diroedd a elwir bellach yn Gymru.

Clogwyni Sedbury i Drefynwy – 17.5 milltir (28 Km) 

Mae Llwybr Clawdd Offa’n dechrau yn Lloegr ger aber Hafren sydd wedi’i ddynodi’n Ardal Naturiol Arforol. Mae gan yr aber yr amrediad llanw mwyaf ond un yn y byd, a achosir gan y pum afon sy’n llifo i’r aber siâp twmffat. Mae’r Llwybr yn cwrdd â’r Clawdd o’r cychwyn cyntaf, ger Clogwyn Sedbury. Mae’r Llwybr yn mynd heibio i’r dwyrain o dref Cas-gwent, gyda golygfeydd o Gastell Cas-gwent, y gaer ôl-Rufeinig hynaf sy’n dal i fodoli ym Mhrydain. Oddi yma mae’r Llwybr yn parhau â’i daith i’r gogledd ar ochr ddwyreiniol Afon Gwy, yn uchel ar y sgarp coediog gyda nifer o fannau ardderchog i fwynhau’r golygfeydd; un o’r mwyaf eiconig yw’r olygfa o Abaty Tyndyrn o Bulpud y Diafol. Mae’r Llwybr yn croesi’r ffin i Gymru am y tro cyntaf yn Redbrook, ac yn mynd ymlaen i’r olygfan yn y Cymin, gyda’i neuadd wledda o’r 17eg  ganrif a theml y llynges. Daw’r rhan hon o’r Llwybr i ben yn Nhrefynwy, tref ar y Gororau a saif ger y fan y daw afonydd Gwy, Mynwy a Throddi ynghyd, ac sydd efallai’n fwyaf adnabyddus fel man geni Harri V. Mae’r Llwybr yn mynd o dan un o nodweddion mwyaf adnabyddus y dref sef Pont Mynwy o’r 13eg  ganrif, yr unig bont gaerog ganoloesol sydd ar ôl ym Mhrydain. 

Trefynwy i’r Pandy  – 16.75 milltir (27 Km) 

Mae’r darn hwn o’r Llwybr yn croesi ffermdir tonnog a heddychlon Sir Fynwy. Gan adael Afon Gwy, byddwch yn ymuno â’i hisafonydd, sef Mynwy a Throthi. Defaid syn yr ardal hon gan fwyaf, ond byddwch hefyd yn mynd trwy berllannau, sy’n tyfu afalau ar gyfer y diwydiant seidr yn bennaf. Nid yw’r Clawdd ei hun i’w weld yn y rhan yma o’r Llwybr, ond mae hanes canoloesol cyfoethog i’r ardal, gyda’i hadfeilion cestyll a’i hen safleoedd abatai. Mae’r Llwybr yn mynd heibio i’r Castell Gwyn, sydd werth ymweld ag ef os oes gennych awr i’w sbario. Castell Normanaidd yw hwn, a adeiladwyd yn wreiddiol mae’n debyg gan William Fitz Osbern, ac a gafodd ei wella’n fawr gan Hubert de Burgh yn y 13eg  ganrif. Mae’r Castell Gwyn yn un o dri chastell yn yr ardal, ynghyd â chestyll Grysmwnt ac Ynysgynwraidd, y tri wedi’u cysylltu gan Lwybr y Tri Chastell sy’n 16 milltir o hyd. 

Mae’r Llwybr hefyd yn mynd trwy safle Abaty Grace Dieu. Wedi’i sefydlu yn 1248, hwn oedd y tŷ Sistersaidd olaf yng Nghymru, ond y cyfan sydd ar ôl erbyn hyn yw ychydig dwmpathau glaswelltog. Mae’r llwybr yn mynd trwy bentrefi bach Llanfihangel Ystum Llywern, Llandeilo Gresynni, Castell-gwyn a Llangatwg Lingoed, bob un ohonyn nhw ag eglwys sy’n werth ymweliad byr. Wrth nesáu at y Pandy, ceir golygfeydd hyfryd o’r Mynydd Duon gan gynnwys Tarren y Gader, y mae rhan nesaf y Llwybr yn mynd drosti, a’r Ysgyryd Fawr, neu’r “Mynydd Sanctaidd”, fel y’i gelwir, weithiau. 

Pandy i’r Gelli Gandryll – 17.5 milltir (28.2 Km) 

Gan ddringo’n gyson o’r Pandy, byddwch yn cyrraedd rhan ucheldirol, drawiadol gyntaf y Llwybr ar y Mynyddoedd Duon, a man uchaf y llwybr sef uchder o 2,300 o droedfeddi (700m). Mae’r rhan hon o’r llwybr, sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ar Darren y Gader, ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Wedi cyrraedd y copa, mae’r Llwybr yn dilyn llwybr amlwg, wedi’i wella, ar hyd y gefnen am oddeutu 11 milltir i Benybegwn, gyda golygfeydd godidog ar y naill ochr a’r llall. Dyffryn Ewias sydd i’r naill ochr a Dyffryn Olchon i’r llall, gyda golygfeydd o’r Ysgyryd Fawr, Pen-y-fâl a llawer mwy i’w gweld yn y pellter o wahanol fannau ar hyd y gefnen. Mae llawer o gerddwyr yn torri’r daith ar draws y gefnen trwy aros dros nos naill ai ym Mhriordy Llanddewi Nant Hodni gyda’i phriordy Awstinaidd o’r 11egganrif, neu yn Longtown ar ochr arall y gefnen, gyda’i chaer mwnt a beili Normanaidd o’r 12fed  ganrif.  Mae’r rhan ucheldirol hon i gyd wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, gyda gwahanol drefniadau rheoli’n bodoli er mwyn gwellai chyflwr. Daw’r rhan olaf â chi i lawr i’r Gelli Gandryll, sy’n enwog am ei llu o siopau llyfrau. Mae adfeilion dau gastell Normanaidd yn y dref hefyd. 

Y Gelli Gandryll  i Geintun– 14.75 milltir (23.3 Km) 

Mae’r rhan hon yn dechrau wrth ochr Afon Gwy, a welwyd ddiwethaf yn Nhrefynwy, cyn mynd trwy diroedd tonnog y ffin rhwng Powys a Swydd Henffordd. Mae’r ardal hon yn adnabyddus am y dyddiaduron a ysgrifennwyd gan y curad cefn gwlad Francis Kilvert, am fywyd yn y plwyfi gwledig yn oes Fictoria a’i sylwadau am fywyd cefn gwlad. Mae’r Llwybr yn mynd trwy bentref bach Yr Eglwys Newydd ar y Cefn – mae’r eglwys ar agor bob amser ac yn croesawu cerddwyr; ac am rodd fechan, gallwch wneud te neu goffi i chi’ch hun. Mae’r Royal Oak yn Llanfair Llythynwg hefyd yn croesawu cerddwyr ac mae’n werth cael seibiant yno cyn y rhan olaf o’r daith i Geintun. Yn ddiweddglo i’r rhan hon, mae’r Llwybr yn codi i uchder o fwy na 400 metr ar Gefn Hergest, gyda golygfeydd dramatig i bob cyfeiriad.  Ar ddiwrnod clir, gellir gweld Pen y Fan i’r de, Bryniau Malvern i’r dwyrain a bryniau Swydd Amwythig i’r gogledd. Ar ben Cefn Hergest mae hen gae rasio, sy’n filltir union o’i gwmpas. Yma, ym Mhlas Hergest, y cadwyd y Llyfr Coch enwog, sef casgliad mawr o chwedlau (gan gynnwys y Mabinogi), barddoniaeth, diarhebion, a gwybodaeth arall a grynhowyd gan Hopcyn ap Tomos o Ynysforgan tua’r flwyddyn 1400. Yr ardal hon, hefyd, a ysbrydolodd ‘Hound of the Baskervilles’ Arthur Conan Doyle ac ail albwm Mike Oldfield ‘Hergest Ridge’. Daw’r diwrnod i ben yn nhref farchnad Ceintun ar y gororau, tref sy’n bwysig iawn i’r diwydiant da byw gan ei bod ar lwybr y porthmyn. 

Ceintun i Drefyclo– 13.5 milltir (21.7 Km) 

Yn ogystal â’r golygfeydd godidog o’r bryniau anghysbell, mae’r rhan hon yn nodedig am y darnau hir o’r Clawdd sydd mewn cyflwr da, cyn i’r Llwybr gyrraedd ei gartref ysbrydol sef Trefyclo (a ddaw o’r enw Tref y Clawdd). 

Wrth adael Ceintun, mae’r Llwybr yn mynd dros fryn Bradnor a’i gwrs golff, yr uchaf yn Lloegr. Yn fuan wedyn, ar fryn Rushock, mae’r Llwybr yn cwrdd â Chlawdd Offa unwaith eto, am y tro cyntaf ers ei adael 56 milltir yn ôl yn Lower Redbrook yn Nyffryn Gwy. O’r fan hon hyd Gastell y Waun, mae’r Llwybr yn dilyn Clawdd Offa am y rhan fwyaf o’r daith. Yn fuan wedyn, mae’r Llwybr yn croesi’r ffin unwaith eto o Swydd Henffordd i Bowys, y sir lle ceir y darn hwyaf o’r llwybr. 

Ar y ffordd i Drefyclo, mae’r Llwybr yn mynd trwy Granner Wood, sy’n eiddo i Goed Cadw ac sydd, trwy ei reoli’n ofalus, yn cael ei adfer yn goetir llydanddail. Mae’r Llwybr yn disgyn yn fuan wedyn at droadau niferus Afon Llugwy ger Dolley Old Bridge. Mae’n werth aros ar y bont i wylio’r trochwyr a chael cipolwg o las y dorlan, os fyddwch chi’n lwcus. Byddwch yn dringo wedyn i fryniau Furrow a Hawthorn. O’r fan hon, ceir golygfeydd godidog tua’r gorllewin i Sir Faesyfed. Gellir gweld safle un o frwydrau enwog Owain Glyndŵr oddi yma hefyd, lle ymladdodd yn erbyn y Saeson ym mrwydr Bryn Glas, gyda’r clwstwr sgwâr o goed yn nodi man claddu’r milwyr. Daw’r ddisgynfa olaf â chi i Drefyclo, sydd bron hanner ffordd ar eich taith ac yma mae Canolfan Clawdd Offa. 

Trefyclo i Groesffordd Brompton – 15 milltir (24 Km) 

Mae’r rhan llechweddog hon yn cael ei ystyried fel y darn anoddaf o’r Llwybr, wrth iddi esgyn a disgyn trwy Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Swydd Amwythig. Fodd bynnag, mae’r golygfeydd a’r teimlad heddychlon yn gwneud yr ymdrech yn werth chweil. Ar y rhan hon o Glawdd Offa hefyd mae rhai o’r rhannau o’r clawdd sydd yn y cyflwr gorau, sydd i’w gweld ar fryn Llanfair lle mae Llwybr Jack Mytton yn croesi’r Llwybr. 

Uwchben Newcastle on Clun, rydych chi union hanner ffordd ar hyd y Llwybr, a’r marciwr hanner ffordd yn gyfle da i gerddwyr dynnu lluniau. Mae’n ymddangos bod bwlch naturiol yn y Clawdd yn Hergan, ac yma mae Llwybr Swydd Amwythig yn ymuno â’r Llwybr. Byddwch yn dod ar draws y llwybr hwn sawl gwaith yn ystod y dyddiau nesaf wrth i chi deithio tua’r gogledd. Llwybr arall sy’n croesi’r rhan hon o Lwybr Clawdd Offa yw Llwybr Edric Wyllt, a enwyd ar ôl uchelwr Sacsonaidd a fu’n arwain herwfilwyr yn erbyn y Normaniaid yng nghanolbarth ardal y Mers. 

Prin yw’r pentrefi ar y rhan hon o’r Llwybr, ond ceir ambell i berl cudd ar gyfer cerddwyr, gan gynnwys Churchtown – fe welwch yr eglwys wrth droed dyffryn cul, ond yn bendant does dim sôn am dref.   

Cefnffordd Ceri yw’r llwybr nesaf i groesi’r Llwybr ac o’r fan hon ymlaen mae’r llwybr yn wastad neu’n mynd am i lawr yr holl ffordd i Drefaldwyn, sydd i’w groesawu ar ôl yr holl ddringo i fyny ac i lawr y llethrau a fu ar y rhan hon o’r Llwybr. 

Croesffordd Brompton i Bont Tal-y-bont – 12.3 milltir (20 Km) 

Mae digon o gyfle i weld y Clawdd yma gan fod y llwybr yn ei ddilyn ar hyd tir gweddol wastad ond dymunol iawn am y rhan fwyaf o’r rhan hon. Mae’r Clawdd a’r Llwybr yn dilyn y gwir ffin genedlaethol hefyd – wrth i chi groesi yn ôl ac ymlaen dros y ffin, mae nifer o leoedd lle gallwch fod ag un droed yng Nghymru a’r llall yn Lloegr. 

Os oes ganddoch yr amser i wneud hynny, mae’n werth mynd i Drefaldwyn sydd ryw dri chwarter milltir trwy barc Lymore. Mae Trefaldwyn yn lle delfrydol am seibiant, gyda digon o luniaeth ar gael ynghyd â golygfeydd arbennig o adfeilion y castell uwchlaw’r dref. Mae siop nwyddau metel Bunners yn y dref yn berl sy’n gwerthu tipyn bach o bopeth. 

Tua diwedd y rhan hon, mae’r llwybr yn codi at fryngaer Caer Digoll ar Beacon Hill. Mae’r safle bellach yn eiddo i Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys. Mae’r Ymddiriedolaeth wedi gosod bwrdd picnic ar ffin ddeheuol y safle, sy’n cynnig golygfeydd godidog i’r dwyrain, i’r de ac i’r gorllewin. Daw’r rhan hon i ben wrth i chi gyrraedd i lawr i bont Tal-y-bont lle byddwch yn cwrdd â’r Afon Hafren. Taith fer sydd o’r fan hyn i’r Trallwng. 

Pont Tal-y-bont i Lanymynech – 10.5 milltir (17 Km) 

Mae’r rhan hon o’r llwybr, sydd rhwng y bryniau, yn wastad bron i gyd. Mae’r Llwybr yn dilyn rhannau o gamlas Maldwyn a Hafren cyn cyrraedd tref Llanymynech. Yma, y stryd fawr yw’r ffin rhwng Cymru a Lloegr! 

Y prif nodwedd sydd i’w gweld o’r Llwybr, dros Afon Hafren yw Bryniau Breiddin, gyda philer Rodney ar y copa. Adeiladwyd yr heneb gan foneddigion Sir Drefaldwyn a ddarparodd goed derw o’r ardal a’u cludo i lawr Afon Hafren i Fryste lle adeiladwyd llynges y Llyngesydd Rodney. Mae perygl llifogydd ar ddarnau o’r rhan hon yn ystod cyfnodau gwlyb iawn, felly argymhellir eich bod yn edrych ar rybuddion llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru. 

Mae’r Llwybr yn ymuno â Chamlas Maldwyn mewn rhai mannau. Defnyddiwyd y gamlas yn wreiddiol i gludo calch i wella ffermdir Dyffryn Hafren. Pan fyddwch yn Llanymynech, mae’n werth ymweld ag Odyn Hoffman, yr enghraifft orau o’i math. 

Llanymynech  i Felin y Waun– 14 milltir (22.5 Km) 

Ar ôl y darn mwyaf gwastad o’r Llwybr, mae’n codi a disgyn unwaith eto ar hyd fryn Llanymynech, y Moelydd, Candy Woods a Hen Gae Ras Croesoswallt. Ceir darnau da o’r Clawdd ei hun a bydd gan archeolegwyr diwydiannol ddiddordeb yn yr ardaloedd mwyngloddio o amgylch Nantmawr. Ar ben llethr cyntaf y dydd, mae Chwarel Llanymynech, sydd bellach wedi cau ond a fu unwaith yn chwarel galchfaen brysur, yn cyflenwi Odyn Hoffman. Mae rhannau o’r chwarel bellach yn cael eu rheoli gan Ymddiriedolaethau Natur Siroedd Amwythig a Threfaldwyn fel gwarchodfeydd natur lleol. Mae’r ddwy ymddiriedolaeth yn defnyddio defaid i bori glaswelltiroedd y chwarel, sy’n gwella’r amrywiaeth fotanegol ac yn helpu i ddarparu cynefinoedd gwell i amryw o fathau o löynnod byw. 

Mae copa’r Moelydd yn un o ryfeddolau’r diwrnod – mae’r golygfeydd i bob cyfeiriad yn syfrdanol, ac mae topasgôp yma i’ch helpu i adnabod yr holl fryniau sydd o’ch cwmpas. 

Melin Y Waun i Landegla – 15.5 milltir (25.7 Km) 

Mae’r rhan amrywiol hon yn cynnwys darn olaf y Clawdd, cyn i’r Llwybr ei adael am y tro olaf wrth ymyl camlas Llangollen. Mae’r ardal bellach yn rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, sef lleoliad y Llwybr am weddill ei daith i Lechwedd Prestatyn. Ar ôl Castell y Waun (y gellir ei gyrraedd ar hyd llwybr caniataol yn ystod yr haf yn unig) mae’r Llwybr yn croesi dyfrbont hanesyddol Pontcysyllte ar hyd llwybr arall / caniataol. Mae’r ddyfrbont 127 troedfedd, a adeiladwyd gan Thomas Telford yn 1805, wedi’i chofrestru’n Safle Treftadaeth y Byd, a hi yw’r ddyfrbont fwyaf ym Mhrydain. Wedi gadael pentref Trefor, mae’r Llwybr yn dringo Creigiau Eglwyseg ger Llangollen, wrth iddo fynd heibio i Ddinas Bran ar ei ffordd i’r man gyda’r enw addas, ‘World’s End’. Mae’r llwybr yn mynd trwy’r rhostir wedyn, cyn disgyn i goedwig Llandegla. Ceir y boblogaeth fwyaf o’r rugiar ddu yng Nghymru yn y darn hwn o goedwig a rhostir, a thorrir darnau hirsgwar o’r glaswellt bob blwyddyn fel bod y ceiliogod yn gallu eu dangos eu hunain i’r ieir, fel rhan o’u paru. 

Llandegla i Fodfari – 17.5 milltir (28 Km) 

O Landegla, mae’r Llwybr yn parhau â’i daith trwy Fryniau Clwyd, ac am y rhan fwyaf o’r ffordd byddwch yn dilyn y gefnen rugog sy’n amlwg iawn yn yr ardal hon. Mae’r Llwybr yn croesi neu’n mynd heibio i nifer o fryngaerau o’r Oes Haearn a’r Oes Efydd gan gynnwys Moel Fenlli, Moel Arthur a Phenycloddiau. Prif nodwedd y rhan hon o’r Llwybr yw Tŵr y Jiwbilî ar ben Foel Mamau. Codwyd y tŵr i ddathlu hanner can mlynedd o deyrnasiad Sior 3ydd  yn 1810. O’r rhan hon o’r Llwybr, ceir golygfeydd godidog i’r gorllewin ar draws Dyffryn Clwyd i Eryri ac i’r dwyrain at y ffin â Lloegr a’r tu hwnt. 

Bodfari i Brestatyn – 12 milltir (9 Km) 

Mae rhan fwyaf gogleddol y Llwybr yn dal i fod ym Mryniau Clwyd. Er bod y bryniau’n llai erbyn hyn, mae’r golygfeydd a’r tawelwch yn ddi-ball hyd nes i’r llwybr gyrraedd i lawr i Brestatyn, ac ar ôl i chi gerdded yn hamddenol i fyny’r stryd fawr, daw’r daith i ben ar lan y môr. 

Un o nodweddion y rhan hon o’r Llwybr yw’r gyfres o gamfeydd cerrig i’r gogledd o Farian Cwm, nas gwelwyd ar unrhyw ddarn arall o’r Llwybr. 

Wrth i chi deithio tua‘r gogledd, mae’r cipolygon o’r môr yn tyfu’n olygfa lawn, gyda’r fferm wynt rhwng Prestatyn a’r Rhyl i’w gweld ar y gorwel. Ceir golygfeydd arbennig o Eryri ac arfordir gogledd Cymru o lechwedd Prestatyn cyn i chi gyrraedd i lawr i’r dref ac ymlaen at ddiwedd y Llwybr ar draeth Prestatyn. 

Yn ôl y traddodiad, byddwch yn tynnu eich esgidiau a’ch sanau ac yn cerdded i’r dŵr, er mwyn nodi pen eich taith ac esmwytho rhywfaint ar eich traed blinedig.