Hanner Canmlwyddiant Llwybr Cenedlaethol Llwybr Clawdd Offa

Darganfyddwch, archwiliwch a dadorchuddiwch straeon Llwybr Clawdd Offa....

White text on a black background with banner logo for Offa's Dyke Path 50th anniversary. The figure zero has an acorn in the centre. Logo dathliad penblwydd 50fed Llwybr Clawdd Offa.

 

Mae Llwybr Clawdd Offa’n gwau ei ffordd drwy dirweddau trawiadol ar ymylon Cymru a Lloegr, rhwng Cas-gwent ar afon Hafren i Brestatyn ar arfordir Gogledd Cymru.

Mae’r Llwybr wedi’i ysbrydoli gan Glawdd Offa, ac mae’n dilyn y clawdd yn agos am tua 40 milltir o’i hyd. Gan ddyddio’n ôl i’r wythfed ganrif, saif heneb eiconig Clawdd Offa hyd at wyth metr o uchder ac fe’i hadeiladwyd ar orchymyn y Brenin Offa fel ffin rhwng y ddwy deyrnas.

Llwybr Clawdd Offa, Cyrn-y-Brain, golygfa o'r awyr o’r llwybr yn ymdroelli trwy rug yn ei flodau, haf, Sir Ddinbych
DJI0850 Llwybr Clawdd Offa, Cyrn-y-Brain, Sir Ddinbych

Heddiw, ar ei daith o fôr i fôr, mae’n gwau drwy gymoedd bryniog, mynyddoedd grugog a choetiroedd deiliog mewn wyth sir a thair Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (Dyffryn Gwy, Bryniau Swydd Amwythig a Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy), yn ogystal â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae’r golygfeydd panoramig ar hyd y llwybr wedi arwain at ganmoliaeth ryngwladol – mae hyd yn oed wedi’i henwi’n un o deithiau cerdded gorau’r byd gan Lonely Planet. Mae’r llwybr yn mynd â cherddwyr drwy drefi a phentrefi gwledig traddodiadol, lle mae tafarndai clyd, tirweddau trawiadol a safleoedd treftadaeth poblogaidd rif y gwlith.

Yr amrywiaeth gyfoethog hon yw’r rheswm mae Llwybr Clawdd Offa yn parhau i fod yn un o lwybrau cerdded pellter hir eiconig Prydain. Dyma sut y gallwch ymuno â’r dathliadau, hyrwyddo tirweddau’r gororau a dathlu 50 mlynedd o fodolaeth Llwybr Clawdd Offa.

 

Rhannwch eich profiadau o LlCO:

I ddathlu’r pen-blwydd arbennig yn 2021 gwnaethom ofyn i chi rannu eich atgofion o’r Llwybr ― boed hynny’n brofiad a gawsoch chi wythnos yn ôl neu rywbryd yn ystod y pum degawd diwethaf. Ond nawr rydym eisiau i chi ddal ati i rannu eich profiadau o’r Llwybr gyda ni!

Gyda miloedd o bobl yn llwyddo i gerdded y llwybr cyfan bob blwyddyn, rydym yn gwybod bod gan y Llwybr le arbennig yng nghalonnau cynifer o bobl. Felly, o gyfarfyddiadau ar hap gyda bywyd gwyllt prin i anturiaethau teuluol, byddem wrth ein boddau’n clywed eich hanesion am y Llwybr – ac yn gweld eich lluniau hefyd.

I gymryd rhan, rhannwch eich stori― boed yn hanesyn, ffotograff neu hyd yn oed ddarn o gelfyddyd a ysbrydolwyd gan y Llwybr ― drwy:

I bori drwy’r atgofion diddorol rydym eisoes wedi’u derbyn, ewch i Grŵp 50 o Atgofion Llwybr Clawdd Offa ar Facebook ac archwiliwch ein Instagram.

Cadwch lygad am ein harwyddion LlCO50:

Arwyddion Llwybr Clawdd Offa penblwydd 50
Arwyddion LlCO50

 

 

 

 

Edmygwch waith celf sydd wedi’i ysbrydoli gan Lwybr Clawdd Offa yng Nghanolfan Cymdeithas Clawdd Offa

I nodi’r achlysur, cafodd arddangosfa gan yr artist o Gymru, Dan Llywelyn Hall, ei lansio yng Nghanolfan Clawdd Offa yn Nhrefyclo ym mis Gorffennaf 2021.

Ar y cyd â’r arddangosfa, rhyddhaodd gwasg Carreg Gwalch gyhoeddiad dwyieithog i goffáu carreg filltir y Llwybr — yn cynnwys 14 cerdd a gomisiwynwyd gan feirdd blaenllaw o Gymru gan gynnwys Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, ac mae ar gael i’w brynu, yma.

Yn y cyfamser, bydd barddoniaeth gan Gillian Clarke, Owen Sheers, Twm Morris, Robert Minhinnick, Menna Elfyn, Oliver Lomax, Siân Dafydd, Laura Wainwright, Eric Ngalle Charles, Geraint Jon,  Emma van Woerkom a Clare Potter hefyd yn ymddangos yn y llyfr, gyda phob cerdd wedi ei hysbrydoli gan Lwybr Clawdd Offa ei hun.

Ar ben hynny, mae chwech o’r cerddi hyn wedi’u troi’n gyfres o ffilmiau byrion i ddathlu pen-blwydd arbennig y Llwybr. Gellir mwynhau’r rhain ar dudalen Facebook Llwybr Clawdd Offa.

Dysgwch fwy am arddangosfa ddiweddaraf Dan Llywelyn Hall, Cerdded Gydag Offa / Walking with Offa, a sut i archebu ymweliad diogel gan gadw pellter cymdeithasol, yma.

Dan Llywelyn Hall’s Walking with Offa / Cerdded gydag Offa Exhibition


Ac os nad yw hynny’n ddigon…

I goffáu 50 mlynedd ers agor Llwybr Clawdd Offa, gofynnwyd i aelodau Cymdeithas y Cerddwyr Pellter Hir rannu eu hatgofion ar hyd y Llwybr Cenedlaethol. Dysgwch gan Croeso i Gerddwyr (Walkers are Welcome) pam mae Llwybr Clawdd Offa mor bwysig.

Cliciwch yma i ddarllen am anturiaethau un teulu ar hyd Llwybr Clawdd Offa 50 mlynedd yn ôl, neu gwrandewch ar gyfansoddiad hardd yr Athro Watkins a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur arbennig hwn.

 

Archwiliwch y Llwybr gartref gyda chyfres Wonders of the Border ITV:

Sean Fletcher TV presenter walking Offa's Dyke Path with hills in the background
Sean Fletcher walking the Offa’s Dyke Path

Daliwch i fyny gyda chyfres ddiweddaraf ITV, Wonders of the Border, sy’n dilyn Sean Fletcher, cyflwynydd Countryfile a Good Morning Britain, ar ei daith gerdded ar hyd Llwybr Clawdd Offa.

Yn y gyfres chwe rhan, mae Sean yn ymweld â mwy na 50 o leoliadau ar hyd y Llwybr llinellol 177 milltir o hyd ac yn cwrdd â rhai o’r bobl anhygoel a’r busnesau lleol sydd wedi ymgartrefu ar y gororau rhwng Cymru a Lloegr.

I ddal i fyny ar y gyfres, a ddarlledwyd yng Nghymru rhwng Ebrill a Mai 2021, ewch i itv.com/wales programmes.

 

 

 

Dilynwch ni a rhannwch eich straeon a’ch lluniau drwy’r cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #OffasDykePath