Disgrifiad o'r Llwybr

Llwybr Cenedlaethol 135 o filltiroedd (217km) o hyd yw Llwybr Glyndŵr, sy’n troelli trwy rostir agored, ffermdir bryniog, coetiroedd a choedwigoedd y Canolbarth. Mae'r Llwybr yn cychwyn yn Nhrefyclo ac yn gorffen yn y Trallwng.

 

Tref-y-clawdd i Felindre. 15 milltir / 24 cilomedr.

Ar ôl codi’n syth ar gyrion tref y gororau Tref-y-clawdd, mae’r Llwybr yn rhedeg trwy goetir a phorfa dawel. Mae’n arwain at weundir Mynydd Disglair, lle gwelwch chi rug godidog ar ei lethrau yn yr haf, cyn dod i lawr i Felindre.

 

Felindre i Abaty Cwm-hir. 15.5 milltir / 25 cilomedr.

Mae’r Llwybr yn codi i dir pori uchel ac yn mynd â chi heibio i fferm wynt Garreg Lwyd a chloddwaith hynafol Castell y Blaidd. Wedyn byddwch yn cyrraedd gweundir eang ac agored Ysgŵd Ffordd. O’r fan honno mae’r llwybr yn ymdroelli’n dawel trwy goetir nes cyrraedd Abaty Cwm-hir.

 

Abaty Cwm-hir i Lanidloes. 15.5 milltir / 25 cilomedr.

Diwrnod o gerdded dros bant a bryn. Mae’r Llwybr yn mynd dros gymysgedd o dir amaeth uchel, coedwigoedd, dyffrynnoedd pyllog a hen goetir ar y llwybr bryniog tua thref hyfryd Llanidloes.

 

Llanidloes i Ddylife. 14.5 milltir/ 23.5 cilomedr.

Gan ddechrau’n syth ar draws yr afon Hafren, trwy dir coediog a phorfeydd, mae’r Llwybr yn cyrraedd gwaith mwyngloddio Bryntail ac Argae Clywedog. Wedyn rydych yn codi’n uchel uwchben Llyn Clywedog i’r hen ffordd Rufeinig i Ddylife, ardal fwyngloddio anghysbell a hanesyddol.

 

Dylife i Fachynlleth. 14.5 milltir / 23.5 cilomedr.

Mae’r Llwybr yn dod yn ôl ar y Ffordd Rufeinig ar weundir uchel a heibio i lecyn hynod a dirgel Glaslyn, gyda golygfeydd pell tua’r môr. Wedyn, ymlaen â chi i dref hanesyddol Machynlleth, lle coronwyd Glyndŵr yn dywysog Cymru.

 

Machynlleth i Lanbrynmair. 16 milltir / 25.5 cilomedr.

Mae’r llwybr yn dechrau’n ara’ deg o’r dref ac yn arwain i lwybr cefnen gwych gyda golygfeydd tua Dyffryn Dyfi. Wedyn byddwch yn ymdroelli dros y bryniau uwchben yr afon Twymyn cyn dilyn y llwybr hir i lawr i Lanbrynmair.

 

Llanbrynmair i Lanwddyn. 18 milltir / 29 cilomedr.

Diwrnod o gerdded ymysg y coed pinwydd wrth i’r Llwybr fynd heibio i gyff coedwigaeth uchel, dros Bencoed gwyllt, cartref merlod heb eu dofi ac yna ymlaen at goedwig fawr Dyfnant. Yn olaf, i mewn i Lanwddyn a golygfeydd godidog o Lyn Efyrnwy a’r argae enfawr.

 

Llanwddyn i Feifod. 15 milltir / 24 cilomedr.

Mae’r llwybr yn mynd ar draws tir dyfrllyd, gan adael y gronfa ar ôl ond yn ymweld â rhannau rhyfeddol o Afon Efyrnwy. Mae’n mynd heibio i dri phentref hyfryd ger yr afon cyn dod i’r pedwerydd pentref ar yr afon, Meifod.

 

Meifod i’r Trallwng. 11 milltir / 17.5 cilomedr.

Mae diwrnod olaf y llwybr yn dechrau mewn coetir ac yn ymdroelli’n dawel tua phwynt triongli ar ben bryn mawr Y Golfa, gyda golygfeydd mawreddog i bob cyfeiriad. Wedyn, mae’r llwybr yn disgyn am bellter hir trwy barcdir cain Plas Llanerchydol i dref farchnad Y Trallwng.