Newyddion 2022

Cyfle i gyflawni addunedau’r Flwyddyn Newydd o’r diwedd!!

Mae’r haul yn dechrau dod i’r golwg, felly ewch i gerdded ar eich hoff Lwybr Cenedlaethol – neu i ddarganfod un newydd!

Ar ôl yr holl stormydd diweddar, mae nifer o’r Llwybrau wedi dioddef problemau – a phwy ond y cerddwr mwyaf gwydn fyddai wedi dymuno bod y tu allan beth bynnag?? Ond mae’r tywydd yn gwella wrth i’r Gwanwyn ddod, felly mae swyddogion y Llwybr wedi bod allan yn gwneud yn siŵr fod modd teithio’r llwybrau, a’u bod yn ddiogel (neu bod dargyfeiriadau addas wedi’u gosod). Felly cofiwch fod angen i chi sicrhau eich bod wedi’ch gwisgo’n addas a rhowch ddigon o amser ar gyfer unrhyw ddargyfeiriadau dros dro. Rydyn ni am i chi fwynhau’r llwybrau eiconig hyn a’r mannau arbennig sydd ar eu hyd-ddynt – felly estynnwch am eich dillad glaw a chynlluniwch eich wâc nesaf!