O Faenorbŷr i Bentywyn

Taith gerdded ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro o Faenorbŷr, gyda’i gastell Normanaidd i Lydstep Haven hynafol ac ymlaen at liw a bwrlwm traeth y de yn Ninbych-y-pysgod. Wedyn daw darn gwyllt o arfordir gyda choedwigoedd a thir gwledig agored hyd at bentref porthladd Saundersfoot. Daw darn anarferol wedyn: drwy dwneli tramffordd 200 mlwydd oed i Amroth, a darn byr, heriol uwchlaw traethau euraidd eang sy’n pontio rhwng Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.

Trosolwg o'r Daith

Mae'r eiconau isod yn tynnu sylw at bellter, graddfa a thema'r daith hon.

Pellter

30.5

Diwrnodau

3

Graddfa

Cymhedrol

Thema

Arfordir / Hanes

Math o dirwedd

Arfordir

Llwybr Arfordir Sir Benfro – Maenorbŷr i Bentywyn

Dyma bopeth sydd ei angen arnoch i’ch helpu i gynllunio eich antur gerdded eich hun. Cliciwch ar y tabiau saeth glas isod am ragor o wybodaeth.

Teithlen

Gall unrhyw un sydd â lefel ffitrwydd da gerdded y darn 30.5km / 19 milltir byrrach hwn o Lwybr Arfordir Sir Benfro. Gallwch ddisgwyl llwybrau da gyda rhai dringfeydd a disgynfeydd serth.

Ar ôl dod oddi ar y bws, dilynwch y ffordd i lawr drwy Faenorbŷr i gyfeiriad y môr. Ewch am y chwith ymhob cyffordd er mwyn cyrraedd Llwybr Arfordir Sir Benfro ar y traeth. Beth am alw heibio i’r castell Normanaidd trawiadol sy’n bwrw’i gysgod dros y pentref ar eich ffordd?

Os gallwch oddef ffarwelio â thywod bendigedig Maenorbŷr, trowch i’r chwith a dilyn Llwybr Arfordir Cymru er mwyn dringo fry uwchben cildraethau hardd. Ym mhen pellaf Bae Maenorbŷr, mae’r llwybr yn pasio cromlech King’s Quoit, sef siambr gladdu hynafol. Fe welwch chi ddwy garreg fechan bob ochr yn cynnal capfaen trawiadol i greu beddrod fechan Neolithig. Mae’r llwybr yn parhau i lynu wrth ymyl garw’r clogwyn, gan gynnig golygfeydd gwefreiddiol allan dros y mor.

Mae’r llwybr yn troi oddi ar yr arfordir er mwyn osgoi ardal danio’r RAF. Peidiwch â phoeni am hyn gan fod y llwybr yn ddiogel ac wedi’i arwyddo’n dda. Mae’n ailymuno â’r arfordir ychydig wedyn yn Skrinkle Haven, gyda’i draeth euraidd godidog. Ychydig ymhellach ar hyd y llwybr, ceir grisiau serth i lawr i Ogofeydd Lydstep, sy’n hardd ond dim ond ar lanw isel y gellir mynd iddyn nhw. Dilynwch glogwyni uchel heibio i Drwyn Lydstep cyn disgyn i bentref Lydstep Haven. Os oes angen lluniaeth arnoch chi mae siop fechan a chyfleusterau bwyd a diod yn y Pentref Gwyliau.

Ewch yn eich blaen ar hyd ymyl y traeth (os yw’r llanw i mewn, neu os ydych chi’n cerdded gyda chŵn, bydd yn rhaid i chi aros i fyny, a mynd drwy’r pentref gwyliau) ac i fyny’r grisiau ar y pen arall, a fydd yn mynd â chi ar ddringfa gyson yn ôl i ben y clogwyni. Mae’r darn hwn o’r llwybr yn llawn o eithin a blodau gwyllt, gyda golygfeydd bendigedig allan i’r môr, a dyma ble cewch chi eich cipolwg cyntaf ar Ynys Bŷr. Mae Abaty’r ynys yn gartref i fynachod Sistersiaidd sy’n cynhyrchu persawr a siocled unigryw Ynys Bŷr. Gallwch ymweld â’r ynys heddychlon ar daith mewn cwch o Ddinbych-y-pysgod.

Gan barhau ar hyd y llwybr, fe ddewch i bwynt ble cewch eich cyfeirio i’r naill ffordd neu’r llall, yn dibynnu ar weithgaredd y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae un yn troi oddi ar yr arfordir a’r llall yn glynu at y penrhyn. Daw’r ddwy ffordd â chi yn ôl i draeth y de yn Ninbych-y-pysgod. Ewch yn ôl ar eich hunan er mwyn ymuno â’r Esplanade i mewn i’r dref, ac yn ôl i’ch llety.

7 milltir / 11km

Dechreuwch gerdded yn Harbwr Dinbych-y-pysgod ger cytiau’r teithiau cychod. Gan gadw’r môr y tu cefn i chi, trowch i fyny ac i’r dde ar hyd Stryd y Bont ac i’r dde ar hyd Stryd Crackwell, ble cewch olygfa wych o’r porthladd bach prysur. Mae pen uchaf Stryd Crackwell yn ymuno â’r Stryd Fawr, ble mae Llwybr Arfordir Sir Benfro’n ailgychwyn.

Ewch ymlaen am ychydig ar hyd y Norton, gan edrych dros y môr, tan i chi ddod at droad ar y dde ar hyd y Crofft. Dilynwch y ffordd hon nes iddi wyro i’r dde ac ewch yn syth ymlaen pa fydd hi’n fforchio, gan ddilyn arwydd Llwybr Arfordir Cymru.

Dilynwch arwyddion y llwybr ar ôl Waterwynch, darn nefolaidd a chudd ar hyd llwybr hudolus yn y goedwig, gyda digonedd o adar a blodau gwylltion, cyn i’r môr ddod yn ôl i’r golwg. Er mor hardd, gall y llwybr fod yn arw, ac mae sawl disgynfa, dringfa a grisiau wrth i’r llwybr ddisgyn i sawl cildraeth gan gynnwys Waterwynch.

Ewch ymlaen at ddiwedd y goedwig, a dechrau pentref croesawgar Saundersfoot. Enw’r heol sy’n dod i gwrdd â chi yw The Glen. Dilynwch y ffordd hon at y gyffordd a throwch i’r dde. Ewch yn eich blaen hyd at lan y cei hyfryd.

Mae digonedd o lefydd i fwyta ac yfed yn Saundersfoot, felly achubwch ar y cyfle i ymlacio a mwynhau’r lle deniadol hwn; gallech hyd yn oed drochi eich traed yn y môr, efallai!

Adeiladwyd harbwr Saundersfoot yn wreiddiol i gludo glo o’r pyllau cyfagos. Does dim ar ôl o’r pyllau, ond mae llwybr y dramffordd a adeiladwyd i ddod â’r glo i harbwr Saundersfoot yn ychwanegu agwedd ddiddorol iawn i’r llwybr fan hyn.

Efallai y byddwch chi’n falch o glywed fod darn go wastad o’r llwybr o’ch blaen, ar ôl yr holl godi a disgyn blaenorol. Ewch tua’r dwyrain ar hyd y Strand at draeth Coppet Hall, sydd ar ben arall twnnel byr.

Ar ben pellaf traeth Coppet Hall mae dau dwnnel tramffordd arall a dorrwyd drwy’r graig, ac wedyn mae llwybr ar hyd glan y môr. Mae hwn yn mynd â chi i bentref bychan Wisemans Bridge – lleoliad ymarferion glanio D-Day, ble daeth Winstson Churchill ar ymweliad yn 1943.

Unwaith y daw’r llwybr at y ffordd, dilynwch hi i’r dde a fforchiwch i’r dde eto ble byddwch chi’n ymuno ar unwaith â Cliff Road. Mae hon yn troi’n llwybr yn y pen draw, a bydd yn disgyn i draeth baner las a phyllau creigiog Amroth.

7 milltir / 11km

Dechreuwch y diwrnod o’r arosfa fws ger Castell Amroth; gan wynebu’r traeth llydan, gwastad a thywodlyd, ewch i’r chwith. Dilynwch y ffordd heibio i dafarn y New Inn ac ewch ymlaen am ychydig nes i chi weld Llwybr Arfordir Cymru i’r dde, sy’n eich arwain at drac glaswelltog amlwg. Ar ôl dringo grisiau maith, byddwch chi’n croesi pompren ar y ffin rhwng Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.

Bydd y llwybr yn eich arwain yn gyson ond yn serth i fyny at Bwynt Telpyn, ble gallwch edrych yn ôl a gweld Dinbych-y-pysgod yn y pellter, ac o’ch blaen mae tywod Traeth Marchros a phentiroedd Sir Gaerfyrddin.

Fel erioed, rhaid gweithio i gael golygfa dda, ac er mai darn byr iawn o Lwybr Arfordir Sir Benfro ydyw, mae’n waith caled. Byddwch chi’n dechrau ar ddarn serth igam-ogam i fyny at Begwn Marchros a thrwy ddarn cysgodol o goedwig cyn i chi ddod i olwg Traeth Marchros unwaith eto. Os yw’r llanw’n isel, efallai y gwelwch chi olion sgwner, o’r enw Rover, a hwyliwyd yn fwriadol i’r traeth yn 1886, er mwyn osgoi suddo mewn drycin enbyd.

Ewch ymlaen ar hyd y llwybr ac fe welwch fannau ble gallwch fentro i lawr i’r tywod, os yw’r llanw’n caniatâu. Y traeth islaw Trwyn Gilam yw un ohonynt, a gallwch gerdded i Bentywyn o’r fan hon ar hyd y traeth. Defnyddiwyd y darn eang hwn o dywod ar gyfer profi recordiau cyflymder ar y tir. Os yw’r llanw ar ei ffordd i mewn, peidiwch â mentro, ond yn hytrach ewch dros ben Trwyn Gilam ar hyd y llwybr penodedig. Bydd yn hyn mynd â chi i Drwyn Dolwen, ble gallwch ddisgyn i lawr i Bentywyn. Yn wobr am eich ymdrech aruthrol, beth am gael hufen iâ blasus o un o’r caffis ar hyd glan y môr cyn i chi ddal y bws yn ôl i Ddinbych-y-pysgod a’ch llety.

5 milltir / 8.4km

Llety

Mae digon o dafarndai, gwestai, gwely a brecwast, bythynnod a mannau gwersylla ar hyd y Llwybr sy’n darparu ar gyfer pob chwaeth a phoced, felly cynlluniwch yn ofalus a cheisiwch archebu rhywle mor agos â phosib at ddechrau a diwedd pob dydd. Gellir gweld llety ar hyd y darn hwn o Lwybr Arfordir Sir Benfro ar fap y deithlen.

Defnyddiwch gwmni trosglwyddo bagiau i gludo’ch bagiau, neu fel arall dewiswch leoli eich hun yn Ninbych-y-pysgod a defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd dechrau pob dydd ac i ddod yn ôl i’ch llety.

 

 

Teithio

Y meysydd awyr hawsaf ar gyfer teithio i Sir Benfro yw Caerdydd, Birmingham a Bryste. O’r ddau brif faes awyr yn Llundain, mae’n haws cyrraedd yr ardal o Heathrow.

Gellir cael trên uniongyrchol i Ddinbych-y-pysgod o Fanceinion, Casnewydd ac Abertawe; mae gwasanaethau o’r rhan fwyaf o’r wlad yn cysylltu â’r rhain. Mae bysiau National Express yn mynd o Orsaf Fysiau Victoria yn Llundain yn uniongyrchol i Ddinbych-y-pysgod.

Cyngor

Gall darnau o’r rhan hon o Lwybr Arfordir Sir Benfro fod yn arbennig o anodd, gyda llawer o ddringo a disgyn, sy’n gofyn am lefel dda o ffitrwydd. Mae’r rhannau hyn, fodd bynnag, yn fyrrach o ran milltiroedd ac yn cynnwys rhannau gwastad a llefydd i gael seibiant.

Am fod Llwybr Arfordir Sir Benfro’n dilyn yr arfordir mor glos, mae’n anorfod y byddwch chi’n dod ar draws erydiad, clogwyni serth a llwybrau creigiog. Byddwch yn ofalus os gwelwch yn dda, a’n cyngor ni yw eich bod chi’n dewis esgidiau a dillad sy’n addas i’r amodau hyn, a rhagolygon y tywydd.

Bwyd a Diod

Mae gan Ddinbych-y-pysgod ddewis amrywiol o gaffis, bwytai a llefydd tecawê, ac fe ddewch ar draws caffis bychain mewn pentrefi eraill. I gael mwy o wybodaeth, edrychwch ar fap y deithlen.

 

Mapiau, Teithlyfrau a Nwyddau

Mae’r teithlyfr swyddogol a’r map ar gyfer y Llwybr ar gael o Siop y Llwybrau Cenedlaethol ynghyd ag ystod eang o roddion a nwyddau eraill.

Map o'r Deithlen

Gallwch weld gwybodaeth ar y map trwy dicio'r blychau yn yr Hidlydd Map. Llusgwch y map a defnyddiwch yr offeryn chwyddo i lywio.

Wedi’i ychwanegu at eich Cynllunydd Taith isod

Cyfrifiannell pellter

Pellter a fesurwyd: - Milltiroedd (- km)

Cael proffil graddiant llwybr

Cynhyrchu
Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Customise your trip with our filters.

Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Ewch o un opsiwn i’r llall isod i ddangos y marcwyr sydd ar gael.

Cyffredinol Marchogaeth Beicio

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Gwasanaethau

Llwybrau

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Mae'r proffil o uchder eich teithlen yn cael ei greu pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiannell pellter (uchod) i dynnu llinell.

Teithlenni eraill a allai fod o ddiddordeb i chi

Chwilio am rywbeth tebyg? Dyma ychydig o syniadau i chi…