O Fachynlleth i Lanwddyn

Mae bryniau hyfryd cefn gwlad a llwybrau anghysbell drwy goedwigoedd yn eich aros ar y rhan 4 diwrnod hwn ar hyd Llwybr Glyndŵr. Gan ddechrau yn nhref brysur Machynlleth a gorffen ger llyn poblogaidd Efyrnwy, mae’r llwybr yn mynd trwy fryniau anghysbell gyda golygfeydd gwych, a’ch unig gwmni ambell ddiwrnod fydd cân yr adar.

Trosolwg o'r Daith

Mae'r eiconau isod yn tynnu sylw at bellter, graddfa a thema'r daith hon.

Pellter

45.9

Diwrnodau

4

Graddfa

Heriol

Thema

Hanes

Math o dirwedd

Cefn Gwlad Tonnog

Llwybr Glyndŵr - Machynlleth i Lanwddyn

Dyma bopeth sydd ei angen arnoch i’ch helpu i gynllunio eich antur gerdded eich hun. Cliciwch ar y tabiau saeth glas isod am fwy o wybodaeth.

Teithlen

Mae angen lefel dda o ffitrwydd i gerdded y rhan hon o Lwybr Glyndŵr. Disgwyliwch lwybrau da gyda rhai dringfeydd a disgyniadau serth, bryniau tonnog a golygfeydd gwych.

Mae Machynlleth yn dref fywiog, liwgar yn enwedig ar ddydd Mercher, sef diwrnod y farchnad. Mae’n dref sy’n llawn hanes, yn wir, coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru a sefydlodd ei senedd yma ym 1404.

Dechreuwch y daith gerdded o Ganolfan Owain Glyndŵr a dilynwch arwyddion Llwybr Glyndŵr ar hyd y ffordd dros y cwrs golff i’r Bont-faen ac yn fuan wedi hynny i Benegoes. Rhwng Penegoes a Glantwymyn rydych chi’n disgyn i lawr am ychydig i bentref Abercegyr ond heblaw am hynny rydych chi ar dir uchel gyda golygfeydd gwych.

8.7 milltir / 14.3 Km

Wedi i chi adael Glantwymyn, yn fuan iawn fe fyddwch chi yng nghanol bryniau’r rhan hon o’r llwybr. Yn ddiweddarach mae rhan fechan ar hyd ffordd goedwig ac yna bydd gennych chi daith hir i lawr bryn danheddog tuag at Lanbrynmair gyda golygfeydd gwych i bob cyfeiriad.

6.8 milltir/10.8 Km

Mae’r ddringfa serth allan o Lanbrynmair yn werth chweil wedi i chi gyrraedd y tir uchel a mwynhau’r golygfeydd i lawr i’r dyffryn islaw. Ar ôl darn o goedwig a ffordd hir trwy ddyffryn llydan byddwch chi’n dringo i gomin Pencoed. Mae debygol iawn mai merlod fydd eich unig gwmni yn y fan hyn. Mae’n anodd credu bod pentref hyfryd Llangadfan dim ond tri neu bedwar cilometr i ffwrdd.

10.3 milltir/16.5 Km

Yn fuan ar ôl gadael Llangadfan byddwch yn cyrraedd planhigfa enfawr coedwig Dyfnant. Mae’r goedwig yn darparu ar gyfer pawb sy’n defnyddio cefn gwlad felly gwyliwch am yrwyr car a cheffyl ar y ‘Llwybrau Enfys’. Pan fyddwch chi’n gadael y goedwig byddwch chi’n dynesu at Lyn Efyrnwy. Byddwch wedi dechrau mynd am i lawr pan gewch eich cipolwg cyntaf ar yr argae bwaog mawr. Mae’r ardal yn boblogaidd iawn gyda thwristiaid felly mae yna ddigonedd o leoedd i fwyta ac yfed yma.

Llety

Mae llety’n gymharol brin ar hyd Llwybr Glyndŵr felly mae’n hanfodol cynllunio ac archebu ymlaen llaw. Gellir gweld llefydd i aros ar hyd y rhan hon ar fap y daith.

Mae rhai rhannau serth ar hyd y llwybr hwn felly dylech ystyried ddefnyddio cwmni trosglwyddo bagiau i gludo’ch bagiau. Fel arall, arhoswch ym Machynlleth ac archebwch wasanaeth tacsi i fynd â chi i’ch man cychwyn ac yn ôl i’ch llety bob dydd.

 

 

Teithio

Maes Awyr Birmingham yw’r maes awyr agosaf os ydych chi’n hedfan, ac mae’n cysylltu â gorsaf reilffordd Birmingham International. Mae opsiynau eraill yn cynnwys Manceinion, Caerdydd, Lerpwl neu unrhyw un o feysydd awyr Llundain, gan fod bysiau gwennol cyflym yn mynd o’r meysydd awyr i mewn i Lundain.

Mae’r trên i Fachynlleth yn gadael o Orsaf Euston yn Llundain. Mae yna hefyd drenau uniongyrchol o Birmingham International, Amwythig, Pwllheli ac Aberystwyth.

Mae bws o ben draw’r daith, sef Llanwddyn, i’r Trallwng lle mae gorsaf reilffordd â chysylltiadau da â Birmingham, Amwythig, Pwllheli ac Aberystwyth.

Cyngor

Gall darnau o’r rhan hon o Lwybr Glyndŵr fod yn arbennig o anodd, gyda llawer o ddringo a disgyn, sy’n gofyn am lefel dda o ffitrwydd. Mae’r rhannau hyn, fodd bynnag, yn fyrrach o ran milltiroedd ac yn cynnwys rhannau gwastad a llefydd i gael seibiant.

Rydym yn eich cynghori i ddewis esgidiau a dillad sy’n addas ar gyfer yr amodau hyn ac yn gweddu rhagolygon y tywydd.

Bwyd a Diod

Mae gan Machynlleth a Llanbrynmair siopau a chaffis ond gan fod rhannau o’r llwybr hwn yn eithaf anghysbell gall fod yn anodd dod o hyd i fwyd neu lefydd i fwyta ar y ffordd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cynllunio’ch bwyd a’ch diod ymlaen llaw a’ch bod yn cario digon ar gyfer y diwrnod.

 

Mapiau, Teithlyfrau a Nwyddau

Mae’r teithlyfr swyddogol a’r map ar gyfer y Llwybr ar gael o Siop y Llwybrau Cenedlaethol ynghyd ag ystod eang o roddion a nwyddau eraill.

Map o'r Deithlen

Gallwch weld gwybodaeth ar y map trwy dicio'r blychau yn yr Hidlydd Map. Llusgwch y map a defnyddiwch yr offeryn chwyddo i lywio.

Wedi’i ychwanegu at eich Cynllunydd Taith isod

Cyfrifiannell pellter

Pellter a fesurwyd: - Milltiroedd (- km)

Cael proffil graddiant llwybr

Cynhyrchu
Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Customise your trip with our filters.

Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Ewch o un opsiwn i’r llall isod i ddangos y marcwyr sydd ar gael.

Cyffredinol Marchogaeth Beicio

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Gwasanaethau

Llwybrau

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Mae'r proffil o uchder eich teithlen yn cael ei greu pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiannell pellter (uchod) i dynnu llinell.

Teithlenni eraill a allai fod o ddiddordeb i chi

Chwilio am rywbeth tebyg? Dyma ychydig o syniadau i chi…