Added to your Itinerary Planner below

Distance calculator

Distance measured: - Miles (- km)

Get route gradient profile

Generate
Map Filters
Map Filters

Customise your trip with our filters.

Map Filters
Map Filters

Toggle between the options below to show available markers.

General info Equestrian Info Cycling Info

Accommodation

Points of interest

Services

Routes

Accommodation

Points of interest

Transport

Accommodation

Points of interest

Transport

The custom route elevation is created when you use the distance calculator (above) to draw a line.

Manylion y llwybr

Taith gerdded hamddenol a dymunol yn pontio ffin Cymru a Lloegr gyda golygfeydd o gastell mawreddog Trefaldwyn ar ben ei dwmpath a bryniau Swydd Amwythig yn y pellter.

 

Pellter:                 3 milltir / 4.8 km

 

Man cychwyn:      Maes parcio cyhoeddus wrth y fynedfa i Lwybr Maldwyn (ar y B4385 sy'n arwain tuag at Drefesgob)

Cyfeirnod Grid y Man Cychwyn:            SO 22472 96297

What Three Words:        w3w.co/nuns.vowed.half

Man cychwyn

  • O faes parcio ymyl y dref, ar bwys y caeau chwarae, cerddwch tuag at ganol y dref, gyda Neuadd Tref Trefaldwyn, enghraifft eithriadol o Neuadd Tref a Marchnad Sioraidd fawr a adeiladwyd ym 1748 yn ôl dyluniad William Baker o Audlem. Ar ddiwedd Broad Street ar eich ochr chwith, trowch i'r dde i Church Bank ac os ydych yn ymuno â'r llwybr yng nghanol y dref, cyfunwch eich taith yma.

 

  • Archwiliwch dir yr eglwys, gyda'i lwybr mynediad isel a'i lethrau glaswelltog yn uchel uwchben. Pasiwch yr eglwys ac ychydig cyn gadael y fynwent cymerwch olwg ar Fedd y Lleidr, sef man claddu John Davies, a gafodd ei gyhuddo ar gam a’i grogi; honnodd ei fod wedi datgan na fyddai unrhyw laswellt yn tyfu ar ei fedd am gan mlynedd fel arwydd o'i ddiniweidrwydd.

 

  • Gan adael tir yr eglwys, trowch i'r dde ac yna bron yn syth, ewch i lawr i gwrdd â Church Bank, gan basio Heale House a'r ysgol, ac ymlaen nes cyrraedd Chirbury Road. Dilynwch y palmant ar eich ochr dde, gan basio'r orsaf dân a mynd tuag at ymyl y dref.

 

  • Wrth i gaeau gymryd lle anheddau, trowch i'r dde i Lymore Park Lane ac edrychwch i fyny i'r castell, sy’n teyrnasu ar ben y bryn. Mewn caeau ar eich ochr chwith, mae gweddillion gwrthgloddiau o'r Oesoedd Canol lle defnyddiwyd dulliau ffermio cefnen a rhych. Wrth nesáu at y llyn ac wrth i'r ffordd wyro i'r dde, trowch i'r chwith tuag at y tŷ coch a chroesi'r cae rhwng y tŷ a'r coed, tuag at y gornel dde bellaf lle mae camfa yn mynd â’ch llwybr i'r cae drws nesaf.

 

  • Dilynwch y coedlin gyda'r nant ar eich ochr dde ac ymlaen i gaeau pellach, gan ymuno â'r Llwybr Cenedlaethol i'r dde lle mae golygfeydd o fryniau Swydd Amwythig yn agor i’r chwith wrth i chi grwydro ar hyd Llwybr Clawdd Offa.

 

  • Wrth gwrdd â'r ffordd, gadewch Lwybr Clawdd Offa a throi i'r dde i Barc Lymore, a adeiladwyd yn hwyr yn yr ail ganrif ar bymtheg. Dyma barc ceirw a thirwedd deniadol sydd wedi'i gynnal a’i gadw'n dda, yn gorwedd ar dir tonnog ymysg derw hynafol a gwrthgloddiau o'r hyn a arferai fod yn byllau yn y coetir.

 

  • Yn fuan ar ôl adeiladau'r fferm a chyda phwll ar eich ochr dde, gadewch y ffordd i ddilyn llwybr ceffylau a’i resi o goed ar ei ymylon yn ôl tuag at y maes parcio a thuag at y dref fach a chanddi hanes mawr, lle mae'n teimlo fel pe bai amser yn peidio ond lle mae llawer i'w ddarganfod.

Nodiadau/cludiant i'r dechrau

Parcio

Lleoedd parcio ar gael yn y maes parcio ar ddechrau'r daith gerdded.

Bws

www.cymraeg.traveline.cymru

 

Cyffredinol

Archwiliwch Drefaldwyn, ei chastell a thrysorfa fendigedig Bunners Hardware.

Download walk details