Llwybr Clawdd Offa
Newyddion o'r Llwybr
Ailagorodd Pont Gwaith Gwifrau Tyndyrn ar 26 Mai 2023 ar ôl bod ar gau am flwyddyn ar gyfer gwaith atgyweirio strwythurol. Roedd y gwaith yn cynnwys ailosod y dec cyfan, tynnu’r hen strwythur pren a rhoi trawstiau dur “llawer ysgafnach” yn ei le a byrddau dec pren ysgafn “haws i’w cynnal”. Mae’r bont yn gyswllt pwysig iawn ar draws Afon Gwy i gerddwyr a beicwyr, ac mae’n cysylltu â Llwybr Clawdd Offa a’i olygfan eiconig ym Mhulpud y Diafol, ac i feicwyr mae’n cysylltu â Ffordd Werdd Dyffryn Gwy i Gas-gwent.
Bydd Llwybr Clawdd Offa yn serennu mewn cyfres deledu newydd sy’n cael ei darlledu gan ITV yn ystod mis Ebrill a Mai.
Yn Wonders of the Border bydd cyflwynydd Good Morning Britain a Countryfile Sean Fletcher yn ymweld â mwy na 50 o leoliadau ar hyd y Llwybr Cenedlaethol 177 milltir o hyd ac yn cwrdd â rhai o’r bobl anhygoel sydd wedi ymgartrefu yn y gororau rhwng Cymru a Lloegr.
Bydd y gyfres yn cael ei darlledu ar ITV Cymru Wales o 7.30pm nos Iau 15 Ebrill gyda darllediad rhwydwaith o’r gyfres chwe rhan wedi’i gynllunio ar gyfer gwylwyr ITV ledled y DU yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Dyma un o delynorion gorau’r wlad yn chwarae sonata Gymreig:
Music on Offa