Wedi’i ychwanegu at eich Cynllunydd Taith isod

Cyfrifiannell pellter

Pellter a fesurwyd: - Milltiroedd (- km)

Cael proffil graddiant llwybr

Cynhyrchu
Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Customise your trip with our filters.

Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Ewch o un opsiwn i’r llall isod i ddangos y marcwyr sydd ar gael.

Cyffredinol Marchogaeth Beicio

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Gwasanaethau

Llwybrau

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Mae'r proffil o uchder eich teithlen yn cael ei greu pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiannell pellter (uchod) i dynnu llinell.

Manylion y llwybr

Taith o ddringfeydd graddol hir a disgynfeydd tonnog, ar hyd lonydd gwledig tawel, traciau cerrig a thrwy gaeau glaswelltog. Mae llawer o'r ffordd yn ôl yn dilyn rhan odidog o Glawdd Offa.

Pellter:                Cylchol:                     8.7 milltir / 14 km

Llinol:                        5.3 milltir / 8.4 km

Cyfeirnod Grid y Man Cychwyn:      Trefyclo:         SO 28690 72253

Arhosfan bws Norton:        SO 30419 67041

What Three Words:                             https://w3w.co/bungalows.rich.tries

Man cychwyn

Mwynhewch y daith gerdded hon naill ai fel llwybr cylchol egnïol neu cymerwch fws i Norton am daith linol yn ôl. Am daith ddychmygus i mewn i diriogaeth y brenhinoedd, ychwanegwch ymweliad â Chanolfan Clawdd Offa yn Nhrefyclo at eich antur.

O’r cofadail yng nghanol y dref a gyda'r gwesty o'ch blaen, teithiwch i'r chwith ar hyd Bridge Street, gan basio garej cyn gwyro i'r chwith ochr yn ochr â thir chwarae ac ysgol ar y dde. Yn union ar ôl yr ysgol trowch i'r dde i Lon Farrington, ymlwybrwch gyda'r ffordd cyn belled â'r pant a llwybr ceffylau ag arwyddbyst clir ychydig i'ch ochr chwith. Mae llethr raddol yn arwain y ffordd o’ch blaen at ael y bryn, crwydrwch i fyny llwybr ceffylau cul hardd ac ar hyd lôn wledig fach cyn troi i ddilyn trac cerrig lle mae'r golygfeydd eang yn ymddangos i’ch gwobrwyo ar ôl eich ymdrech.

Wrth gyrraedd ael y bryn ac ardal goediog fach ar eich ochr chwith, parhewch yn syth ymlaen, ar hyd hen drac prydferth lle mae'r byd yn syrthio i ffwrdd o dan eich traed. Mae'r trac yn ymuno â Meeting House Lane, gan basio dyrnaid o ffermydd ac anheddau sy'n swatio ar ochr y bryn ac o'ch blaen, tuag at bentref Norton.

Wrth gyrraedd pen y lôn, trowch i'r chwith i'r ffordd, gan droi i fyny am y pentref a chrwydrwch o amgylch tiroedd yr eglwys, sy'n darparu'r man perffaith i gael gorffwys a thamaid yn eich bol a theimlo enaid y gymuned. Os ydych chi wedi cyrraedd ar fws, cerddwch i fyny tuag at yr eglwys a dechreuwch eich taith yma.

Cymerwch y ffordd fechan yn union gyferbyn â giât yr eglwys, gan edmygu'r cafn dŵr coffa wrth fynd heibio.  Gan adael y pentref y tu ôl i chi, dringwch y trac cerrig tuag at y coetir, gan barhau'n syth ymlaen, gan lapio o amgylch y coetir ar y dde. Wrth i'r trac nesáu at Old Impton Farm, cymerwch y llwybr uchaf yn ffinio â'r caeau, gan ddilyn y arwyddbyst ar letraws ar draws y cae tuag at drac coetir a chan wyro i'r chwith ymlaen at gaeau ar ben y bryniau. Gwyrwch fymryn i’ch dde wrth i chi ddod at ael y bryn ac ewch tuag at y mynegbost yn y gornel, lle mae eich llwybr yn ymuno â Llwybr Clawdd Offa. Oddi yma teithiwch yn ôl i fyny ar hyd llinell y ffens lle byddwch yn dechrau dilyn arwyddion y Llwybr Cenedlaethol am weddill eich taith.

Ewch ar draws pen y bryn a phan fyddwch hanner ffordd ar draws, gwyrwch tuag at y pwynt uchel ar eich ochr dde, lle gallwch orffwys yng nghanol clwstwr o goed a gwerthfawrogi golygfeydd ysblennydd o Hawthorn Hill cyn disgyn i gwrdd â'r llwybr unwaith eto. Ymlwybrwch ochr yn ochr â Chlawdd Offa am weddill eich disgyniad graddol tuag at Drefyclo, gan fynd drwy gaeau tir fferm, drwy wrychoedd a chan ryfeddu at henebion cyn i chi ddisgyn i Drefyclo ymhlith dail Great Frydd Wood. Ymestynnwch eich coesau gyda thro byr o amgylch y dref a lluniaeth haeddiannol!

Nodiadau/cludiant i'r dechrau

Parcio

Lle parcio ar gael yng Nghanolfan Clawdd Offa neu yn un o'r meysydd parcio cyhoeddus yn y dref.

Bws

O Orsaf Fysiau Trefyclo ar Bowling Green Lane i arhosfan bysiau Norton

Trên

Amherthnasol

Cyffredinol

Dolen i visitknighton.co.uk

Download walk details