Wedi’i ychwanegu at eich Cynllunydd Taith isod

Cyfrifiannell pellter

Pellter a fesurwyd: - Milltiroedd (- km)

Cael proffil graddiant llwybr

Cynhyrchu
Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Customise your trip with our filters.

Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Ewch o un opsiwn i’r llall isod i ddangos y marcwyr sydd ar gael.

Cyffredinol Marchogaeth Beicio

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Gwasanaethau

Llwybrau

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Mae'r proffil o uchder eich teithlen yn cael ei greu pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiannell pellter (uchod) i dynnu llinell.

Trosolwg   

Taith hyfryd allan ar hyd lonydd gwledig a llwybrau coediog cul. Dychwelwch ar hyd llwybr coediog tonnog ar lan y dŵr, gyda rhan o’r llwybr yn cynnwys clogfeini heriol neu’n croesi caeau agored o fewn tirwedd hyfryd. Cymerwch amser i werthfawrogi olion yr eglwys ganoloesol sy’n swatio yn y warchodfa natur, un o’r eglwysi cynharaf yn Nyffryn Gwy, ac ymwelwch â Chastell Cas-gwent sy'n eiddo i Cadw yn ystod eich diwrnod.

Pellter: Ymyl y dŵr:        4.4 milltir / 7 km

Mewndirol:     5.6 milltir / 9 km

Cyfeirnod Grid y Man Cychwyn:            SJ 53498 94173

What Three Words:        https://w3w.co/encloses.daytime.essay

Man cychwyn

Dechreuwch eich taith wrth y fynedfa i Gastell Cas-gwent, ar lannau afon Gwy. Gan adael y castell y tu ôl i chi, trowch i'r chwith i Bridge Street cyn edmygu golygfeydd o Bont Cas-gwent, campwaith pensaernïol hardd sy'n diffinio'r ffin wledig.

Mae llwybr â waliau cerrig ar ei hyd yn eich hebrwng ymlaen ac yna byddwch yn dringo rhywfaint, gan adael yr afon ar ôl a chwrdd â chroesfan ar y top lle mae'ch taith yn parhau'n uniongyrchol o'ch blaen. Gadewch Mopla Road lle mae tro yn y ffordd a lle mae'r llwybr yn troi’n gaeau. Dilynwch yr arwyddion ar gyfer Llwybr Clawdd Offa, gan fynd heibio tŵr gwylio adfeiliedig ar y dde neu felin wynt a choetir wedi’i orchuddio gan glychau’r gog ar y chwith. Cerddwch o amgylch y gerddi muriog a thuag at yr annedd Fictoraidd mawreddog o’ch blaenau. Ym mhen draw’r cae cymerwch y llwybr i’r dde, wrth iddo ddolennu o flaen yr eiddo a mynd o dan bont gardd cyn cyrraedd y ffordd.

Edrychwch allan i weld golygfeydd ar draws Pont Hafren wrth i chi droi i’r chwith, croeswch y ffordd a theithiwch ychydig y tu hwnt i’r tro, gan fynd trwy giât fach at lwybr deiliog Moyle Old School Lane. Ewch ymlaen, gan gerfio’ch ffordd ar hyd clogwyn y chwarel, gan gyrraedd golygfan Wintours Leap lle mae’r byd i’w weld wrth eich traed. O’r fan hon, dilynwch y ffordd i’r chwith a chymryd yr is-ffordd 'Lancaut Lane' tuag at warchodfeydd natur Lancaut a Ban-y Gor. Ewch i lawr o’r lôn wrth y mynegbost at eglwys Lancaut, gan grwydro ar hyd llwybr y coetir, heibio’r odynau calch lle mae’r llwybr uchaf yn ymdroelli ymlaen at ymyl y goedwig, trwy gae cyn cyrraedd y clwstwr bach deniadol o adeiladau yn Lancaut.

Ewch trwy’r giât ar dop y cae ac ewch ar letraws i lawr yr allt tuag at giât, gan ymdroelli at yr eglwys ar lwybr sy’n dod â chi i gysylltiad â llu o atgofion canoloesol o bentref sydd bellach wedi mynd, ond a oedd unwaith wedi’i lenwi â physgotwyr.

Yma gallwch ddewis mynd yn ôl ar hyd dau lwybr gwahanol, naill ai trwy lwybr coetir ar hyd ymyl y dŵr neu drwy gaeau agored i gael golygfeydd eang o fryniau tonnog.

Os byddwch yn dychwelyd ar hyd llwybr yr hen bysgotwr ar ymyl y dŵr, ewch i lawr islaw’r eglwys, gan fynd heibio adfeilion bwthyn Fish House a dilyn llwybr anturus o lethrau serth achlysurol a chyfle i sgrialu ar hyd sgri clogfeini. Teimlwch fel fforiwr Astec o dan wyneb y clogwyn ac ailymunwch â Llwybr Clawdd Offa ar lwybr y plasty Fictoraidd cyn troi yn ôl i Gas-gwent.

Os dychwelwch ar draws pen y clogwyni, cymerwch y llwybr tuag i fyny, gan ddringo uwchlaw’r eglwys, heibio llwyfannau gwastad y pentref canoloesol a gollwyd ac yn ôl tuag at yr odynau calch. Yma ewch yn ôl i’r chwith, ar hyd Lancaut Lane, i’r maes parcio a thu hwnt at y gyffordd. Wrth y gyffordd ewch i’r dde, ychydig i lawr yr allt ac yna, gan ddilyn y ffordd ychydig y tu hwnt i olygfan Wintour Leap a’r lle y gwnaethoch ymuno â’r ffordd o’r blaen, i’r llwybr cul wedi’i farcio ar Lwybr Clawdd Offa sydd i’w weld rhwng y tai ar y chwith.

Ewch ymlaen ar draws dau gae sydd wedi’u rhannu gan drac fferm. Camwch oddi ar y llwybr am ennyd a mynd trwy’r giât ar eich chwith, gan osgoi’r llwybr cul sy’n arwain at dai ar y dde, a pharhewch gan ddilyn llinell y gwrych tuag at gaeau agored, gan ddilyn y trac i'r dde o'r gwrych nesaf nes cyrraedd y lôn wledig.

(2) I ddilyn dargyfeiriad fydd yn cipio’ch anadl, cymerwch gipolwg ar Lôn Las ddidraffig Dyffryn Gwy sy’n 5 milltir o hyd a Thwnnel Tidenham sy’n 1080m o hyd.

Gan ddychwelyd i’r man lle gwnaethoch adael, trowch i’r dde tuag at Tutshill ar hyd y lôn wledig am ychydig a dilynwch Ffordd Swydd Gaerloyw i’r cae ar y dde lle mae trac yn rhedeg yn gyfochrog â'r lôn.  Dilynwch y trac i lawr y bryn tuag at y fferm, gan fynd o amgylch yr adeiladau cyn mynd ymlaen ar hyd caeau agored sy’n ymdoddi i anheddau a llwybrau cul deniadol. Wrth i chi ddod allan trowch i’r dde tuag at y ffordd ac ewch i’r chwith, heibio’r arhosfan bysiau a’r ganolfan gymunedol, gan fynd i’r dde i mewn i Mopla Road nes i chi ddod yn ôl i’r llwybr y gwnaethoch ei ddilyn ar ddechrau’r daith ac ewch yn ôl at y bont a chlwstwr y castell.

Nodiadau / cludiant i’r man cychwyn

Parcio

Mae lle parcio ar gael wrth Gastell Cas-gwent neu yn un o’r meysydd parcio cyhoeddus yng Nghas-gwent.

Bws

Amherthnasol

Trên

Amherthnasol

Gwybodaeth gyffredinol

https://www.visitmonmouthshire.com/cymraeg/Cas-gwent.aspx