Wedi’i ychwanegu at eich Cynllunydd Taith isod

Cyfrifiannell pellter

Pellter a fesurwyd: - Milltiroedd (- km)

Cael proffil graddiant llwybr

Cynhyrchu
Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Customise your trip with our filters.

Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Ewch o un opsiwn i’r llall isod i ddangos y marcwyr sydd ar gael.

Cyffredinol Marchogaeth Beicio

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Gwasanaethau

Llwybrau

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Mae'r proffil o uchder eich teithlen yn cael ei greu pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiannell pellter (uchod) i dynnu llinell.

Manylion y llwybr

Teithiwch ar draws caeau a lonydd gwledig gyda nifer o opsiynau ar gyfer eich llwybr, lle byddwch yn treiddio’n llawer pellach i’r byd diwylliannol na’ch camau corfforol.  Cynlluniwch eich teithiau cerdded o amgylch ymweliad â’r Castell Gwyn, y castell mwyaf trawiadol a’r un sydd yn y cyflwr gorau o blith y triawd o gaerau a godwyd yn Sir Fynwy i reoli'r ffin.

 

Pellter:       Llwybr cylchol Llanwytherin   2.2 milltir / 3.6 km

Llwybr cylchol Tre-Rhew     1.9 milltir / 3 km

Llwybr cylchol cyfunol         3 milltir / 4.7 km

 

Cyfeirnod Grid y Man Cychwyn:            SO 38003 16862

What Three Words:        w3w.co/tides.socialite.lodge

 

 

Man cychwyn

  • O faes parcio’r Castell Gwyn, crëwch eich antur eich hun drwy gerdded naill ai un llwybr yn unig neu gyfuno’r llwybrau i greu llwybr cylchol mwy neu ffigur wyth.

 

  • Ar gyfer llwybr cylchol y Castell Gwyn i Lanwytherin – gan wynebu porth y castell, ewch ar y llwybr ar eich ochr dde ag arwyddbost Llwybr Clawdd Offa ac o amgylch ei gyrion ar hyd adran ddeiliog. Wrth gyrraedd cae agored, dilynwch linell y clawdd, trowch i'r dde y tu ôl i Duke’s Barn a thrwy'r giât yn y cae cyfochrog. Dilynwch lwybr glaswelltog sydd wedi'i wisgo wrth iddo ddisgyn i lawr y rhiw a thuag at giât cyn dringo'n raddol drwy gaeau tuag at y ffordd yn Llanwytherin.

 

  • Trowch i'r dde wrth y ffordd a chrwydro drwy'r pentref tawel, lle byddwch yn gadael Llwybr Clawdd Offa ac yn parhau ar hyd y ffordd, gan barhau â'ch taith dros y bont cyn disgyn i ffwrdd o'r ffordd ar eich ochr dde ac ymuno â Llwybr Cerdded y Tri Chastell.

 

  • Gan groesi’r cae, ewch dros y bont droed (1) i olion Melin Great Tre-Rhew, a oedd ar un adeg yn darparu cyflenwadau hanfodol o flawd i'r garsiwn. Gan ddychwelyd i'r presennol, ewch dros y gamfa i'r dde o'r bont, gan fynd i fyny'r rhiw lle gwelwch olygfeydd eang a phell. Teithiwch ar draws caeau i gyrraedd trac cerrig wedi'i gysgodi ymysg y coed ac fe gyrhaeddwch faes parcio'r Castell Gwyn unwaith eto.

 

  • Ar gyfer llwybr cylchol Melin, Fferm a Gwinllan Great Tre-Rhew – gyda'ch cefn tuag at dir y castell, gadewch y Castell Gwyn ar y lôn ddeiliog i'r chwith o'r maes parcio, gydag arwydd Llwybr y Tri Chastell. Wrth i'r lôn lifo i gyfres o gaeau, mwynhewch olygfeydd o'r dyffrynnoedd a'r bryniau pell cyn disgyn i lawr i'r nant a Melin Great Tre-Rhew. Trowch i'r dde dros y bont droed (1) a chroeswch bum cae. Cyn cyrraedd y ffordd, pasiwch Fferm Great Tre-Rhew, y mae ei hadeiladau’n tarddu o'r ail ganrif ar bymtheg.

 

  • Cyrhaeddwch y lôn wledig, trowch i'r dde dros y bont fach a sicrhewch eich bod yn gadael digon o amser i daro i mewn i Winllan y Tri Chastell. Unwaith y byddwch wedi profi ei thrysorau, parhewch â'ch taith a dringwch y lôn wledig yn ôl i’r Castell Gwyn, gan gadw i'r dde wrth y gyffordd gyntaf ac eto wrth i'r ffordd gyrraedd Bwthyn y Castell Gwyn, gan gyrraedd y maes parcio drachefn.

 

  • Am ddolen ehangach sy'n cwmpasu'r ddwy ddolen fyrrach – parhewch fel uchod a thuag at Lanwytherin, gan ddisgyn o'r ffordd ar hyd Llwybr Cerdded y Tri Chastell. Wrth y bont droed (1) trowch i'r chwith i ddilyn y coedlin ac ymyl y dŵr a chyn gadael, ewch dros y nant i edrych ar olion y felin a dychwelwch dros y bont.

 

  • Crwydrwch ar hyd ymyl y dŵr, gan groesi caeau i gyrraedd y lôn wledig a Gwinllan y Castell Gwyn, cyn dringo'r lôn yn ôl i’r Castell Gwyn. Arferai’r castell crand hwn fod yn adeiledd pren a phridd, ond heddiw mae’n adeilad amddiffynnol sydd wedi'i amgylchynu gan ffos ag ymylon serth sydd wedi'i llenwi â dŵr, sy’n gartref i beth wmbredd o fywyd gwyllt.

 

 

Nodiadau/cludiant i'r dechrau

Parcio

Mae maes parcio bach yn y Castell Gwyn.

 

Bws

Amh.

 

Trên

Amh.

Cyffredinol

Cynlluniwch eich taith ar sail taith o gwmpas Gwinllan y Castell Gwyn neu ychwanegwch ychydig o amser i daro i mewn am sesiwn flasu – www.whitecastlevineyard.com

 

Download walk details