Wedi’i ychwanegu at eich Cynllunydd Taith isod

Cyfrifiannell pellter

Pellter a fesurwyd: - Milltiroedd (- km)

Cael proffil graddiant llwybr

Cynhyrchu
Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Customise your trip with our filters.

Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Ewch o un opsiwn i’r llall isod i ddangos y marcwyr sydd ar gael.

Cyffredinol Marchogaeth Beicio

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Gwasanaethau

Llwybrau

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Mae'r proffil o uchder eich teithlen yn cael ei greu pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiannell pellter (uchod) i dynnu llinell.

Manylion y llwybr

Trosolwg                           Gan gyfuno Llwybr Clawdd Offa a Llwybr Dyffryn Gwy, gadewch brysurdeb y dref am lwybrau coediog, lonydd gwledig a throeon hamddenol ar hyd glan yr afon, gan ymestyn eich coesau ar drywydd golygfeydd ysblennydd o gopa’r Cymin cyn taro draw i weld y Tŷ Crwn a Theml y Llynges.

 

Pellter:                               7 milltir / 11 km

 

Man cychwyn:                 Neuadd y Sir, Monow Street, Trefynwy

Cyfeirnod Grid y Man Cychwyn:            SO 50771 12844

What Three Words:        w3w.co/racetrack.deciding.untruth

Man cychwyn

  • Dechreuwch eich taith o Neuadd y Sir ar ben Monow Street. Gyda'ch cefn at y neuadd, trowch i'r dde ac wrth i'r ffordd ddechrau gwyro, trowch i'r dde ar hyd Church Street, stryd gul sy’n frith o siopau bach. Gan ddilyn arwyddion ar gyfer Llwybr Clawdd Offa, trowch i'r dde i St Mary’s Street ac ar y pen, trowch i'r chwith i St James Street am gyfnod byr cyn troi i'r dde a mynd tuag at yr isffordd, i fyny a thros y bont, i adael y dref y tu ôl i chi.

 

  • Wrth ddringo i ffwrdd o’r bwrlwm, dilynwch y palmant ar hyd ffordd ddeiliog, gan groesi'r ffordd i gymryd llwybr sy'n rhedeg yn gyfochrog ond ychydig uwchben y ffordd. Wrth ddod allan o'r coed, mae'r lôn wledig yn eich tywys ymlaen ac i fyny tuag at goetir y bryniau a'r Cymin.

 

·      Mae eich tro tangnefeddus dan y dail, sy'n mynd drwy Goedwig Beaulieu sy'n eiddo i Coed Cadw, yn gyforiog o fywyd gwyllt ac wrth i’r llwybr gyrraedd tir a reolir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae’n dod yn dirwedd agored gyda golygfeydd godidog dros Drefynwy a'r wlad o’ch cwmpas. Mae'r Tŷ Crwn a Theml y Llynges, eu dau wedi’u hadeiladu yn y ddeunawfed ganrif ac sy'n dathlu rhai o lyngeswyr a buddugoliaethau gorau Prydain ar y pryd, yn gefndir perffaith ar gyfer seibiant a phicnic, yn union fel ydoedd ganrifoedd lawer yn ôl.

 

  • Gan adael eich hafan ar ben y bryn, ewch drwy'r maes parcio a dilynwch lwybr coediog tuag at gaeau a thrac cerrig sy'n mynd ar i lawr yn raddol, gan gwrdd â lôn wledig ac wrth y gyffordd trowch i'r dde tuag at ddyrnaid o fythynnod ar ochr y ffordd, sy'n swatio yn y cwm.

 

  • Wrth nesáu at y bont, ewch ar y trac ag arwyddbyst i'r chwith ac anelwch y tu ôl i’r tai uwchben y ffordd a disgynnwch i Redbrook, gan fachu tamaid i’w fwyta o siop y pentref wrth i chi fynd. Ar un adeg, roedd y dref hon ar lannau Afon Gwy yn fwrlwm o weithgarwch diwydiannol, am gannoedd o flynyddoedd yn llawn ffwrneisiau chwyth ar gyfer mwyndoddi copr a haearn, melinau ŷd a phapur ac yn olaf, yn gartref i ffatrïoedd haenau tunplat wedi'u rholio â llaw, a elwir yn 'taggers', yn Ewrop. ​

 

  • Ar ôl archwilio'r pentref a'r hen bont reilffordd dros yr afon, ewch ar Lwybr Cerdded Dyffryn Gwy, sy’n llwybr pellter hir, gan gysylltu eich llwybr ger croesfan y bont reilffordd ac ychydig cyn ardal eistedd laswelltog fach wrth ymyl y cae pêl-droed.

 

  • Dychwelwch ar hyd cymal bendigedig sy’n glynu at lan yr afon, lle mae gwerin y glannau’n hamddena a bywyd gwyllt yn ffynnu. Fe welwch hefyd gampau peirianyddol yn sefyll yn eu gogoniant ar gyrion Trefynwy, sef yr hen bontydd rheilffordd a Thraphont Trefynwy.

 

  • Dilynwch yr afon i'r cae criced gan gwrdd â'r llwybr y dechreuodd arno, lle byddwch yn dilyn eich camau yn ôl dros Bont ar Wy, o dan y ffordd a thrwy'r strydoedd i'r man cychwyn.

 

Nodiadau/cludiant i'r dechrau

Parcio

Lleoedd parcio ar gael mewn nifer o feysydd parcio cyhoeddus

 Bws

Amh.

Trên

Amh.

Download walk details