Wedi’i ychwanegu at eich Cynllunydd Taith isod

Cyfrifiannell pellter

Pellter a fesurwyd: - Milltiroedd (- km)

Cael proffil graddiant llwybr

Cynhyrchu
Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Customise your trip with our filters.

Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Ewch o un opsiwn i’r llall isod i ddangos y marcwyr sydd ar gael.

Cyffredinol Marchogaeth Beicio

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Gwasanaethau

Llwybrau

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Mae'r proffil o uchder eich teithlen yn cael ei greu pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiannell pellter (uchod) i dynnu llinell.

Manylion y llwybr

Llwybrau dymunol drwy gaeau tir fferm, lonydd gwledig a llwybrau coetir, gan ddychwelyd ar hyd afon tuag at y dref o dan draphont ddŵr fawreddog.  Cymerwch seibiant am ychydig o luniaeth ar y ffordd yng Nghastell y Waun, neu tarwch heibio’r lle arbennig hwn, sy’n un o drysorau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cyn neu ar ôl eich taith gerdded.

Pellter  hir:                     6.3 milltir / 10 km

canolig:         6.7 milltir / 10.7 km

byr:                5.3 milltir / 8.5 km (1 Ebrill – 30 Medi yn unig)

Cyfeirnod Grid y Man Cychwyn:            SJ 28737 37540

What Three Words:     https://w3w.co/habit.unwound.flattered

Man cychwyn

Ar ôl profi hyfrydwch Caffi Wylfa, gadewch drwy droi i'r dde i Castle Road a disgyn tuag at lwybr y gamlas ychydig cyn y gylchfan. Hedwch am ysbaid dros Ddyfrbont y Waun cyn troi'n ôl a phlymio i dywyllwch Twnnel y Waun sy’n 421m o hyd. Gan ddychwelyd i olau dydd, gadewch lwybr y gamlas i fyny a thros y bont i'r coetir gyferbyn, gan ymlwybro drwy fyrdd o lwybrau sy'n arwain drwy borth i lwybr drwy ganol y cae tuag at y ffordd. (1) Yma mae eich taith yn ymrannu, gan fynd i'r dde ar hyd y ffordd ar gyfer y llwybr hir ac yn syth ymlaen i barcdir glaswelltog Castell y Waun ar gyfer y llwybrau byr a chanolig.

Os ydych yn cymryd y llwybr hirach â’r golygfeydd, parhewch ar hyd y ffordd nes ei bod yn gwyro i'r chwith lle mae arwyddbost yn arwain eich camau tuag at y dde lle byddwch yn mynd drwy ddau gae cyn croesi lôn wledig. Gan gyrraedd tir ffermio llaeth ewch ar letraws, y tu hwnt i ochr dde'r fferm, i gymryd trac cerrig a dilynwch hwn nes ei fod yn cwrdd â'r groesffordd groesgam. Ewch ymlaen, gan droedio cyrion parcdiroedd, lle mae'r castell yn sefyll yn falch ar ei dwmpath amlwg ac mae eich taith yn cyd-fynd â Llwybr Clawdd Offa.

Dilynwch arwyddbyst y Llwybr Cenedlaethol, gan adael y ffordd wrth y gornel, i fyny a thros ben ael y bryn cyn disgyn drwy gysgod y coetir, ar hyd lôn gerrig a chan basio anheddau sy’n glynu at ochr y bryn.  Gan ddisgyn i'r ffordd, parhewch ymlaen dros bont a dringfa fer cyn troi i'r chwith wrth y cyffordd lle byddwch yn gadael Llwybr Clawdd Offa ac yn ailymuno â’ch taith ar hyd Llwybr Maelor cyn belled â Bronygarth.

Wrth nesáu at ben pellaf y pentref a mynd dros y bont gerrig, anelwch i lawr i bant Coedwig Pentre lle mae carped garlleg gwyllt yn goglais eich ffroenau ac yn gorchuddio llawr y coetir. Gan ddisgyn tuag at yr afon byddwch chi'n gadael y swyn a'r llif ar hyd y glannau, gan oedi am orig i groesi'r bont a chymryd y llwybr ag arwyddbyst i'r cae ar y dde i rodio wrth ochr yr afon, gan fynd o dan gamp beirianyddol y ddyfrbont wrth iddi godi yn uchel uwch eich pen. Gan adael y cae croeswch y ffordd, gan gymryd y llwybr glaswelltog ychydig i'ch ochr chwith i ddringo uwchben yr afon, gan gyrraedd y dref a theithio ar hyd Castle Street i ddychwelyd i’r man cychwyn.

Os byddwch yn cerdded i'r parcdiroedd ar y llwybrau byrrach, dilynwch y llwybr ag arwyddbyst gwyrdd yn uniongyrchol ymlaen am bellter byr, gan wyro i'r dde wrth y postyn marcio nesaf ac ar letraws ar draws y cae i’r giât yn y gornel. Yma ymunwch â’r llwybr glas lle byddwch yn gwneud tro pedol, bron, ar hyd llwybr poblogaidd ac i mewn i'r coetir drwy giât bren lle bydd golau tyner yr haul yn eich cynhesu drwy’r dail.

Yn fuan cyn diwedd y goedwig dilynwch y llwybr i'r dde am bellter byr, ewch drwy giât ac ewch ar y llwybr graean i'r dde, gan ymlwybro o amgylch cyrion y caeau a choetir Parc y Ceirw i'r chwith. Mae'r llwybr yn arwain y ffordd tuag at y castell, gan wau drwy'r coetir wrth iddo ddirwyn ei daith uwchben y ffordd. Wrth nesáu at y castell lle mae tyrrau’n hofran uwchben, disgynnwch tuag at y maes parcio. Ar waelod mynedfa'r castell mae eich llwybr yn rhannu (2), drwy'r giât ar gyfer mynediad tymhorol i lwybr byr yr haf neu drwy'r maes parcio ar gyfer y llwybr pellter canolig drwy'r flwyddyn.

Llwybr byr – gan fynd drwy'r giât dilynwch y trac, i lawr tuag at y porth i gerddwyr ac ymlaen i'r cae cyn ymuno â llwybr coetir serth sy'n cwrdd â'r ffordd lle mae'n ailgysylltu â'r llwybrau eraill (4)

Llwybr canolig – o'r maes parcio cadwch at linell y ffens ac ewch ymlaen, ar hyd y llwybr coch, ar draws parcdir cyn cwrdd â Llwybr Clawdd Offa wrth iddo gyrraedd y ffordd ac ymuno â'r llwybr hir (3).

Nodiadau/cludiant i'r dechrau

Parcio

Lle arcio ar gael yng Nghaffi Wylfa, neu leoedd parcio ar ochr y ffordd gerllaw.

 Bws

Amherthnasol

Trên

Mae gorsaf drenau'r Waun bum munud o'r caffi ar droed. Fel arall, gellir cwrdd â'r teithiau cerdded wrth allanfa Twnnel y Waun sydd wrth ymyl y rheilffordd.

Cyffredinol

Mae Caffi Wylfa, sy’n gaffi cymunedol, yn darparu'r lleoliad perffaith i ddechrau/gorffen eich taith, beth bynnag fo'r tywydd.

Download walk details