Wedi’i ychwanegu at eich Cynllunydd Taith isod

Cyfrifiannell pellter

Pellter a fesurwyd: - Milltiroedd (- km)

Cael proffil graddiant llwybr

Cynhyrchu
Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Customise your trip with our filters.

Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Ewch o un opsiwn i’r llall isod i ddangos y marcwyr sydd ar gael.

Cyffredinol Marchogaeth Beicio

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Gwasanaethau

Llwybrau

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Mae'r proffil o uchder eich teithlen yn cael ei greu pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiannell pellter (uchod) i dynnu llinell.

Manylion y llwybr

Trosolwg                            Tro dymunol ar hyd llwybrau maestrefol cul cyn cyrraedd cefn gwlad agored a golygfeydd dros Aber Hafren. Y naill ben neu’r llall i’ch tro, cymerwch amser i archwilio castell mawreddog Cas-gwent sy’n eiddo i Cadw.

Pellter:                               4.4 milltir/ 7km

 

Cyfeirnod Grid y Man Cychwyn:            SJ 53498 94173

What Three Words:        https://w3w.co/encloses.daytime.essay

Man cychwyn

Dechreuwch eich taith wrth y fynedfa i gastell trawiadol Cas-gwent, sy’n hofran ar lannau dolennog afon Gwy. Gan adael y castell y tu ôl i chi, trowch i'r chwith i Bridge Street cyn edmygu'r golygfeydd dros gampwaith pensaernïol hardd Pont Cas-gwent.

Gan ddilyn Llwybr Clawdd Offa, crwydrwch i fyny’r llwybr sydd â waliau cerrig o boptu iddo gan droi i’r dde ychydig i fyny’r rhodfa a gadael y dringo ysgafn at ddiwrnod arall.  Crwydrwch ar hyd y llwybr muriog uchel, gan adael i’ch dychymyg ail-fyw naws y gorffennol, môr-ladrad yn y dref borthladd a mynd a dod y morwyr ymhlith y clogwyni. Dewch o hyd i’r plentyn y tu mewn i chi ac ewch am antur, gan ymdroelli i fyny ac i lawr o amgylch ymyl y clogwyn y tu ôl i ble mae pobl y dref yn byw heddiw, gyda phytiau o ysblander golygfaol yn torri trwy’r glesni i roi golwg i chi ar olygfeydd ar draws y dŵr.  Teithiwch ar hyd Beachley Road, gan groesi’r bont reilffordd cyn troi i’r dde i Wyebank Avenue ac yna i’r chwith i ddilyn Llwybr Clawdd Offa ar hyd lôn werdd ddeiliog, sy’n dilyn yr afon wrth i chi anelu tuag at Aber Hafren ac yn raddol adael anheddau gardd-dinas y gweithwyr llongau y tu ôl i chi.

Llenwch eich synhwyrau ag awyr y môr wrth i’r caeau a gysgodir gan wrychoedd agor o’ch blaen ac wrth i wrthglawdd Clawdd Offa o’r wythfed ganrif a gloddiwyd â llaw leinio’r llwybr sy’n codi i fyny tuag at Glogwyn Sedbury. Yma fe welwch garreg goffa i nodi’ch cyflawniad ac yna wrth droi’ch cefn ar y dyfroedd, ysbrydolwch eich enaid wrth feddwl am yr antur sydd rhwng lle rydych yn sefyll yma a phen arall y llwybr, 177 milltir o hyd.

Cyn camu’n ôl i Gastell Cas-gwent a phrofi persbectif gwahanol, cymerwch gipolwg ar aber helaeth Afon Hafren, ei phont eiconig ac allan tuag at y byd y tu hwnt.

Nodiadau / cludiant i’r man cychwyn

Parcio

Mae lle parcio ar gael wrth Gastell Cas-gwent neu yn un o’r meysydd parcio cyhoeddus yng Nghas-gwent.

Bws

Amherthnasol

Trên

Amherthnasol

Gwybodaeth gyffredinol

https://www.visitmonmouthshire.com/cymraeg/Cas-gwent.aspx

Download walk details