Mae mapiau Explorer yr Arolwg Ordnans (graddfa 1:25,000, cloriau oren) yn ddelfrydol ar gyfer pob math o weithgareddau awyr agored. Maen nhw’n dangos llwybrau troed, llwybrau ceffylau a llwybrau eraill, ffiniau, nodweddion tirweddol a mannau o ddiddordeb.  

Explorer OL35 Gogledd Sir Benfro 

Explorer OL36 De Sir Benfro 

Mae mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans (graddfa 1:50,000, cloriau pinc) yn dangos ardaloedd ehangach na’r mapiau Explorer, ond maen nhw’n dal i ddangos llwybrau troed, llwybrau ceffylau a llwybrau eraill. Maen nhw’n berffaith ar gyfer gwyliau a beicio.   

Landranger 145 Aberteifi a Mynydd Preseli 

Landranger 157 Tyddewi a Hwlffordd 

Landranger 158 Dinbych-y-pysgod a Phenfro