Sut i fod yn rhywun arall gan Dave, Warden Llwybr Glyndŵr – Tachwedd 2019

Wrth i chi gerdded Llwybr Cenedlaethol, a ydych chi erioed wedi meddwl pwy sy'n casglu sbwriel, yn ailosod yr arwyddion bach crwn sy’n dangos y ffordd, yn torri unrhyw ordyfiant ac yn y blaen? Efallai eich bod chi'n meddwl mai Swyddog y Llwybr Cenedlaethol sy’n gyfrifol? Un o'u tîm nhw o bosib. Neu efallai eich bod chi'n meddwl mai rhywun arall sy’n gwneud.

Yn achos Llwybr Glyndŵr, nid Helen Tatchell, swyddog y llwybr, sy’n gyfrifol. Gyda Llwybr Glyndŵr yn igam-ogamu drwy ganolbarth Cymru am 135 milltir, mae gan Helen, ar ei phen ei hun bach, ddigon i’w wneud yn arolygu, trafod Hawliau Tramwy, cwblhau gwaith papur cyfreithiol, gweithio gyda chontractwyr, ymgymryd â hyrwyddo a mynychu cyfarfodydd tîm rheolaidd Gwasanaethau Cefn Gwlad Powys a Hamdden Awyr Agored. 

Mae Helen, fel swyddogion eraill y Llwybr Cenedlaethol, wedi recriwtio Wardeiniaid Llwybr gwirfoddol i helpu gyda gwaith cynnal a chadw (ysgafn). Mae fy ngwraig, Dorothy, a minnau (mae gweithio mewn parau’n ofyniad diogelwch) yn wardeiniaid llwybr am ran 7 milltir o hyd o Lwybr Glyndŵr. Yn gyfleus ddigon, rydyn ni’n byw mewn pentref sydd yng nghanol ‘ein rhan ni’ o’r llwybr. 

Ni yw’r ‘rhywun arall’ sy’n casglu sbwriel, yn clirio canghennau sydd wedi torri, yn torri planhigion a choed sy’n gordyfu ac yn gosod arwyddion ffordd newydd yn lle rhai coll neu wedi’u difrodi. Rydym hefyd yn rhoi gwybod i Helen am unrhyw giatiau sydd wedi torri, boncyffion sydd wedi cwympo a physt sydd ar goll er mwyn iddi hi allu cysylltu â chontractwyr i wneud y gwaith. 

Mae bod yn ‘berchen’ (er, nad ydym yn cael codi tâl, yn anffodus) ar ran o Lwybr Cenedlaethol yn rhoi boddhad (annisgwyl!). Efallai bod y wobr yn debyg i gynnal a chadw gardd daclus ond ar raddfa dipyn mwy (i’r mwyafrif ohonom, beth bynnag). Yn wir, os gallwch chi gynnal a chadw gardd yn reit dda, mae gennych chi’r holl sgiliau sydd eu hangen i fod yn warden llwybr. 

Caiff offer a gêr diogelwch ei ddarparu ac rydym yn hawlio costau teithio – er nad oes angen fawr o deithio mewn car. Rydym yn cyflwyno adroddiad byr i Helen bedair gwaith y flwyddyn. 

Mae yna swyddi gwag ar gyfer wardeiniaid ar Lwybr Glyndŵr – cysylltwch â Helen Tatchell drwy helen.tatchell@powys.gov.uk. Os hoffech chi gael gwybod am gyfleoedd gwirfoddoli ar Lwybrau Cenedlaethol eraill yng Nghymru a Lloegr, defnyddiwch y ffurflen gysylltu hon.