Hanes a bywyd gwyllt ar Lwybr Arfordir Sir Benfro

Mae’r llwybr, sydd bron yn gyfan gwbl o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro – unig wir Barc Cenedlaethol arfordirol Prydain – yn cynnig gwledd o flodau ac adar arfordirol, yn ogystal â thystiolaeth o weithgaredd dyn o’r cyfnod Neolithig hyd y dydd hwn.

Agorwyd Llwybr Arfordir Sir Benfro – y Llwybr Cenedlaethol cyntaf yng Nghymru – yn 1970. Mae hon yn daith 98.5km rhwng Tyddewi a diwedd y Llwybr yn Llandudoch.

Allan yn awyr y môr, mae ecosystem amrywiol iawn o fywyd gwyllt a chreaduriaid arfordirol yn ffynnu. Gwelir morloi, dolffiniaid a rhywogaethau anarferol o adar y môr ar hyd darnau gwyllt yr arfordir sy’n diffinio Llwybr Arfordir Sir Benfro. Yn y gwanwyn, gorchuddir pennau’r clogwyni â blodau gwylltion, hyacinth, blodau’r gwynt a charped llachar o flodau’r maes, wrth i chi deithio ar ddwy droed. Yn ystod y gwyliau haf y cewch chi’r cyfle gorau i weld yr eithin a’r grug yn plethu dros fryniau’r arfordir.

Fe welwch chi adar drycin y graig, bilidowcar a gwylogod yn nythu ar y clogwyni uchaf, ac oddi ar yr arfordir ar ynys Sgomer, ceir palod wrth eu miloedd. Mae mwy o forloi’n byw yma nag yn unman arall yng Nghymru o ganol yr haf ymlaen, a gellir gweld dolffiniaid, llamhidyddion ac ambell i heulgi oddi ar y glannau neu yn y tonnau islaw’r clogwyni.

Yn ogystal â chynnig golygfeydd a bywyd gwyllt arfordirol bendigedig, mae’r Llwybr yn mynd drwy dirwedd sy’n gyforiog o olion bywyd dyn ar dir a môr. Drwy gerdded y Llwybr, fe ddewch ar draws cromlechi Neolithig, caerau pentir o’r Oes Haearn, eglwysi a chapeli’r seintiau Celtaidd morwrol a’u dilynwyr, cysylltiadau â’r Llychlynwyr, cestyll Normanaidd a chaerau oes Napoleon.

Ar hyd y Llwybr, mae porthladdoedd bychain, odynau calch a warysau yn ein hatgoffa o draddodiad diwydiannol yr ardal.

Ond yn y mannau tawelach, diarffordd, gwyllt, a boblogir yn bennaf gan adar ac ambell i forlo, mae’r hen ‘hud ar Ddyfed’ yn dal i’w deimlo – Gwlad Hud a Lledrith go iawn.

 

Trosolwg o'r Daith

Mae'r eiconau isod yn tynnu sylw at bellter, graddfa a thema'r daith hon.

Pellter

98.5km

Diwrnodau

7 Noson / 6 Diwrnod

Graddfa

Cymhedrol

Thema

Arfordir / Hanes / Bywyd Gwyllt

Math o dirwedd

Cefn Gwlad Tonnog / Ger y Dŵr / Cysylltu Trefi a Phentrefi

Hanes a bywyd gwyllt ar Lwybr Arfordir Sir Benfro

Mae pob cam o’r daith wedi cael ei gynllunio’n ofalus i’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch antur ar ddwy droed. Cliciwch ar y tabiau glas isod am fwy o wybodaeth.

Manylion y Daith

Mae’r daith hon ar gael gan Celtic Trails, cwmni sy’n credu nad oes ffordd well o weld a gwerthfawrogi’r byd naturiol o’n cwmpas na thrwy gerdded. Am dros 20 mlynedd, maen nhw wedi mwynhau helpu cerddwyr ar eu taith, gyda’u gwasanaeth personol unigryw a’u dewis o lefydd aros llawn cymeriad.

Mae’r daith yn cynnwys 7 noson mewn llety gyda 6 niwrnod o gerdded. Byddwch yn cyrraedd Tyddewi ar ddiwrnod 1, yn dechrau cerdded ar ddiwrnod 2 ac yn gadael Llandudoch ar fore diwrnod 8. Mae’n bosib dewis cerdded y darn hwn o’r llwybr dros lai o ddiwrnodau.

Bydd eich gwyliau’n cynnwys llety o safon dda mewn cymysgedd o dai llety, ffermdai, tafarndai lleol a gwely a brecwast gyda chyfleusterau en-suite neu breifat lle bynnag y bo modd. Bydd hefyd yn cynnwys brecwast, trosglwyddo’ch bagiau, eich cludo rhwng y llety a’r llwybr lle bo angen, cynllunio’r daith a Phecyn Cerdded sy’n cynnwys Canllaw i’r Llwybr a map Harvey.

I ddarganfod mwy am y daith hon a gwneud ymholiad neu archebu, cliciwch ar y botwm Ymholwch Nawr ar frig y dudalen. Mae’r botwm Cadw yn Fy Rycsac yn caniatáu i chi arbed teithlenni er mwyn eu gweld yn nes ymlaen, neu eu lawrlwytho fel dogfennau PDF.

Teithlen

Cyrhaeddwch Dyddewi a threuliwch ychydig oriau o gwmpas dinas leiaf Prydain. Dyfarnwyd statws dinas iddi yn 1995, er bod gwreiddiau Tyddewi’n estyn yn ôl i’r bumed ganrif pan oedd nawddsant Cymru, Dewi Sant ei hun, yn byw yma.

Adeiladwyd Eglwys Gadeiriol Tyddewi o garreg leol, ac mae’r lliwiau’n binc a llwyd hardd. Mae’r gadeirlan ar lawr y dyffryn islaw’r pentref. Wrth i chi agosáu o’r Sgwâr, nid oes modd gweld yr eglwys nes eich bod chi’n bur agos ati. Wrth i chi basio drwy’r Porthdy, datgelir ei mawredd o’ch blaen.

Drws nesaf i Gadeirlan Tyddewi mae hi’n werth ymweld ag adfeilion Palas yr Esgob.

Y cyfleuster mwyaf newydd yw Canolfan Oriel y Parc. Estynnwyd canolfan ymwelwyr y Parc Cenedlaethol er mwyn cynnwys oriel gyfoes iawn sy’n arddangos trysorau’r genedl. Mae’r oriel ar agor drwy gydol y flwyddyn, ac mae’r mynediad yn rhad ac am ddim. Mae caffi ar y safle hefyd, a llawer o wybodaeth ddefnyddiol i ymwelwyr.

Mae digon o siopau diddorol a llefydd gwych i fwyta ac yfed yn Nhyddewi. Cynhelir marchnad leol dymhorol dda yno bob dydd Iau o fis Ebrill tan ddiwedd Medi hefyd.

Wrth i chi ddilyn eich ffordd yn ôl allan at y llwybr ar y clogwyni, fe welwch chi un o nodweddion amlwg eich taith ar hyd creigiau rhan ogleddol y llwybr – Carn Llidi, a’i gopa danheddog 181 metr o uchder. O’ch blaen mae Traeth Mawr, y darn hir cyntaf o draeth tywod ers Niwgwl.

Mae’r llwybr yn troelli o gwmpas penrhyn Penmaen Dewi, gydag aur tywod Traeth Mawr y tu ôl i chi a chefn amlwg Ynys Dewi’n ymddangos yn y pellter. Dyma un o rannau mwyaf pellennig y llwybr, ac mae’r tirwedd yn gyfuniad lliwgar o eithin a grug wrth i chi gamu ar hyd un o rannau anoddaf y daith, gydag ambell ddarn serth eithaf hir. Ond mae’r gwaith caled yn bris gwerth ei dalu am yr olygfa o’r copa, sy’n rhyfeddol, ac oddi yma mae’r cerdded yn llawer haws, wrth i’r tir newid o fod yn greigiau geirwon pigfain a sawl cildraeth i fod yn llwybr sy’n aml yn dilyn ymylon caeau.

Oddi yma, mae’r daith yn brofiad mwy hamddenol i lawr i gymuned fechan Abereiddi, a fu unwaith yn safle chwarel lechi fawr. Ers i’r gwaith diwydiannol ddod i ben, ffrwydrwyd wal ochr y chwarel i greu sianel, a llifodd y môr i mewn i ffurfio’r nodwedd o’r enw’r Sinc (neu’r Shinc, ar lafar), a amgylchynir gan greigiau serth, garw.

15.7km / 9.8 milltir

O Abereiddi, Traeth Llyfn yw un o’r traethau bychain cyntaf ar eich llwybr, wrth i chi ddilyn y daith dros y clogwyni uchel i gyfeiriad pentref arfordirol Porthgain. Dyma le rhagorol ar gyfer gwylio adar yn ogystal â gweld enghreifftiau o ddiwydiant hanesyddol ar ffurf adeiladau brics coch a welir ar hyd yr arfordir sydd yno ers adeg y chwareli llechi. Mae’r hoperi brics enfawr yn dal i fwrw’u cysgod dros hen borthladd Porthgain, a arferai fod mor brysur. Ewch yn eich blaen wrth i’r llwybr ddringo uwchlaw’r harbwr.

Oddi yma mae’r llwybr yn llawer mwy gwastad a hamddenol na’r rhannau cynt, a gwelir meini hirion a chylchoedd cerrig hynafol yma ac acw ar hyd y ffordd. Byddwch yn mynd heibio i bentref bach Abercastell, ac wrth nesu at efaill-draethau Aber Mawr ac Aber Bach, mae’r llethrau’n mynd yn gynyddol serthach. O’r fan hon, mae’r llwybr ar hyd pen y clogwyni’n disgyn yn ôl at yr arfordir at ddiwedd taith heddiw.

15.7km / 9.8 milltir

Ailymunwch â’ch llwybr gan ddringo uwchlaw’r arfordir heddiw, ar lwybr drwy gaeau, sy’n fyw o flodau gwylltion sy’n nodweddu darnau gogleddol mwy pellennig a dirgel y llwybr.

O ddechrau taith heddiw, mae’r llwybr yn fwy gwastad o lawer dan draed, cyn disgyn i lawr i gwm â rhaeadr, ac yna codi’n raddol i fyny’r llethr at benrhyn Pen Castell-coch. Mae’r llwybr yn fwy anwastad a garw fan hyn wrth i chi ddilyn y llwybr drwy’r eithin a’r grug, ac ambell garn a wal o gerrig sychion i dorri ar y rhos.

Mae’r golygfeydd gewch chi o’r gefnen yn syfrdanol, a chwithau ynghanol caeau a mynyddoedd heddychlon, diarffordd i’r naill law, a golygfeydd pellennig ar hyd yr arfordir dros oleudy trawiadol Pen Strwmbwl i’r ochr arall. Fan yma, mae’r llwybr yn cordeddu ar hyd yr arfordir, gyda’r nodwedd amlwg ar Ben Strwmbwl yn y pellter cyn i chi droi oddi wrth y môr i gyrion Wdig, gan arwain yn ôl i lawr tua’r lan ar gyfer diwedd darn heddiw.

20.5km / 12.8 milltir

Mae rhan heddiw o’r daith yn mynd drwy un o ardaloedd mwyaf trefol y llwybr am ychydig wrth i chi adael Wdig drwy Abergwaun, a dilyn yr hyfryd Marine Walk o gwmpas yr harbwr bach deniadol heibio i Ben y cyfrwy ble mae’r llwybr yn troelli heibio i’r tai lliwiau losin sydd mor nodweddiadol o arfordir Sir Benfro.

O’ch blaen ar y llwybr mae Ynys Dinas, a bydd y trac yn mynd â chi i lawr i gildraeth bach caregog Aber Bach. Oddi yma, mae’r llwybr yn gynyddol serth, ond gallwch fwynhau golygfeydd gwir ysblennydd yn ôl i gyfeiriad Wdig ac Abergwaun dros y creigiau a’r clogwyni danheddog.

Oddi yma mae’r llwybr yn disgyn yn serth yn ôl i lawr i gymuned fechan Pwllgwaelod, ble mae’n ailymuo â’r llwybr â llwybr serth sy’n arwain i ben Ynys Dinas. Ar eich ffordd ar hyd y llwybr uchel hwn, fe welwch chi olion eglwys hynafol o’r 12fed ganrif ym mhentref Cwmyreglwys, cyn i lwybr yr arfordir ddilyn llwybr drwy’r goedwig cyn ailymuno â’r glannau. Ar ochr arall y penrhyn, daw tref Trefdraeth (neu Tidrath, ar lafar) i’r golwg, a’i harbwr yn gyforiog o hwyliau cychod bach.

22km / 13.7 milltir

O dywod euraidd eang Traeth Mawr Trefdraeth, mae’r llwybr yn ailymuno â Llwybr yr Arfordir ar gyfer un o rannau mwyaf heriol y daith hyd yn hyn, wrth i chi fynd i fyny ac uwchlaw llwybrau clogwyni diarffordd a garw ar y ffordd i Fae Ceibwr, ac ymhellach at Draeth Poppit.

Mae’r llwybr yn glynu’n agos at yr arfordir, ar hyd tirwedd ddelfrydol o ddefaid yn pori, ac mae’r olygfa o’r môr a’r caeau (neu’r perci, fel y’u gelwir yn lleol) yn ymestyn am filltiroedd. Oddi yma mae’r llwybr yn disgyn bron at lefel y môr i gwm cul cyn codi’n serth yn ôl i ben y clogwyn unwaith yn rhagor.

Ar eich ffordd fe sylwch ar gulfor diddorol mewn cwm, sy’n go debyg i’r Sinc yn Abereiddi; enw hwn yw Pwll y Wrach. Dyma un o adrannau mwyaf pellennig y llwybr, ac os craffwch chi, fe ddylech weld ambell aderyn ysglyfaethus (y gwalch a’r cudyll fynychaf) a geir yn yr ardal. Oddi yma mae’r llwybr yn ymuno â’r ffordd, gan ddisgyn i lawr i Fae Ceibwr.

12.8km / 8 milltir

O Fae Ceibwr mae’r llwybr yn ailgysylltu â llwybr serth yr arfordir sy’n dechrau ar ymyl y traeth. Yn ôl ar ben y clogwyni, mae’r llwybr yn cordeddu’n droellog uwch ymyl y clogwyni drwy dirwedd wirioneddol hardd yn llawn o gopaon a dyffrynnoedd sy’n arwain at benrhyn Pen yr Afr, ble mae’r clogwyni’n disgyn yn ôl i’r môr.

Mae Trwyn Cemaes ymhellach draw, ble noda adfail yr orsaf wylio bwynt mwyaf gogleddol llwybr yr arfordir, am fod y bae nesaf rownd y gornel yn arwyddo ein bod wedi cyrraedd aber Afon Teifi, a’r ffin rhwng Sir Benfro a Cheredigion.

Fan hyn mae’r llwybr yn disgyn i lawr i Draeth Poppit wrth geg yr aber. Mae Traeth Poppit yn lle deniadol i gael saib, gyda thraeth hyfryd yn ogystal â thafarndai a chaffis. O dwyni Poppit, mae’r llwybr yn dilyn ymyl tywodlyd y traeth cyn ymuno â ffordd sy’n arwain i mewn i Landudoch, a’r arwydd sy’n nodi’n swyddogol ddiwedd Llwybr Arfordir Sir Benfro, a diwedd eich taith chi.

11.4km / 7.1 milltir

Dewch â’ch taith i ben drwy grwydro pentref hyfryd Llandudoch ar lan Afon Teifi.

Mae’n werth ymweld â chanolfan ymwelwyr gymunedol y Cartws,  wrth ochr adfeilion deniadol abaty Tironensaidd Benedictaidd canoloesol Llandudoch.

Llety

Mae Celtic Trails yn ymfalchïo yn eu dewis o lety o safon. Byddwch yn aros mewn amryw o lefydd gan gynnwys tai llety, ffermdai, tafarndai lleol a gwely a brecwast gyda chyfleusterau en-suite neu breifat lle bynnag y bo modd. Darperir brecwast. Bydd cludiant rhwng eich llety a’r llwybr hefyd yn gynwysedig lle bo angen.

Mae’r daith hon yn cynnwys llety am 7 noson.

Teithio

Yr orsaf reilffordd agosaf at Dyddewi yw naill ai Abergwaun neu Hwlffordd. Mae gwasanaeth bws i Dyddewi sawl gwaith y dydd.

O Landudoch, ewch ar fws 405 ‘Roced Poppit’ i Aberteifi ac yna’r bws 412 i Hwlffordd. Mae gorsaf reilffordd yn Hwlffordd ac mae bysiau National Express o Lundain a Birmingham.

Mae gan Sir Benfro fflyd o bum gwasanaeth bws arfordirol sy’n rhedeg 7 niwrnod yr wythnos drwy gydol yr haf. Mae’r bysiau’n cynnig mynediad i’r rhan fwyaf o Lwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro:

  • Mae ‘Roced Poppit’ (rhif bws 405) yn dilyn yr arfordir rhwng Abergwaun ac Aberteifi, gan aros ym Mhwllgwaelod, Dinas Cross, Trefdraeth, Trewyddel, Poppit a Llandudoch.
  • Mae ‘Gwibiwr Strwmbwl’ (rhif bws 404) yn dilyn yr arfordir rhwng Abergwaun a Thyddewi, gan aros yn Wdig, Pontiago, Pen Strwmbwl, Croes Trefasser, Tremarchog, Tregwynt, Mathri, Abercastell, Trefin, Llanrhian, Porthgain, Abereiddi a Thyddewi.
  • Mae’r ‘Pâl Gwibio’ (rhif bws 400) yn dilyn yr arfordir rhwng Tyddewi ac Aberdaugleddau, gan basio drwy Solfach, Niwgwl, Aberllydan, Aber-bach, Marloes, Dale, St Ishmaels a Herbrandston.
  • Mae ‘Gwibfws yr Arfordir’ (rhif bws 387 / 388) yn mynd â theithwyr o gwmpas Penrhyn Angle, gan aros yn Noc Penfro, Penfro, Angle, Bosherston ac Ystagbwll.
  • Mae’r ‘Gwibiwr Celtaidd’ (rhif bws 403) yn mynd rhwng Tyddewi, Porthclais, Porthstinian a Thraeth Mawr.

Ewch i  wefan Cyngor Sir Penfro am amserlenni a rhagor o wybodaeth.

Mae modd cael gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus a help gyda chynllunio eich taith ar wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio 0871 200 22 33.

Cyngor

Mae’r daith hon wedi’i graddio’n ‘gymhedrol’. O ran anhawster, gall y llwybr fod yn waith caled ar hyd y rhannau ar ben y clogwyni wrth i chi ddilyn llwybr sy’n codi a disgyn dan draed – a sawl esgynfa a disgynfa serth ar hyd y ffordd. Nid yw hyn yn nodweddiadol o’r llwybr cyfan, ac mae sawl rhan sy’n wastad a hamddenol. Er bod rhai o’r rhannau ar hyd y clogwyni’n cynnig golygfeydd ysgubol, efallai fod angen pen clir, a bydd cerddwyr sy’n gyfforddus ag uchder yn mwynhau’r profiad yn fwy, o bosib.

 

Bwyd a Diod

Mae traddodiad mawr yng Nghymru o fyw oddi ar y tir, sy’n ymestyn yn ôl cyn belled ag oes hynafol y Celtiaid. Yn hanesyddol mae bwyd wedi bod yn iachus a syml – prydau wedi’u gwneud gyda dim ond ychydig o gynhwysion syml o ansawdd uchel. Heddiw mae yma lu o farchnadoedd ffermwyr organig, cynhyrchwyr artisan, gwyliau bwyd, a bwytai gwobredig yn aros i chwi eu mwynhau.

Prif adnoddau naturiol Cymru sydd wedi rhoi sail i’w thraddodiad coginio. Mae cig oen Cymru sy’n haeddiannol fyd-enwog, yn cael ei ffermio ar y mynyddoedd a’r dyffrynoedd gwyrddion. Mae caws wedi bod yn fwyd traddodiadol yng Nghymru ers amser maith ac mae cawsiau sydd wedi ennill gwobrau i’w gweld ar fyrddau cartrefi a bwytai fel ei gilydd. Cadwch lygad am fwydydd Cymreig arbennig fel bara lawr, bara brith a chawl – efallai mai dyma fydd bwyd y dyfodol!

Os ydych chi bron â thagu o syched ar ddiwedd diwrnod hir ar y Llwybr yna chewch chi mo’ch siomi – mae Cymru yn enwog am ei chwrw. O fragdy annibynnol mwyaf y Deyrnas Unedig, Brains, i fragdai bach lleol, mae gan y rhan fwyaf o ardaloedd Cymru fragdy eu hunain. Fe gewch chi seidr a gwinoedd lleol hefyd – mae dros 20 o winllannoedd yng Nghymru, yn cynhyrchu gwinoedd sydd wedi ennill gwobrau.

Map o'r Deithlen

Llusgwch y map a defnyddiwch yr offeryn chwyddo i lywio.

Wedi’i ychwanegu at eich Cynllunydd Taith isod

Cyfrifiannell pellter

Pellter a fesurwyd: - Milltiroedd (- km)

Cael proffil graddiant llwybr

Cynhyrchu
Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Customise your trip with our filters.

Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Ewch o un opsiwn i’r llall isod i ddangos y marcwyr sydd ar gael.

Cyffredinol Marchogaeth Beicio

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Gwasanaethau

Llwybrau

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Mae'r proffil o uchder eich teithlen yn cael ei greu pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiannell pellter (uchod) i dynnu llinell.

Teithlenni eraill a allai fod o ddiddordeb i chi

Chwilio am rywbeth tebyg? Dyma ychydig o syniadau i chi…