Llwybr Glyndŵr: Trefyclo i’r Trallwng

Dathlwch hanes diwylliant a natur Cymru ar hyd Llwybr Glyndŵr sy’n 135 milltir o hyd. Archwiliwch dir ffermio bryniog, rhostir agored, coedwigoedd, llynnoedd a chronfeydd dŵr gan ail-fyw anturiaethau Owain Glyndŵr ei hun.

Mae Llwybr Glyndŵr yn dilyn llwybr siâp pedol trwy ddyffrynnoedd gwyrddion hir a mynydd-dir anial bryniau Sir Faesyfed. Gan ei fod mor anghysbell, gallodd Glyndŵr symud yn gyflym ac roedd yn anodd ei ddal ar y cefnffyrdd niferus hyn – nodwedd allwedol ei wrthryfel yn erbyn y Saeson.

A phrin y mae’r cefn gwlad wedi newid ers y cyfnod cythryblus hwnnw. Mae’r llwybr yn eich tywys trwy fynyddoedd diarffordd, hardd canolbarth Cymru, lle mae’n annhebygol y bydd torfeydd yn eich poeni; harddwch digyffwrdd ac unigedd y llwybr yw ei brif atyniad i lawer.

Mae eich taith gerdded yn eich tywys trwy amrywiaeth eang o olygfeydd a thirweddau cyffrous. Gan ddechrau yn Nhrefyclo, byddwch chi’n gadael y torfeydd ac yn anelu am fryniau dwyreiniol Sir Faesyfed, gan gerdded trwy goedwigoedd hynafol, dros fryniau tonnog, heibio i ffermydd anghysbell a phentrefi bychain anghysbell, clòs a chyfeillgar.

Byddwch chi’n dod ar draws llynnoedd a chronfeydd dŵr llydan, golygfeydd dros y dyffrynnoedd coediog serth a lleoliad hudolus Llyn Efyrnwy. Bydd y daith i lawr i safle ysblennydd Llyn Clywedog yn brofiad bythgofiadwy. Mwynhewch lonyddwch ac unigedd y gweundiroedd uchel agored, gyda’u golygfeydd panoramig o ganolbarth Cymru, Bae Ceredigion i’r gorllewin a chopaon dramatig Eryri i’r gogledd. Y mynyddoedd nodedig a welwch yw Cader Idris 892m (2,928’) a Phumlumon Fawr 752m (2,468’), sy’n gwbl wahanol i unrhyw beth a welwch chi yn ein byd ni heddiw.

Trosolwg o'r Daith

Mae'r eiconau isod yn tynnu sylw at bellter, graddfa a thema'r daith hon.

Pellter

217km

Diwrnodau

10 Noson / 9 Diwrnod

Graddfa

Heriol

Thema

Hanes / Bywyd Gwyllt

Math o dirwedd

Cefn Gwlad Bryniog / Byniau Uchel a Rhostir

Llwybr Glyndŵr: Trefyclo i’r Trallwng

Mae pob cam o'r daith wedi'i gynllunio'n ofalus i'ch helpu i wneud y gorau o'ch antur cerdded. Cliciwch ar y tabiau glas isod am fwy o wybodaeth.

Manylion y Daith

Mae’r deithlen hon ar gael gan Celtic Trails, cwmni sy’n credu nad oes ffordd well o weld a gwerthfawrogi’r byd naturiol o’n cwmpas na thrwy gerdded. Am dros 20 mlynedd, maen nhw wedi mwynhau helpu cerddwyr ar eu taith, gyda’u gwasanaeth personol unigryw a’u dewis o lefydd aros llawn cymeriad.

Mae’r daith hon yn cynnwys 10 noson mewn llety a 9 diwrnod o gerdded. Byddwch yn cyrraedd Trefyclo ar ddiwrnod 1, yn dechrau cerdded ar ddiwrnod 2 ac yn gadael y Trallwng ar fore diwrnod 11. Mae opsiynau i gerdded y llwybr dros fwy o ddiwrnodau ar gael.

Bydd eich gwyliau’n cynnwys llety o safon dda mewn cymysgedd o dai llety, ffermdai, tafarndai lleol a gwely a brecwast gyda chyfleusterau en-suite neu breifat lle bynnag y bo modd. Bydd hefyd yn cynnwys brecwast, trosglwyddo’ch bagiau, eich cludo rhwng y llety a’r llwybr lle bo angen, cynllunio’r daith a Phecyn Cerdded sy’n cynnwys Canllaw i’r Llwybr a map Harvey.

I ddarganfod mwy am y deithlen hon a gwneud ymholiad neu archebu, cliciwch ar y botwm Ymholi Nawr ar frig y dudalen. Mae’r botwm Cadw yn Fy Rycsac yn caniatáu i chi arbed teithlenni er mwyn eu gweld yn nes ymlaen, neu eu lawrlwytho fel dogfennau PDF.

Teithlen

Mae eich taith gerdded yn dechrau yn nhref farchnad fach hyfryd Trefyclo, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae modd cyrraedd y dref yn hawdd ar y trên, o Abertawe yn y de, neu o Amwythig yn y gogledd ac mae i’r dref gysylltiadau ffordd da. Ymgartrefwch am y noson gyda phryd bwyd traddodiadol yn un o’r tafarndai niferus i’ch paratoi ar gyfer y daith gerdded sydd o’ch blaen.

Mae diwrnod cyntaf eich taith gerdded yn dechrau gyda dringfa fechan, raddol i fyny Garth Hill (346m), lle cewch eich gwobrwyo â golygfeydd hyfryd dros Drefyclo. O’r fan hon, byddwch yn dringo i fyny bryn arall, Bailey Hill, cyn mynd lawr i bentref bach Llangynllo, lle gallwch chi oedi am ddiod yn y dafarn leol neu ymweld â’r siop. O Langynllo, mae’r llwybr yn mynd yn ôl i fyny i gopaon y bryniau, lle byddwch chi’n treulio ychydig filltiroedd yn cerdded ar hyd gweundiroedd hyfryd llawn rhedyn cyn i chi gyrraedd i lawr ym mhentref bach Felindre.

24km / 15 milltir

Mae taith heddiw’n un ysgafnach, yn dechrau gyda dringfa raddol tuag at safle hen gastell, Castell y Blaidd (nad yw’n bodoli mwyach). O’r fan hon, bydd taith fer yn mynd â chi i bentref Llanbadarn Fynydd sydd â thafarn ragorol lle gallech chi stopio am ginio.

Ar ôl cinio, mae’r llwybr yn dringo’n raddol i fyny tuag at weundir agored ac yna’n dilyn ar  hyd gefnffordd â golygfeydd gwych dros y dyffrynnoedd islaw. Byddwch wedyn yn disgyn i lawr i’r dyffryn tuag at bentref Abaty Cwm-hir ac adfeilion abaty Sistersaidd hynafol. Er nad oes llawer ar ôl o’r abaty heddiw, mae ganddo hanes hynod ddiddorol ac ar un adeg bwriadwyd iddo fod yn un o’r abatai mwyaf yng Nghymru a Lloegr.

24.8km / 15.5 milltir

Mae diwrnod 4 yn un o’r diwrnodau mwy mynyddig, ond mae hefyd yn cynnig rhai o’r golygfeydd gorau ar hyd y daith gyfan.

Mae’r diwrnod yn dechrau gyda dringfa raddol i fyny tuag at grib uchaf Esgair Hill, cyn disgyn eto trwy weundir agored i bentref Bwlchysarnau. O’r fan hon, byddwch yn mynd trwy gaeau a choedwig am ychydig filltiroedd, ac ar ôl hynny yn dechrau dringo cyfres o fryniau serth. Mae’r llwybr yma’n eithaf anodd, ond cewch eich gwobrwyo am eich ymdrech gyda thirwedd a golygfeydd gwirioneddol hardd, a hynny ym mherfeddion Cymru. Ar ddiwedd y dydd, byddwch yn cyrraedd tref fach fywiog a thlws Llanidloes, sydd â digon o siopau, caffis, tafarndai a bwytai i ymlacio ynddynt.

24.8km / 15.5 milltir

Os oes gennych chi amser, efallai yr hoffech chi ddechrau’r diwrnod yn crwydro o gwmpas Llanidloes â’i hadeiladau Tuduraidd o’r 16eg ganrif a’i heglwys hardd.

O Lanidloes, byddwch yn dechrau trwy gerdded drwy goedwig hyfryd, yna’n cyrraedd dringfa fer ond serth cyn disgyn yn raddol i mewn i Gwm Clywedog. Yma cewch olygfeydd ysblennydd o argae drawiadol Clywedog, y byddwch chi’n gallu cerdded i fyny ati. O’r argae, mae’r llwybr yn dringo’n serth trwy goedwig arall, nes i chi gyrraedd ffordd Rufeinig hynafol, y byddwch chi’n ei dilyn nes i chi gyrraedd pentrefan bach Dylife.

23.2km / 14.5 milltir

Mae Diwrnod 6 yn ddiwrnod arall o olygfeydd rhyfeddol. Mae’r daith yn dechrau trwy weundir, a thirwedd drawiadol dyffryn rhewlifol Afon Clywedog. O’r fan hon mae’r llwybr yn disgyn yn serth nes i chi gyrraedd Glaslyn, llyn a noddfa i fywyd gwyllt, gyda chyfleoedd gwych i wylio adar. Wedyn, byddwch yn dringo bryn serth nes i chi gyrraedd pwynt uchaf y daith gyfan, sy’n cynnig golygfeydd o ehangder y dyffrynnoedd, Bae Ceredigion a chopa mynydd cyfagos Foel Fadian.

Yna byddwch yn disgyn yn serth i’r dyffryn islaw, gan basio dros sawl bryn llai nes i chi gyrraedd tref hanesyddol Machynlleth. Roedd Machynlleth yn gartref i Dywysogion Cymru yn y 15fed ganrif, gan gynnwys Owain Glyndŵr ei hun, ac mae digon i’w weld a’i wneud yno o hyd.

23.2km / 14.5 milltir

Mae Diwrnod 7 yn dechrau’n ysgafn, gan ddilyn lonydd bychain a chaeau nes i chi gyrraedd pentref bach Abercegyr. Yna byddwch yn dringo i fyny trwy weundir agored sydd â golygfeydd hyfryd o un o fynyddoedd uchaf Cymru, Cader Idris. Am yr ychydig filltiroedd nesaf, mae’r llwybr yn codi a disgyn dros fryniau a dyffrynnoedd yn ddigon hamddenol. Daw’r diwrnod i ben gyda taith drwy goedwig sy’n arwain at ben bryn bychan gyda golygfeydd hyfryd o’r dyffryn islaw ac o bentref Llanbrynmair.

25.6km / 16 milltir

Mae’r diwrnod yn dechrau â dringfa serth i fyny trwy’r dyffryn, gyda golygfeydd gwych o’r copa. Yna bydd y llwybr yn mynd â chi trwy goedwig fawr, ac yna drwy gaeau wrth i chi anelu tuag at gopa Pen Coed (360m). O’r fan hon, byddwch chi’n pasio trwy weundir agored nes i chi gyrraedd pentref Llangadfan, lle gallwch chi stopio am ginio.

Ar ôl cinio, byddwch yn cerdded trwy goedwig enfawr Dyfnant, ac yn raddol gyrraedd copa’r bryn sy’n datgelu golygfeydd syfrdanol o gronfa Llyn Efyrnwy islaw. Mae Llyn Efyrnwy â’i argae 33 bwa yn un o’r darnau mwyaf eiconig a hardd o bensaernïaeth yng Nghymru gyfan ac mae tirwedd rhyfeddol yn ei amgylchynu.

28.8km / 18 milltir

 

Mae diwrnod 9 yn ddiwrnod ysgafn, sy’n dechrau trwy ddilyn traciau coedwig a ffyrdd bychain am nifer o filltiroedd, cyn pasio drwy goetir a chaeau nes i chi gyrraedd pentref bach Pontllogel. Yna byddwch yn dilyn llwybr hyfryd ar hyd Afon Efyrnwy am y rhan fwyaf o’r dydd, lle bydd digon o gyfle i wylio adar, cyn i chi gyrraedd pentref Pontrobert. O’r fan hon, byddwch chi’n cerdded trwy dir fferm nes i chi gyrraedd pentref Meifod sydd â siop a thafarn.

24km / 15 milltir

Dyma ddiwrnod olaf eich taith gerdded a’r byrraf o’r cwbl. Mae’n dechrau â dringfa raddol i fyny trwy goetir Broniarth Hill. Byddwch chi wedyn yn cerdded o amgylch Llyn Du, ac yna bydd ychydig filltiroedd o gerdded ar dir fferm. Mae un ddringfa fach olaf ar ddiwedd y daith, lle mae golygfa wych o’r copa, cyn i chi anelu’n raddol tuag at eich cyrchfan olaf, sef tref y Trallwng.

17.6km / 11 milltir

Efallai yr hoffech chi dreulio heddiw yn crwydro hen dref farchnad y Trallwng, a oedd yn dref bwysig yng ngwrthryfel Owain Glyndŵr yn erbyn y Saeson ac yn safle brwydr waedlyd. Un uchafbwynt arbennig yw Castell Powis, sy’n gastell godidog o’r 13eg ganrif, ychydig i’r de o’r dref â’i hanes yn hynod ddiddorol.

Pan fyddwch chi’n barod i adael, mae cysylltiadau trên ag Amwythig, a chysylltiadau bws â Birmingham a Llundain. Fel arall, gellir trefnu tacsi i fynd â chi’n ôl i Drefyclo.

Llety

Mae Celtic Trails yn ymfalchïo yn eu dewis o lety o safon. Byddwch yn aros mewn amryw o lefydd gan gynnwys tai llety, ffermdai, tafarndai lleol a gwely a brecwast gyda chyfleusterau en-suite neu breifat lle bynnag y bo modd. Darperir brecwast. Bydd cludiant rhwng eich llety a’r llwybr hefyd yn gynwysedig lle bo angen.

Mae’r daith hon yn cynnwys llety am 10 noson.

Teithio

Mae bysiau gwledig yn cynnig gwasanaeth tameidiog, yn enwedig ar ran ddeheuol y llwybr. Mae gwasanaethau dibynadwy yn cysylltu trefi Llanidloes, Machynlleth a’r Trallwng.

Ewch i wefan Traveline i gael gwybodaeth am yr amserlenni diweddaraf ac er mwyn cynllunio’ch taith.

Mae gorsafoedd rheilffordd ar ddau ben y llwybr. Mae gorsaf reilffordd Trefyclo ar linell Calon Cymru sy’n cysylltu’r Amwythig ag Abertawe. Mae Machynlleth a’r Trallwng ill dau ar linell y Cambrian sy’n rhedeg o’r Amwythig i Aberystwyth a Phwllheli.

Ewch i wefan www.nationalrail.co.uk am wybodaeth am y gwasanaethau trên ac i gynllunio’ch taith.

Cyngor

Mae’r daith hon wedi’i graddio’n gymhedrol i heriol ac mae’n eich tywys trwy amrywiaeth eang o olygfeydd a thirwedd gyffrous. Dylech fod yn ymwybodol ei fod yn croesi tir sydd weithiau’n arw ac yn anghysbell. Mae’n Llwybr Cenedlaethol tawel iawn felly os ydych chi’n chwilio am heddwch a llonyddwch, dyma’r llwybr perffaith i chi.

Rydym yn argymell eich bod yn cerdded y llwybr rhwng mis Mawrth a mis Hydref.

Bwyd a Diod

Mae traddodiad mawr yng Nghymru o fyw oddi ar y tir, sy’n ymestyn yn ôl cyn belled ag oes hynafol y Celtiaid. Yn hanesyddol mae bwyd wedi bod yn iachus a syml – prydau wedi’u gwneud gyda dim ond ychydig o gynhwysion syml o ansawdd uchel. Heddiw mae yma lu o farchnadoedd ffermwyr organig, cynhyrchwyr artisan, gwyliau bwyd, a bwytai gwobredig yn aros i chwi eu mwynhau.

Prif adnoddau naturiol Cymru sydd wedi rhoi sail i’w thraddodiad coginio. Mae cig oen Cymru sy’n haeddiannol fyd-enwog, yn cael ei ffermio ar y mynyddoedd a’r dyffrynoedd gwyrddion. Mae caws wedi bod yn fwyd traddodiadol yng Nghymru ers amser maith ac mae cawsiau sydd wedi ennill gwobrau i’w gweld ar fyrddau cartrefi a bwytai fel ei gilydd. Cadwch lygad am fwydydd Cymreig arbennig fel bara lawr, bara brith a chawl – efallai mai dyma fydd bwyd y dyfodol!

Os ydych chi bron â thagu o syched ar ddiwedd diwrnod hir ar y Llwybr yna chewch chi mo’ch siomi – mae Cymru yn enwog am ei chwrw. O fragdy annibynnol mwyaf y Deyrnas Unedig, Brains, i fragdai bach lleol, mae gan y rhan fwyaf o ardaloedd Cymru fragdy eu hunain. Fe gewch chi seidr a gwinoedd lleol hefyd – mae dros 20 o winllannoedd yng Nghymru, yn cynhyrchu gwinoedd sydd wedi ennill gwobrau.

Map o'r Deithlen

Llusgwch y map a defnyddiwch yr offeryn chwyddo i lywio.

Wedi’i ychwanegu at eich Cynllunydd Taith isod

Cyfrifiannell pellter

Pellter a fesurwyd: - Milltiroedd (- km)

Cael proffil graddiant llwybr

Cynhyrchu
Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Customise your trip with our filters.

Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Ewch o un opsiwn i’r llall isod i ddangos y marcwyr sydd ar gael.

Cyffredinol Marchogaeth Beicio

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Gwasanaethau

Llwybrau

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Mae'r proffil o uchder eich teithlen yn cael ei greu pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiannell pellter (uchod) i dynnu llinell.

Teithlenni eraill a allai fod o ddiddordeb i chi

Chwilio am rywbeth tebyg? Dyma ychydig o syniadau i chi…