Ymwybyddiaeth o Faw Ci a Sbwriel

Rhowch faw ci mewn bag ac ewch â sbwriel adre, neu ddefnyddiwch finiau penodol, os ydyn nhw ar gael.

Ymwybyddiaeth o Ailgylchu

Byddwch yn gyfrifol wrth ddefnyddio eitemau a chadwch nhw er mwyn eu hailgylchu. Gwnewch eich rhan i gadw’n llecynnau gwyrdd a glas yn rhydd o sbwriel.

Ymwybyddiaeth o Fyd Natur

Gwnewch eich rhan i amddiffyn ecosystemau bregus drwy gadw at y llwybrau gan adael dim ar eich hôl.

Ymwybyddiaeth o Dda Byw a Bywyd Gwyllt

Mwynhewch y golygfeydd godidog a gadewch lonydd i anifeiliaid fferm ac anifeiliaid gwyllt. Gwnewch yn siŵr fod cŵn ar dennyn.

Ymwybyddiaeth o Dân

Os yn amau peidiwch â chynnau. Caniateir barbeciws a thanau mewn mannau cyfyngedig yn unig.

Ymwybyddiaeth o Gerddwyr

Byddwch yn garedig, rhannwch y lle. Mae Saethau Melyn, Glas, Coch a Phorffor yn dynodi cilffyrdd sy'n addas i gerddwyr a chymhorthion symudedd.

Ymwybyddiaeth o Geir

Mae Saethau Coch yn dynodi cilffyrdd lle caniateir gyrru. Parciwch yn ystyriol trwy beidio â rhwystro pwyntiau mynediad, dreifiau na baeau hygyrch.

Ymwybyddiaeth o Feiciau

Mae Saethau Glas a Phorffor yn dynodi llwybrau ceffylau lle caniateir beicio. Cofiwch ildio i gerddwyr.

Ymwybyddiaeth o Feiciau Modur

Mae Saethau Coch yn dynodi cilffyrdd y gellir eu teithio ar feic modur. Parciwch yn ystyriol trwy beidio â rhwystro pwyntiau mynediad, dreifiau na baeau hygyrch.

Yn Lloegr

Dilynwch y Cod Cefn Gwlad a helpwch i amddiffyn ein llecynnau gwyrdd a glas tra’n mwynhau’r awyr agored.

 

 

 

 

 

 

Cymru

Canllaw i fwynhau parciau a dyfrffyrdd, yr arfordir a chefn gwlad

 

Dilynwch Y Cod Defnyddwyr Llwybrau