Wedi’i ychwanegu at eich Cynllunydd Taith isod

Cyfrifiannell pellter

Pellter a fesurwyd: - Milltiroedd (- km)

Cael proffil graddiant llwybr

Cynhyrchu
Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Customise your trip with our filters.

Hidlwyr Map
Hidlwyr Map

Ewch o un opsiwn i’r llall isod i ddangos y marcwyr sydd ar gael.

Cyffredinol Marchogaeth Beicio

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Gwasanaethau

Llwybrau

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Llety

Pwyntiau o ddiddordeb

Trafnidiaeth

Mae'r proffil o uchder eich teithlen yn cael ei greu pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiannell pellter (uchod) i dynnu llinell.

Castell canoloesol uwchlaw afon Gwy. Caiff ei ystyried fel y castell carreg hynaf ym Mhrydain. Mae adfeilion Castell Cas-gwent mewn lleoliad trawiadol ar glogwyni uwchben afon Gwy. Gellir gweld y man amddiffynnol a phwerus hwn orau o sawl pwynt ar ochr Lloegr i’r afon. Mae modd mynd i’r castell trwy’r Porth ym mhen isaf y dref. Mae ei siâp hir, sy’n cofleidio ymyl y clogwyn, yn dangos yn glir gwahanol gamau adeiladu’r castell ers ei ddechreuadau cynnar yng nghyfnod y Normaniaid.

Cas-gwent sydd â’r drysau castell hynaf yn Ewrop. Mae’r drysau, sy’n bren i gyd, yn 800 oed. Tan 1962, hongiai’r drysau hyn yn y brif fynedfa ond erbyn hyn maen nhw’n cael eu cadw’n ddiogel mewn arddangosfa ar y safle.

Manylion yr atyniad