Gwybodaeth am y Llwybr

Dewch o hyd i ffeithiau defnyddiol a dysgwch fwy am Lwybr Arfordir Sir Benfro isod.

Ynglŷn â’r Llwybr

Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro’n troi a throelli am 186 milltir (299km) ar hyd yr arfordir mwyaf syfrdanol ym Mhrydain. Mae’n cynnwys bron bob math o dirwedd forol o glogwyni geirwon a childraethau cysgodol i draethau godidog ac aberoedd troellog.  

Mae’r llwybr, sydd bron yn llwyr o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro – unig wir Barc Cenedlaethol arfordirol Prydain – yn cynnig gwledd o flodau ac adar arfordirol, yn ogystal â thystiolaeth o weithgaredd dyn o’r cyfnod Neolithig hyd y dydd hwn. 

Yn ei gyfanrwydd, mae Llwybr yr Arfordir yn her gorfforol sylweddol – honnir bod y 35,000 troedfedd o esgyn a disgyn yn gyfystyr â dringo Everest – ond gellir ei fwynhau mewn darnau byrrach, sy’n hygyrch i bobl o bob oedran a gallu, gyda’r pentrefi bach arfordirol yn eich croesawu a’ch denu i fwynhau ymhellach.  

Archwilio'r Llwybr

Yn ei gyfanrwydd, mae Llwybr yr Arfordir yn her gorfforol sylweddol – honnir bod y 35,000 troedfedd o esgyn a disgyn yn gyfystyr â dringo Everest – ond gellir ei fwynhau mewn darnau byrrach, sy’n hygyrch i bobl o bob oedran a gallu, gyda’r pentrefi bach arfordirol yn eich croesawu a’ch denu i fwynhau ymhellach. 

Mae’r Llwybr Cenedlaethol wedi’i arwyddio’n  dda iawn felly mae’n hawdd dilyn y ffordd. Ond mae’n syniad da i fynd â theithlyfr neu fap gyda chi. 

Mae gan Lwybr Arfordir Sir Benfro rywbeth i’w gynnig drwy gydol y flwyddyn, ac mae’n well gan lawer gerdded pan na fydd hi mor boeth, yn y gwanwyn neu’r hydref, a hyd yn oed ar ddiwrnodau iachusol yn y gaeaf. Mae’r adeg orau’n dibynnu arnoch chi i raddau helaeth, ar eich diddordebau ac a yw’n well gennych chi’r tymor gwyliau prysur, neu fisoedd tawelach y gwanwyn, hydref a gaeaf. Gall fod yn anodd dod o hyd i lety yn yr haf, yn enwedig am un noson yn unig, felly rydym yn argymell eich bod yn archebu mewn da bryd. 

Y gwanwyn yw’r adeg orau i weld adar yn mudo a pharu, a blodau gwyllt. Mae’r hydref hefyd yn dda ar gyfer adar sy’n mudo, a lloi morloi. 

Beth sy’n arbennig am y Llwybr?

Llwybr Arfordir Sir Benfro oedd y Llwybr Cenedlaethol cyntaf yng Nghymru – fe’i agorwyd yn 1970. 

Yn ogystal â chynnig golygfeydd a bywyd gwyllt arfordirol eithriadol i gerddwyr, mae’r Llwybr yn pasio drwy dirwedd sy’n gyforiog o hanes dynol a hanes morwrol. Drwy gerdded ar y Llwybr, fe welwch chi gromlechi Neolithig, caerau pentir o’r Oes Haearn, eglwysi a chapeli’r seintiau morwrol Celtaidd cynnar a’u dilynwyr, cysylltiadau â’r Llychlynwyr drwy gyfrwng enwau lleoedd fel Wdig ac ynysoedd Sgomer a Sgogwm, cestyll Normanaidd enfawr fel y rhai ym Mhenfro, Dinbych-y-pysgod a Maenorbŷr a chaerau Oes Napoleon diweddarach ar hyd arfordir y de a dyfrffordd Aberdaugleddau. 

Ar hyd y Llwybr, mae porthladdoedd bychain, odynau calch a warysau, a safleoedd fel gwaith brics Porthgain yn ein hatgoffa o draddodiad diwydiannol yr ardal. Mae dyfrffordd Aberdaugleddau, y gwnaeth ei harbwr naturiol y fath argraff ar Nelson, yn parhau i fod yn ganolfan ddiwydiannol. 

Ond yn y mannau tawelach, diarffordd, gwyllt, a boblogir yn bennaf gan adar ac ambell i forlo, mae’r hen ‘hud ar Ddyfed’ yn dal i’w deimlo – Gwlad Hud a Lledrith go iawn. 

Llwybr Arfordir Sir Benfro

Cliciwch ar y botwm chwarae i weld uchafbwyntiau Llwybr Arfordir Sir Benfro

DIWRNODAU

12

PELLTER

300km

Creu eich taith eich hun

Wedi'ch ysbrydoli? Gallwch greu teithlen bersonol a dechrau cynllunio'ch ymweliad yma.