Trafnidiaeth

Cyrraedd a Mynd o Gwmpas

Am wybodaeth am gludiant cyhoeddus trwy wledydd Prydain, gan gynnwys amserlenni, cysylltwch â: www.traveline.org.uk neu ffoniwch 0870 6082608

Cyrraedd ar y trên

Ceir gorsafoedd wrth ddeupen y Llwybr. Saif gorsaf Trefyclo ar lein Calon Cymru sy’n cysylltu Amwythig ag Abertawe. Mae Machynlleth a’r Trallwng ar Lein y Cambrian sy’n rhedeg o Amwythig i Aberystwyth a Phwllheli.. 

Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol:

www.nationalrail.co.uk neu ffôn 08457 484950

Mynd o gwmpas gyda Bws

Mae bysiau gwledig yn cynnig gwasanaeth darniog yn enwedig ar ran ddeheuol y llwybr. Mae gwasanaethau dibynadwy’n cysylltu trefi Llanidloes, Machynlleth a’r Trallwng. 

Arweiniad Teithio Powys:

I’w gael trwy godi’r ffôn ar 0845 6076060 neu Ganolfannau Croeso ym Mhowys, ac mae’n rhoi manylion am wasanaethau ac amserlen sy’n cynnwys map manwl o Lwybr Glyndŵr wedi’i osod dros y llwybrau cludiant cyhoeddus.