Ganed Owain Glyndŵr, un o arwyr mwyaf Cymru, tua 1359, yn fab i dirfeddiannwr cyfoethog ac yn ddisgynnydd i Lys Brenhinol Powys a’r Deuheubarth. Daeth yn ysgweir i’r bendefigaeth Seisnig, yn fwyaf nodedig i Henry Bolingbroke a bu’n ymladd dros fyddin y Sais ar gyfandir Ewrop ac yn Yr Alban. Glyndŵr oedd un o’r ychydig Gymry a ddaliai ystadau gan y Goron ac ym 1398, ymgartrefodd ger Sycharth yng nghanolbarth Cymru gyda’i wraig a’u plant.
Efallai na fyddai fawr o sôn amdano onibai i’w gymydog, Reginald Grey, Arglwydd Rhuthun, ddwyn tir oddi wrtho. Ceisiodd Glyndŵr adennill ei dir trwy’r llysoedd, ond roedd y gagendor rhwng y ddeuddyn yn ddiadlam erbyn i Grey sarhau Glyndŵr, gan ddweund “Pa ots sy gennym ni am gŵn troednoeth o Gymry.”
Yn y pen draw, dyma Glyndŵr yn troi at rym arfau i adfer ei dir. Ymledodd y gwrthryfel yn gyflym gydag ymosodiadau niferus ar eiddo’r Saeson yng Nghymru. Ar 16eg Medi 1401, cyhoeddwyd Glyndŵr yn Dywysog Cymru, safiad pendant yn erbyn llywodraeth y Sais a dyma ddechrau brwydr hir ac anodd dros annibynniaeth Cymru. Wedi’u hysbrydoli gan y casineb at Frenin Lloegr, Harri IV, ymosododd byddin Glyndŵr ar drefi eraill ac roeddent yn anelu am y Trallwng pan gawsant eu chwalu ger Amwything. Ymdawelodd y gwrthryfel a derbyniodd pob un o’r gwrthryfelwyr bardwn ac eithrio Owain.
Byrhoedlog oedd yr heddwch ac aildaniwyd y gwrthryfel pan basiodd Harri IV ddeddfwriaeth wrth-Gymreig dra ormesol. Cododd Glyndŵr ail fyddin ac erbyn diwedd 1404, Glyndŵr oedd yn llywodraethu’r rhan fwyaf o Gymru. Yn ddiogel yn ei safle fel Tywysog Cymru, sefydlodd y Senedd Gymreig gyntaf ym Machynlleth ac ym 1406 llofnodwyd y Cytundeb Tridarn gan Glyndŵr, Iarll Northumberland a Syr Edmund Mortimer i rannu Lloegr a Chymru rhyngddynt.
Aeth y Brenin Harri’n sâl a chafodd y Tywysog Harri rwydd hynt a llwyddodd i yrru Glyndŵr ar ffo ac ym 1407, gorfodwyd Glyndŵr i gilio i ogledd Cymru. Chwalwyd ei obeithio a’i freuddwydion i ryddhau Cymru o ormes y Sais a chyn bo hir adenillodd y Saeson eu rheolaeth. Erbyn 1409 roedd y gwrthryfel wedi chwythu’i blwc ac erbyn 1410 roedd popeth drosodd. Gorfodwyd i Glyndwr a’i fab Maredudd ffoi, gan fyw ar herw.
Nid oes unrhyw sôn am safiad olaf gogoneddus ac erbyn 1412, mae Glyndŵr wedi diflannu i bob perwyl. Testun cryn ddyfalu yw beth ddigwyddodd iddo. Bu farw yn ddienw, meddai rhai, mewn brwydr; treuliodd ei ddyddiau olaf yng nghartref ei ferch Alys a’i gŵr Huw Scudamore ym Monnington Stradell, meddai eraill. Y cwbl a wyddom yw nad oes neb yn gwybod i sicrwydd.
Er i freuddwydion Owain Glyndŵr am annibynniaeth Cymru ddod i ben yn gynnar yn y 15fed ganirf, erys Glyndwr yn eicon bwysig yn hanes a diwylliant Cymru.