Ffeil Ffeithiau am y Llwybr

© Visit Wales
  • Lleoliad: Canolbarth Cymru.
  • Hyd: 135 milltir/217km
  • Nifer y diwrnodau sydd eu hangen i’w gwblhau ar gyfartaledd: 9.
  • Defnyddwyr: Cerddwyr ar ei hyd, pobl ar gefn ceffyl a beicwyr ar rai darnau’n unig
  • Y fan uchaf: Foel Fadian 1,530 tr/510m
  • Man cychwyn: Cloc y Dref yn Nhrefyclo.
  • Man gorffen: Y parc cyhoeddus ger y gamlas yn y Trallwng.
  • Tirwedd: Rhostir agored a thir amaeth ymdonnog gyda choetir a choedwigoedd.
  • Uchafbwyntiau: Senedd-dy Glyndŵr ym Machynlleth, Llyn Efyrnwy, Cronfa Llyn Clywedog, golygfeydd dros y Mynyddoedd Cambriaidd.
  • Cysylltiadau Enwog: Owain Glyndŵr a Llywelyn ap Gruffudd (Gwir Dywysog Olaf Cymru).
  • Hoff ran swyddogion y Llwybr: Glaslyn a Foel Fadian oherwydd y gwrthgyferbyniad rhwng y rhostir yng Nglasyn a’r olygfa drawiadol ar ben Foel Fadian, i lawr Dyffryn Dulas gan edrych allan tuag at y môr.
  • Trefi agosaf: Saif Trefyclo, Llanidloes, Machynlleth a’r Trallwng ar y Llwybr.
  • Hygyrchedd: Gellir cyrraedd deupen y llwybr a Machynlleth hefo’r trên o Amwythig. Mae Euston Llundain i Amwythig yn 3 awr (gan newid yn Birmingham neu Wolverhampton). Awr yw Birmingham i Amwythig ac mae Amwythig yn 50 munud o Drefyclo, 1 awr o Fachynlleth ac 20 munud o’r Trallwng. Mae Paddington Llundain i Abertawe yn 3 awr. Mae Abertawe i Drefyclo yn 3 awr
  • Gwybodaeth sydd ar gael:
    • A National Trail Guide gan Aurum Press (ISBN: 1-85410-968-5) £12.99
    • Mae arweiniad i Lety ar hyd Llwybr Glyndŵr wedi’i gyhoeddi a bydd yn cael ei ddiweddaru’n flynyddol.
    • Mae copïau o’r holl daflenni hyn sydd ar gael yn ddi-dâl gan Ganolfannau Croeso ar hyd y Llwybr.
  • Cysylltwch am yr holl wybodaeth a chyngor:
  • Ffôn: Os bydd Swyddog y Llwybr yn absennol, gellir cael gwybodaeth o’r prif Ganolfannau Croeso yn