Telerau defnyddio

Datganiad hawlfraint

© Hawlfraint yr Asiantaeth Gefn Gwlad 2006

Mae’r deunydd a gynhwysir ar y wefan hon yn ddarostyngedig i ddiogelwch hawlfraint yr Asiantaeth Gefn Gwlad oni nodir fel arall. Gall deunydd a ddiogelir gan hawlfraint yr Asiantaeth Gefn Gwlad (heblaw am logos yr Asiantaeth) gael eu cynhyrchu’n ddi-dâl mewn unrhyw fformat neu gyfrwng ar gyfer ymchwil, astudio preifat neu i’w cylchredeg yn fewnol oddi mewn i gorff/sefydliad. Mae hyn yn amodol i’r deunydd gael ei atgynhyrchu’n gywir a heb iddo gael ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Lle bynnag y bydd unrhyw un o eitemau hawlfraint yr Asiantaeth Gefn Gwlad yn cael ei hailgyhoeddi neu’i chopïo i bobl eraill, mae’n rhaid cydnabod ffynhonnell y deunydd gan gydnabod y statws hawlfraint.

Bydd unrhyw ddefnydd arfaethedig arall yn ddarostyngedig i drwydded hawlfraint sydd ar gael gan yr Asiantaeth Gefn Gwlad, , John Dower House, Crescent Place, Cheltenham, Swydd Gaerloyw, GL50 3RA. Ffôn: 01242 521381

Nid yw’r caniatâd i atgynhyrchu deunydd a ddiogelir gan hawlfraint yr Asiantaeth Gefn Gwlad yn ymestyn i unrhyw ddeunydd ar y wefan hon a adwaenir fel hawlfraint trydydd parti. Rhaid cael yr awdurdodaeth i atgynhyrchu’r cyfryw ddeunydd gan ddeiliad yr hawlfraint dan sylw.

Mae’r Asiantaeth Gefn Gwlad yn annog defnyddwyr i sefydlu gorddolennau i’r wefan.

Am wybodaeth bellach am bolisi hawlfraint y Goron a threfniadau trwyddedu, gweler yr arweiniad a geir ar wefan HMSO ar http://www.hmso.gov.uk/guides.htm

Gwefannau allanol
Nid yw’r Asiantaeth Gefn Gwlad yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyaeth y gwefannau y ceir dolennau ar eu cyfer ac nid yw o anghenraid yn cefnogi’r safbwyntiau a fynegir arnynt. Ni ddylid cymryd eu rhestru fel arwydd o gefnogaeth o fath yn y byd. Ni fedrwn warantu y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio drwy’r adeg ac nid oes gennym reolaeth a fydd y tudalennau sydd wedi’u dolennu ar gael.