Datganiad Preifatrwydd
Dan Ddeddf Diogelu Data 1998, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i roi gwybod i chi am unrhyw wybodaeth bersonol y byddwn yn ei chasglu gennych (ac i’w diogelu). Yr wybodaeth isod yw’n polisi ar hyn o bryd. Gall y polisi hwn newid a chyhoeddir y newidiadau diweddaraf ar y tudalen hwn.
Pwy ydym ni
Gweithredir gwefan y Llwybr Cenedlaethol gan yr Asiantaeth Gefn Gwlad, corff cyhoeddus anadrannol a noddir gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i wefan y Llwybr Cenedlaethol:
- Enw’r Wefan: Gwefan y Llwybr Cenedlaethol.
- Cyfeiriad y Wefan: http//www.nationaltrail.co.uk
- Rheolir y Wefan gan: Yr Asiantaeth Gefn Gwlad.
- Cyfeiriad Cyswllt Busnes: Llwybrau Cenedlaethol, Yr Asiantaeth Gefn Gwlad, John Dower House, Crescent Place, Cheltenham, Sir Gaerloyw, GL50 3RA
- Cyfeiriad e-bost: National Trails@countryside.gov.uk
- Rheolwr Data: Yr Asiantaeth Gefn Gwlad
Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys neu bolisïau preifatrwydd gwefannau nas rheolir gan yr Asiantaeth Gefn Gwlad y gall Gwefan y Llwybr Cenedlaethol gysylltu â nhw.
Pa wybodaeth y gellir ei hadnabod yn bersonol y byddwn yn ei chasglu?
Rydym yn darparu mynediad dienw. Gellwch fynd at hafan ein gwefan a phori’n safleoedd heb ddatgelu’ch data personol. Nid yw gwefan y Llwybr Cenedlaethol yn storio nac yn dal gwybodaeth bersonol yn awtomatig. Ni fyddwn chwaith yn dolenni gwybodaeth a gofnodir yn awtomatig drwy dduliau eraill gyda data am unigolion penodol.
Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o wefannau mae gennym gofnodlyfrau mynediad. Mae’r cofnodlyfrau hyn yn cofnodi cyfeiriad IP a phorwr y defnydddiwr ac fe’u rhoddir at ei gilydd i greu gwybodaeth grynodol. Rydym hefyd yn defnyddio olrheinydd ystadegau IBM SurfAid ar bob tudalen. Mae’r olrhain hyn yn peri i borwr y defnyddiwr lwytho llun bach iawn o’r gweinydd SurfAid gan adael i ystadegau am boblogrwydd y wefan honno gael eu casglu. Nid yw ffeiliau cofnodi’n cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol.
Gwefan ryngweithiol, ddeinamig yw gwefan y Llwybr Cenedlaethol. Mae’n defnyddio sesiynau i gofio pa swyddogaeth sy’n cael ei defnyddio gan y defnyddiwr. Mae sesiynau’n gweithio trwy ddefnyddio cwci dros dro yn y porwr, ac mae eu hangen i sicrhau bod y gweinydd yn gwybod pa borwr yw p’un. Symudir y cwci dros dro yn awtomatig pan fydd y defnyddiwr yn cau’r porwr, neu bydd y sesiwn yn dod i ben ar ôl 30 munud heb unrhyw weithgarwch.
Rydym yn casglu gwahanol fathau o wybodaeth neu ddata personol y gellwch ei gwirfoddoli wrth ddefnyddio gwefan y Llwybr Cenedlaethol. Bydd yr wybodaeth yma’n amrwyio gan ddibynnu ar ba dudalennau neu wasanaethau sy’n cael eu defnyddio. Bydd yn rhaid i ddefnyddwyr sy’n cofrestru â ni roi i ni enw, cyfeiriad post a chyfeiriad e-bost.
Os byddwch yn anfon e-bost atom neu’n gwneud cysylltiad dros y ffôn gan ofyn am wybodaeth neu gymorth, dylech nodi efallai y bydd angen i ni gysylltu ag Adran neu gorff arall i gael yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Ni fyddwn yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth bersonol gennych wrth ymdrin â’ch ymholiad, onibai i chi roi caniatâd i ni wneud hynny.
Cyfrinachedd
Ni fyddwn yn rhoi’r dewis i ymwelwyr â’n gwefan i ddefnyddio dull trosglwyddo diogel i anfon eu data personol. Rydym yn defnyddio polisïau diogelwch, rheoliadau a mesurau technegol i ddiogelu’r data personol sydd gennym o dan ein rheolaeth rhag mynediad anawdurdodedig, ei ddatgelu neu gael ei newid, a dinistrio anghyfreithlon neu golled ddamweiniol.
Mae’n rhaid i’r holl aelodau staff a chanddynt fynediad i, ac sy’n gysylltiedig â phrosesu data personol barchu cyfrinachedd y data personol hwnnw.
Casglu data a phennu pwrpas
- Rydym yn casglu’r data personol y gellwch ei wirfoddol wrth ddefnyddio ein gwasanaethau.
- Nid ydym yn casglu gwybodaeth am ein hymwelwyr o ffynonellau eraill.
- Os ydym yn dymuno defnyddio’ch data personol at bwrpas newydd heblaw am yr hyn a roddwyd i ni’n wreiddiol, mae’n rhaid i ni ofyn i chi’n gyntaf o dan y gyfraith.
- Gallwn gyflogi cwmnïau allanol i weithredu ar ein rhan fel proseswyr data. Bydd proseswyr data yn cydymffurfio â’r Polisi Preifatrwydd y gwelir ei fanylion yma.
Eich hawl i weld data personol
Am unrhyw ymholiad neu ystyriaeth am ein polisi prefatrwydd, neu i wneud cais i gael gweld eich data personol, cysylltwch â:
James Paterson,
Records & Information Rights Manager
The Countryside Agency
John Dower House
Crescent Place
Cheltenham
Swydd Gaerloyw, GL50 3RA
Ffôn: 01242 533274 E-bost: foi@countryside.gov.uk
Os byddwch yn gofyn am gopi o’ch data personol, mae’n rhaid i ni ddarparu i chi gopi darllenadwy o’r data personol a gedwir gennym amdanoch o fewn 40 diwrnod. Bydd angen tystiolaeth i brofi pwy ydych chi.
Mae dal data cywir er ein budd ninnau a chithau. Os yw’r data a ddelir gennym amdanoch yn anghywir mewn unrhyw ffordd, gellwch, lle bo’n briodol, gael y data wedi’i ddileu, ei gywiro neu’i newid.
Anghydfod
Ein nod yw sicrhau ein bod yn datrys pob dim yn foddhaol, fodd bynnag os nad ydych wedi’ch bodloni â’n hymateb, gellwch gysylltu â’r:
Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer SK9 5AF
Switsfwrdd: 01625 545 700
Llinell Gymorth Diogelu Data: 01625 545 745
Ffacs: 01625 524 510
DX: 20819 Wilmslow
Gwefan: http://www.informationcommissioner.gov.uk
E-bost: mailto:mail@dataprotection.gov.uk or mail@ico.gsi.gov.uk
-----------------------------------------------------
Rhestr o dermau
Cwci
Neges a roddir i we-borwr gan we-weinydd. Bydd y porwr yn cadw’r neges a phob tro y bydd y porwr yn gofyn am dudalen gan y gweinydd, y neges hon a anfonir yn ôl. Prif amcan cwci yw adnabod defnyddwyr a phersonoleiddio’u hymweliad trwy deilwra gwe-dudalennau iddynt, er enghraifft trwy’u croesawu wrth eu henw y tro nesaf y byddant yn ymweld â’r un safle. Fel arfer, bydd gwefan sy’n defnyddio cwcîs yn eich gwahodd i gynnig gwybodaeth bersonol megis eich enw, eich cyfeiriad e-bost a diddordebau.
Cyfeiriad IP
Mae gan bob cyfrifiadur sy’n gysylltiedig â’r Rhyngrwyd, gyfeiriad IP.
Gwe-weinydd
Yn cyflwyno (yn gweini) gwe-dudalennau i’ch cyfrifiadur
IP (Internet Protocol)
Mae’r holl rwydweithiau sy’n gysylltiedig â’r we yn cyfathrebu trwy IP, y safon dechnegol sy’n gadael i ddata gael ei drosglwyddo rhwng dau gyfrifiadur lletyol. Mae TCP/IP (Protocol Rheoli Trosglwyddo/Protocol y Rhyngrwyd) yn gyfrifol am sicrhau bod negesau yn cyrraedd o’r naill letywr i’r llall a bod y negesau’n cael eu deall.
Porwr
Cymhwysiad meddalwedd a ddefnyddir i leoli a dangos tudalennau ar y we.