Cynllunio taith

Gellir cwbhlhau Llwybr Glyndŵr fesul adran, er ei bod bob amser yn bwysig cynllunio’ch llety neu’ch cludiant ymlaen llaw, gan fod gwasanaethau’n brin ar hyd llawer iawn o’r Llwybr. Gall defnyddwyr y Llwybr gerdded adrannau o unrhyw hyd sy’n addas ar gyfer eu hanghenion ond enghraifft yw’r canlynol sy’n rhannu’r Llwybr cyfan yn un ar bymtheg o adrannau.:-  

Adran 1:  Trefyclo i Langunllo – 6½m/10½km 
Saif Trefyclo,  “Tref-y-Clawdd, ar ddechrau Llwybr Glyndŵr a hanner y ffordd ar hyd Llwybr Clawdd Offa. Tŵr y cloc yn Nhrefyclo yw man cychwyn swyddogol Llwybr Glyndŵr. Dechrau eithaf rhwydd i’r Llwybr yw hwn, y darn anosaf yw dringo trwy dir amaeth am ryw filltir. Yn y pen draw, byddwch yn cyrraedd Llangunllo wrth odre cwm tawel wedi’i amgylchynu gan goed. Daw’r adran hon o’r Llwybr i ben wrth y Gofgolofn Ryfel yn Llangunllo.

Adran 2:  Llangunllo i Felindre – 9¼m/15km
Yma, mae’r llwybr yn eich tywys trwy bentre Llangunllo i rostir agored – un o brif atyniadau’r Llwybr. Yn raddol mae’r bryniau a rhostir agored yn ildio i dir amaeth addfwyn wrth i chi nesáu at Felindre.

Adran 3:  Felindre i Lanbadarn Fynydd – 7½m/12km
Wrth adael Felindre, byddwch yn mynd heibio i weddillion hen fwnt (sydd heb fod yn agored i’r cyhoedd). Yna, mae’r Llwybr yn codi’n raddol trwy dir amaeth i ddarn fer ar y ffordd. Ar ôl gadael y ffordd y mae’r Llwybr yn mynd â chi heibio i hen wrthgloddiau o’r enw Castell-y-Blaidd ac ymlaen i Lanbadarn Fynydd.

Adran 4:  Llanbadarn Fynydd i Abaty Cwm-Hir – 8¼m/13km 
O Lanbadarn Fynydd y mae’r Llwybr yn dringo i rostir agored. Mae gweddill yr adran hon yn mynd â chi ar hyd cefnen sy’n codi i gopa 450m cyn disgyn trwy goed Neuadd Fach i gwm Nant Bachell ac ymlaen i Abaty Cwm-Hir.

Adran 5:  Abaty Cwm-Hir i Flaentrinant - 6¾m/11km
Daw enw Abaty Cwm-Hir o’r fynachlog y Brodyr Gwynion a sefydlwyd yno ym 1143, ond nid oes fawr ohono i’w weld erbyn heddiw. Mae’r Llwybr yn mynd â chi ar hyd lôn las suddedig sy’n dringo’n raddol trwy blanhigfa goedwigaeth dal a thrwchus. Yn gorffen gyda golygfeydd diguro ym Mlaentrinant o gopa Cadair Idrin (823m) yn Eryri i’r gogledd-orllewin.

Adran 6: Blaentrinant i Lanidloes – 8½ m/13½km
O Flaentrinant i Lanidloes y mae’r Llwybr yn igamu-ogamu trwy beth o’r cefn gwlad tlysaf ar hyd y daith.

Adran 7:  Llanidloes i Afon Biga – 9m/14½km
Mae’r rhan hon o’r Llwybr yn dechrau ger Neuadd y Farchnad yn Llanidloes gan groesi Afon Hafren. Yna, gan ddilyn y llwybr yng nghysgod wal argae Clywedog, byddwch yn cyrraedd glannau cronfa ddŵr Clywedog. Gan wneud yn siŵr eich bod yn cadw’ch llygaid yn agored am y Barcud Coch, yn y pen draw, byddwch yn cyrraedd safle picnic Afon Biga.

Adran 8:  Afon Biga i Aberhosan - 9¼m/14¾km
Gan groesi’r afon, byddwch yn cerdded trwy Fforest Hafren gyda’i phinwydd cawraidd, gan ddringo trwy rostir deniadol, byddwch yn cyrraedd cefnen lle y gellwch weld Dylife islaw, pentre a fu unwaith yn enwog am ei gloddfeydd. Daliwch ati ar hyd y Llwybr gan fynd heibio i olion y gaer fach Rufeinig, Glaslyn i’r chwith a Foel Fadian o’ch blaen. Gan ddilyn y llwybr byddwch yn cyrraedd y fan uchaf ar Lwybr Glyndŵr lle mae golygfa anhygoel yn aros ac ar ddiwrnod clir byddwch yn gallu gweld Bae Ceredigion.

Adran 9:  Aberhosan i Fachynlleth – 9½m/15¼km
Ar ôl gwaith dringo go galed i fyny Cefn Modfedd, byddwch yn gadael yr hen lwybr gan anelu i’r de i gychwyn ar  yr adran fawr newydd o’r Llwybr. Gan gerdded trwy goetir ar Ffridd Rhiwlwyfen y mae’r Llwybr yn mynd â chi o gwmpas yr ochr bellaf i Fachynlleth, tref fach fywiog sy’n llawn hanes, gan fynd â chi i’r dref ei hun trwy ddisgyn y ‘Grisiau Rhufeinig’. Coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru ym Machynlleth ym 1404 a sefydlodd Senedd yno.

Adran 10:  Machynlleth i Lantwymyn - 8¾m/14¼km
O Ganolfan Owain Glyndŵr ym Machynlleth mae’r Llwybr yn dechrau gyda darn 3 milltir ar hyd ffyrdd bychain i’r de-ddwyrain i Forge ac ymlaen i Abercegir. O’r fan yma, mae’r Llwybr yn dringo unwaith eto i’r rhostir agored gyda golygfeydd draw am Gadair Idris cyn disgyn unwaith eto i Lantwymyn

Adran 11:  Glantwymyn i Lanbryn-mair – 6¾m/10¾km
Mae’r rhan hon o’r Llwybr yn bleser pur i’w cherdded trwy fryniau ymdonnog a chymoedd llawn golygfeydd. Mae’’r ddringfa gychwynnol o Lantwymyn yn eithaf serth er bod gweddill yr adran hon yn weddol hawdd

Adran 12:  Llanbryn-air i Langadfan – 10¼m/16½km
Wrth adael Llanbryn-mair, mae’r Llwybr yn mynd â chi tua’r gogledd ar adran newydd o dan lein y rheilffordd. Cyn bo hir mae’n mynd â chi i fyny bryn serth, ond mae’n werth yr holl ddringo oherwydd y golygfeydd o’r cwm islaw. Mae’r llwybr yn parhaus ar hyd lôn trwy’r goedwig cyn ailymuno â hen Lwybr Glyndŵr. Cyn bo hir, byddwch yn dringo i ymyl Pen Coed ar draws darn o rostir rhedynog neilltuol o unig. 

Adran 13:  Llangadfan i Lanwddyn – 6½m/10½km
Bellach y mae’r llwybr yn mynd â chi trwy blanhigfa anferthol Coed Dyfnant. Mae Llanwyddyn yn darparu ar gyfer llif cyson o ymwelwyr â Llyn Efrynwy a’r argae drawiadol â’i 33 o fwâu.

Adran 14:  Llanwddyn i Ddolanog – 8¼m/13¼km
Mae’r adran hon yn dynodi diwedd y darnau rhostir mwyaf garw ar y Llwybr. Mae’n eithaf hawdd o hyn ymlaen, gan fynd trwy gymoedd tlws, tir amaeth braf ac ar hyd llwybrau glan-afon dymunol. 

Adran 15:  Dolanog i Feifod – 7m/11km
Mae’r Adran hon o’r llwybr yn cysgodi Afon Efrynwy wrth iddi ymddolenni trwy goedydd gan barhau trwy dir amaeth mwyn cyn croesi ymyl llethrau coediog Gallt yr Ancr

Adran 16:  Meifod i’r Trallwng – 10¾m/17½km
Ar ôl gadael Meifod, bydd yn rhaid i chi ddringo’n serth, os dymunol, trwy goed Bryn Broniarth cyn ymddolenni o gwmpas y Llyn Du. Bydd cerdded mwy cyfforddus trwy dir amaeth yn y pen draw yn eich arwain i’r Golfa ac ymlaen Raven Square yn y Trallwng. Mae Llwybr Glyndŵr yn cyrraedd ei derfyn mewn gardd ger pont y gamlas yn y Trallwg lle mae’n ymgysylltu â llwybr rhanbarthol Llwybr Hafren.

Mae hefyd yn werth ymweld â Chastell Powys a saif ryw hanner milltir o’r Trallwng. Ei adeiladu yn y 13eg ganrif, mae gan y castell erddi teras bendigedig, orendy, tŷ adar ac ambell i ddelw. Yma hefyd y mae amgueddfa Clive o India.