Ynglŷn â’r Llwybr hwn

Taith gerdded dros bellter hir yw’r Llwybr 132 m/212 km hwn y gellir ei mwynhau fel siwrnai ddi-dor, sy’n cymryd, fel arfer, tua naw diwrnod, neu ar ffurf cyfres o deithiau penwythnos neu ddiwrnod. Mae’n dechrau yn Nhrefyclo ar y ffin â Lloegr gan ymddolennu trwy rostir agored, tir amaeth ymdonnog, coetir a choedwigoedd canolbarth Cymru trwy dref Machynlleth a fu’n brifddinas i Gymru ym 1404., gan orffen ger camlas Sir Drefaldwyn yn y Trallwng. Yn y fan hon y mae Llwybr Glyndŵr tua thair milltir o Lwybr Cenedlaethol arall – Llwybr Clawdd Offa y gellir ei ddilyn yr holl ffordd yn ôl i Drefyclo, gan ychwanegu tua 30 milltir at y daith.

Ar hyd y Llwybr ceir rhai o nodweddion hyfrytaf tirwedd Cymru gan gynnwys bryniau tangnefeddus Maesyfed, glannau Cronfa Clywedog a llethrau grugog Pumlumon. Ceir golygfeydd gogoneddus dros Gadair Idris, Llyn Efrynwy, y Mynyddoedd Cambriaidd a’r Golfa. Mae’r daith yn cyrraedd ei fan uchaf ar Foel Fadian (1530 tr./510m) o le y mae golygyfedd ar ddiwrnod clir yn ymestyn ar hyd dyffryn ysblenydd Dulas i Fachynlleth a’r môr..

Mae Llwybr Glyndŵr wedi’i ddatblygu yn bennaf i gerddwyr, er bod yna ddarnau sy’n addas ar gyfer ceffylau a seiclwyr. Fodd bynnag, nid yw Llwybr Glyndŵr bellach yn addas i’w defnyddio fel llwybr ceffyl neu feicio dros bellter hir.