Er bod sôn bod rhai pobl (wirion!) wedi cwblhau’r Llwybr mewn pedwar diwrnod, mae tua pythefnos yn ddelfrydol ar gyfer y daith gyfan. Wrth gwrs, mae llawer o bobl yn dewis cwblhau darnau byr mewn teithiau diwrnod neu gwblhau’r Llwybr cyfan dros nifer o wythnosau, misoedd neu flynyddoedd! Mae yna ddigon o lefydd i aros, bwyta ac yfed yng nghyffiniau’r Llwybr ac mae trafnidiaeth gyhoeddus ar gael i fannau allweddol – defnyddiwch y dolenni ar y dde i gael mwy o fanylion.
Isod ceir disgrifiad de i’r gogledd o’r llwybr, wedi ei rannu i’r un darnau ag a geir yn y llawlyfr swyddogol a gyhoeddir gan Aurum Press.
1. Clogwyni Sedbury i Drefynwy – 17.5 milltir /28 cilometr
Yn dechrau yn Lloegr yn edrych dros aber yr Hafren mae’r Llwybr yn mynd i ddwyrain Casgwent ac yn parhau, gyda golygfeydd gwych, uwchben glan ddwyreiniol y Gwy. Daw’r Clawdd ei hun i’r golwg am y tro cyntaf ac mae’r Llwybr yn mynd i mewn i Gymru yn Redbrook ac yn parhau, heibio’r olygfan yn Kymin, i dref hanesyddol Trefynwy.
2. Trefynwy i Pandy – 16.73 milltir / 27 Cilometr
Mae’r rhan yma yn croesi ffermdir bryniog a heddychlon iawn Sir Fynwy, gan basio ychydig o bentrefi bychain a’r Castell Gwyn o’r 12fed ganrif.
3. Pandy i’r Gelli Gandryll - 17.5 milltir / 28.2 cilometr
Darn dramatig sy’n dringo’n uchel yn y Mynydd Du, yn croesi’r ffin genedlaethol ar grib Hatterall cyn mynd i lawr i’r Gelli Gandryll, sy’n enwog am ei siopau llyfrau niferus.
4. Y Gelli i Ceintun - 14.75 milltir / 23.3 cilometr
Mae’r darn hwn yn cychwyn ar lannau’r Gwy, a welwyd ddiwethaf yn Nhrefynwy, cyn mynd drwy dir bryniog y ffin rhwng Powys a Sir Henffordd. Fel uchafbwynt i’r cam hwn mae’r Llwybr yn codi i dros 400 ar Grib Hergest cyn disgyn i lawr i Geintun.
5. Ceintun i Drefyclo – 13.5 milltir / 21.7 cilometr
Yn ogystal â golygfeydd ardderchog o’r bryniau pellennig, mae’r cam hwn yn nodedig am ddarnau hir o’r Clawdd, wedi eu cadw’n dda, cyn bod y Llwybr yn cyrraedd ei ‘gartref ysbrydol’ – Trefyclo neu Dref –y-Clawdd yn wreiddiol.
6. Trefyclo i Groesffordd Brompton – 15 milltir / 24 cilometr
Ystyrir mai’r darn igam-ogam yma yw darn anoddaf y Llwybr wrth iddo godi a disgyn drwy Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Sir Amwythig. Fodd bynnag, mae’r golygfeydd a’r ymdeimlad o dawelwch yn gwneud yr ymdrech yn un werth chweil.
7. Croesffordd Brompton i Bont Buttington – 12.25 milltir / 20 cilometr
Mae digon o gyfle yma i weld y Clawdd ei hun wrth ei ddilyn, ar draws tirwedd gwastad ond dymunol iawn, am y rhan fwyaf o’r darn. Dim ond tuag at y diwedd y’i gadewir wrth i’r llwybr ddringo i fryngaer Beacon Hill cyn mynd i lawr i Bont Buttington, ac yna mae’r Trallwng o fewn tafliad carreg.
8. Pont Buttington i Lanymynech – 10.5 milltir / 17 cilometr
Cam trosiannol rhwng y bryniau – bron yn wastad drwyddo. Mae’r Llwybr yn dilyn darnau o Gamlas Sir Drefaldwyn a’r Afon Hafren cyn cyrraedd tref Llanymynech ac yma y ffin rhwng Cymru a Lloegr yw’r stryd fawr!
9. Llanymynech i Felin y Waun – 14 milltir / 22.5 cilometr
Ar ôl y rhan fwyaf gwastad mae’r Llwybr yn dychwelyd i godi a disgyn drwy Fryn Llanymynech, Moelydd, Coedwigoedd Candy a Hen Gae Ras Croesoswallt. Mae yna ddarnau da o’r Clawdd ei hun a bydd gan archeolegwyr ddiwydiannol ddidordeb yn yr ardaloedd mwyngloddio o amgylch Nantmawr.
10. Melin y Waun i Landegla – 15.5 milltir / 25.7 cilometr
Mae’r rhan amrywiol yma yn cynnwys darn olaf y Clawdd cyn bod yr heneb a’r Llwybr yn ffarwelio. Ar ôl Castell y Waun (y gellir ei gyrraedd ar hyd llwybr a ganiateir yn yr haf yn unig) mae’r Llwybr yn croesi dyfrbont hanesyddol Pontcysyllte cyn cyrraedd sgarp dramatig Eglwyseg ger Llangollen a disgyn drwy Goedwig Llandegla.
11. Llandegla i Bodfari – 17.5 milltir /28 cilometr
Yn fuan wedi Llandegla mae’r Llwybr yn cyrraedd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd ac, yn dilyn y grib yn bennaf, mae’n aros arni tan y tu allan i Brestatyn. Mae yna gaerau pridd hynafol a golygyfedd godidog tua’r gorllewin ar draws Dyffryn Clwyd i Eryri ac i’r dwyrain tuag at y ffin â Lloegr a thu hwnt.
12. Bodfari – Prestatyn – 12 milltir / 19 cilometr
Mae darn mwyaf gogleddol y Llwybr yn dal i fod ym Mryniau Clwyd. Er eu bod yn llai erbyn hyn nid oes ball ar y golygfeydd a’r tawelwch nes, o’r diwedd, mae’r Llwybr yn mynd i lawr i Brestatyn ac ar ôl cerdded i fyny’r stryd fawr, daw diwedd y daith ar lan y môr.