Mae Llwybr Clawdd Offa yn dilyn cyfres o hawliau tramwy cyhoeddus sydd wedi eu harwyddo’n dda y gall pobl gerdded ar eu hyd yn gyfreithlon.

Arwyddion a Hawliau Tramwy

Mae Llwybr Clawdd Offa yn dilyn cyfres o hawliau tramwy cyhoeddus sydd wedi eu harwyddo’n dda y gall pobl gerdded ar eu hyd yn gyfreithlon.

 Mae’r fesen, symbol y Llwybrau Cenedlaethol, yn cael ei defnyddio i arwain eich taith trwy nodi’r llwybr mewn sawl gwahanol ffordd. Mae’n cael ei defnyddio ar y cyd â saethau lliw neu’r geiriau ‘llwybr troed’, ‘llwybr ceffyl’’ neu gilffordd’ i ddangos pwy gaiff ddefnyddio’r hawl dramwy sydd dan sylw.

 Mae’r saeth felen yn dangos llwybr i gerddwyr. Mae’r gair ‘llwybr troed’ a/neu saeth felen yn dangos llwybr lle na all ond cerddwyr ei ddefnyddio, a lle mae’n anghyfreithiol i seiclo, marchogaeth neu yrru cerbyd, heb ganiatâd y tirfeddiannwr.

 Mae’r saeth las yn dangos llwybr y caiff cerddwyr, marchogion a seiclwyr ei ddefnyddio. Mae’r gair ‘llwybr ceffyl’ neu saeth las yn dangos llwybr y gall cerddwyr, marchogion a seiclwyr ei ddefnyddio, ond lle, heb ganiatâd y tirfeddiannwr, mae’n anghyfreithiol i yrru unrhyw gerbyd.

 Mae’r saeth goch yn dangos hawl dramwy sy’n gallu cael ei defnyddio’n gyfreithiol gan gerddwyr, pobl ar gefn ceffyl, seiclwyr a modurwyr. Mae’r gair ‘cilffordd’ a/neu saeth goch yn dangos bod hawl dramwy y caiff cerddwyr, pobl ar gefn ceffyl, seiclwyr a modurwyr ei defnyddio.