Bu Jonathan Neale, sy’n ysgrifennu erthyglau i Gyngor Cefn Gwlad Cymru, yn cerdded ac yn ysgrifennu am Lwybr Clawdd Offa yn 2005 fel rhan o’i waith!! Dyma’i stori.
‘Tocyn un-ffordd i Gasgwent plis’.
‘Dyna ni! Dwi ar y trên o’r diwedd... Pam yn y byd dwi’n gwnud hyn?’ Dyma’r peth cyntaf a ysgrifennais yn fy nyddiadur, a hynny wrth deithio o’m cartref (ger Porthmadog) i Gasgwent, o lle dwi’n bwriadu cerdded y 177 milltir o Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa.
Diolch byth, atebodd cefn gwlad Cymru fy nghwestiwn. Wrth groesi Aber Mawddach ar Lein yr Arfordir cefais fy hun yn edrych am i fyny, o’r afon yn troelli’n araf i’r fforestydd derw dan y niwl a rywle fry uwchben, cymylau garw oedd yn gorchuddio Cadair Idris. Nid heulwen ac awyr las y llyfrynnau gwyliau; dyma’r Gymru go iawn; ei hawyrgylch; ei thirweddau amrywiol; ei horiogrwydd.
O ystyried mai teg edrych tuag adref, penderfynais mai gwell fyddai cerdded i’r gogledd ar hyd Llwybr Clawdd Offa. Felly, ar drên yn mynd i’r de, gyda dau newid yn Amwythig a Chasnewydd, yn fuan iawn roeddwn yn edmygu’r Castell Normanaidd yng Nghasgwent, sy’n ymgodi uwchben yr Afon Gwy wrth iddi hithau fynd heibio’r clogwyni calchfaen serth cyn llifo i’r de i aber yr Hafren.
Wordsworth a Dyffryn Gwy
Roedd Clawdd Offa, a’r Llwybr Cenedlaethol o Gasgwent i Drefynwy, yn codi’r galon wrth gerdded. Roedd rhyw hud dros y Clawdd, y clogwyni dramatig, y coedwigoedd yw, ffawydd a chastan, sy’n agor allan mewn llefydd gan gynnig golygfeydd gwych o Ddyfryn Gwy, yn cynnwys Abaty Tyndyrn. Wrth gwrs darganfu William Wordsworth ei swyn dipyn yn ôl:
How oft, in spirit, have I turned to thee,
O sylvan Wye! Though wanderer through the woods,
How often has my spirit turned to thee!
Mae Dyffryn Gwy hefyd yn gartref i Fflamgoed Tintern (Euphorbia serrulata), planhigyn prin iawn a geir yn y llennyrch coetir yma. Yn anffodus, ar y daith hon ychydig o amser oedd gen i i roi sylw i bethau fel hyn ac felly, wedi oedi dros degeiriannau porffor cynnar yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Highbury (English Nature) ymlaen â mi, gan gyrraedd Trefynwy yn hwyr y prynhawn yn ddigon blinedig.
Golygfeydd o’r Mynydd Du.
Trannoeth, croesais dirwedd hollol wahanol o gaeau a gwrychoedd, gyda’r Ysgyryd Fawr a’r Mynydd Du yn fy nhynnu ymlaen yn ddidostur. Cyrhaeddais Pandy ar yr afon Honddu ger y Fenni erbyn amser cinio, ac yn gweld bod yr haul yn dal yn uchel uwchben Crib Hattersall, penderfynias wneud ail ddarn or Llwybr. Roedd hi gyda’r nos arnai’n cyrraedd y Gelli Gandryll, fy nhraed yn llosgi a’m cymalau yn brifo. Roeddwn angen bath poeth hir, felly dyma fynd i westy a chael ymlacio’n llwyr. Es i gysgu gyda’r golygfeydd gwych yna o ddyffrynnoedd yr Olchon a Honddu o dros 2300 troedfedd i fyny ar dywodfaen haenog y Mynydd Du. Ro’n i gwybod fy mod wedi cerdded gormod y diwrnod hwnnw, ond bu’n ail ddiwrnod o olygfeydd godidog o Sir Fynwy, gyda Sir Henffordd bellach yn dod yn lle Sir Gaeloyw wrth i’r llwybr groesi’r ffin yn barhaus.
Y Gelli yw un o’r llefydd niferus `dwi wedi ymweld â nhw a dweud wrthyf fy hun bod yn rhaid i mi ddod nôl – yr holl bori mewn llyfrau! Ar ôl noson dda o gwsg, cerddais ymlaen tuag at Ceintun, gerllaw Clyro, lle y peintiodd Kilvert ddarlun mor gofiadwy o fywyd ar y ffin yn yr 19eg ganrif. Ond daeth y cerdded hamddenol i ben gyda chenllif o law, a bu’n rhaid i mi gysgodi yn yr Oxford Arms yn Ngheintun, lle y bu i Balti Eidion am ddim, i ddathlu rownd derfynol Cwpan yr FA, gynhesu’r galon.
Glyndwr Wyllt
Diolch byth, roedd trannoeth yn heulog, er y bu’n rhaid i mi bacio pabell wlyb ac er bod llawer o’r gêr yn dal yn wlyb ers y diwrnod cynt. Mae’r Clawdd yn dod i’r golwg eto i’r gogledd o Geintun, ac mae ar ei fwyaf trawiadol: yn enfawr, ac yn cordeddu drwy wlad fryniog gorllewin Sir Drefaldwyn. Daeth eglwys Pileth yn sgleinio’n wyn ar Bryn Glas i’r golwg, yn edrych dros fryn dyffryn Llugwy, a gerllaw, 6 pinwydden dal, sy’n nodi’r fan lle’r enillodd Owain Glyndwr frwydr waedlyd yn 1402. Yn ddiweddarach y frwydr hon oedd testun y ‘news from Wales’ yn Henry IV, Rhan I, Shakespeare.
Cyrhaeddias Drefyclo (Tref y Clawdd) yn heulwen diwedd y prynhawn, a gosod fy mhabell o dan goedwig Pantpunton, i gymanfa o adar yn canu yn y coed derw ar y llethrau serch uwchben. Gadewais y wersyllfa (yn Lloegr) a cherdded yr ychydig gannoedd lathenni i’r orsaf Reilffordd (yng Nghymru), lle’r oeddwn wedi trefnu i gyfarfod fy mrawd. Wedyn, soniodd sut y bu iddo weld ‘hen ŵr’ (42 oed) yn cerdded tuag ato – Wel! Roeddwn newydd gerdded 80 milltir mewn 4 diwrnod.
Ar wahân i’w leoliad, mae’n ymddangos yn reit addas mai yn Nhrefyclo y mae Canolfan Clawdd Offa, a lle’r agorwyd Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn 1971. I mi, nid oes unman yn crynhoi hanes cyfoethog y Gororau yn well na’r dref farchnad dawel hon.
Ond y tu ôl i dawelwch Trefyclo mae hanes lliwgar, hanes a welodd y Rhufeiniaid, y Sacsoniaid a’r Normaniaid i gyd yn mynd a dod – a’r Clawdd yw etifeddiaeth mwyaf trawiadol y gorffennol. Mae tarddiad yr enw – Tref y Clawdd yn dangos hynny. Mae Trefyclo ar farian rhewlifol yn edrych dros gulhad yn nyffryn gwely’r Tefeiddiad, gyda Lloegr y tu hwnt. I mi mae trefi’r ffin yn llefydd hynod o ddiddorol, ac nid yw Trefyclo, gyda’i gorffennol diwylliannol cyfoethog, yn eithriad. Os yw’r gorffennol wedi magu cymeriad unigryw, mae’r Ddraig Goch a ‘Iechyd Da’ yn y dafarn yn ei gosod yn bendant yng Nghymru.
“Dau Frecwast Llawn plis”
Bore bach ar fy nhaith ar hyd Clawdd Offa, a deffrois yn fy mhabell i gân y wig o Goedwig Kingsley ar y llethrau ger Gwersyllfa Panpunton. Yna taranodd yr 05.34 o’r Amwythig i Abertawe (llinell Canolbarth Cymru) heibio – i’m atgoffa bod gen innau hefyd amserlen i’w dilyn, ac mai Trefaldwyn oedd y stop nesaf. Mae cerdded pellter hir yn draul ar y corff, ond o leia mae’n esgus i fwyta cymaint ag rydych eisiau a gyda fy mrawd wedi ymuno â mi erbyn hyn, aethom draw i fecws ar y stryd fawr, a wnaeth frecwast mawr wedi ei goginio i ni. Byddem ei angen, gan mai’r darn i’r gogledd o Drefyclo yw’r darn mwyaf anodd, yn ôl pawb, o’r llwybr cyfan.
Deall Wenglish
Nid yw’r Clawdd yn mynd yn uchel iawn, er ei fod ar ei uchaf (430m – tua 1,400 troedfedd) yma, ond y ffaith bod y Clun yn mynd i fyny ac i lawr sy’n gwneud y daith mor anodd. Mae’r cribau niferus yn mynd o’r gorllewin i’r dwyrain, felly mae’n edrych fel dilyniant dibendraw o godi a disgyn wrth i’r Clawdd ymgordeddu drwy’r wlad. Ond mae harddwch Clun (rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Sir Amwythig) yn gwneud iawn am y dasg, a gyda’r enwau llefydd Cymraeg/Saesneg i’n diddori, roedd digon i esmwytho’r baich. E.e. Skyborrah = Ysgubor, Squilver – Disgwylfa. Arweiniodd cefn gwlad dawel Clun y bardd A.E. Houseman (A Shropshire Lad) i ysgrifennu:
Clunton and Clunbury
Clungunford and Clun
Are the quietest places
Under the sun.
Mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn rhedeg gyda’r Clawdd am y darn yma i gyd fwy neu lai, felly mae cyfle hefyd i wirioni ar y peirianwaith oedd agnen i groesi’r ddrysfa ddiddiwedd o fryniau a dyffrynnoedd. Yn Hergan, mae yna dro cam yn y Clawdd lle mae’n debyg bod dau griw yn gweithio ar wahanol ddarnau (a’r ddau ddarn yn defnyddio dulliau adeiladu gwahanol) wedi methu â chyfarfod, felly roedd angen adeiladu darn pontio. Wrth i’r Llwybr fynd i mewn i Wastatir Trefaldwyn nid yw’n ddim llai trawiadol, ond bellach nid oes crib na llethr i roi ffurf iddo, ac mae’n anodd amau’r syniad mai ei waith yma oedd fel ffin y cytunwyd arni gyda Thywysogion Powys, annibynnol eu barn.
‘Datblygais ryw olwg lonydd, benderfynol’
Gadewais y Clawdd yn Nhrefaldwyn am seibiant byr, ac yna ailymuno â’r Llwybr yn Buttington, ger y Trallwng, lle y gwnaeth yr Afon Hafren ffin arall naturiol i bobl y Mers. Ar ôl gwersylla dros nos yn Llanymynech, cyn bo hir roeddwn yn dilyn y Llwybr eto, ar fryniau ychydig i’r gorllewin o Groesoswallt. Ar ôl cerdded tua 130 o filltiroedd, teimlwn fy mod yn mynd yn fwy penderfynol yn fy ymgais i gyrraedd y diwedd. Gwelwn yn fy hun yr hyn yr oeddwn wedi ei weld ar wyneb cerddwyr eraill yn dod o’r cyfeiriad arall yn y de: golwg lonydd, benderfynol, a mwy o mwy o liw haul ar yr wyneb.
Wrth nesau at ddyfryn Dyfrdwy cefais sioc i weld Castell y Waun, wedi ei oleuo gan haul diwedd y prynhawn, yn edrych allan o’i le yn llwyr yn y wlad fugeiliol o’i gwmpas. Fe’i adeiladwyd fel rhan o etifeddiaeth Edward I wrth goncro Cymru Llywelyn, ac mae’n sefyll allan yn fwy na chaerau eraill Edward yn y rhannau mwy dramatig o Ogledd Orllewin Cymru. Cadarnle milwrol mawreddog sy’n ymddyrchafu uwchben Dyffryn Ceiriog i’r gorllewin.
Mae’r llwybr yn ymuno â Chamlas Llangollen ym Mhontcysyllte, yn croesi’r Ddyfrbont enwog 200 oed, ac ymlaen i Langollen, lle y cefais gysur mewn byncws gwesty. Roedd bore trannoeth yn hyfryd; awyr las glir a chlogwyni calchfaen sgarp Eglwyseg yn uchel uwch fy mhen wrth i mi groesi’r llwybr sgri dramatig. Roedd ehangder y grug ar rostir Llandegla yn newid i fryngaerydd Oes Haearn bryniau Clwyd, a bellach, draw i’r gorllewin, Eryri, ac adref.
O Langollen i Brestatyn mae’r Llwybr yn cynnig rhai o olygfeydd gorau’r daith gyfan, ond `doedd hi ddim cweit yr un fath heb y Clawdd, sy’n croesi dyffryn Dyfrdwy ger y Waun, ac yn mynd drwy’r pentrefi ôl-ddiwydiannol rhwng Wrecsam a Threuddyn. Mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn golygu llawer i mi gan ei fod yn dilyn nodwedd anhygoel a wnaed gan ddyn, nodwedd sydd ag iddi arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol cyfoethog, yn arbennig yma yng Nghymru. Roeddwn wedi dod i deimlo’n agos ato, fel y mae’n cysylltu’r cerddwr â hanes cyfareddol.
Wedi gwersylla dros nos yn Nyffryn Clwyd, cyrhaeddais Brestatyn yn ystod hanner tymor y Sulgwyn. Cefais drên i Fangor yn syth. Yn eistedd ymhlith y cymudwyr, pobl fusnes ac ymwelwyr, teimlwn yn wahanol rywsut. Roeddwn wedi byw bywyd Nomadaidd ers 10 diwrnod a bellach dyma fi ynghanol y tyrfaoedd o bobl yn siarad ar ffonau symudol neu a’u trwyn mewn papur newydd. Myfyriais ar fy nhaith ar hyd Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa a meddwl pam ei fod yn teimlo mor arbennig, ac yna cofiais un o’r cerddwyr niferus yr oeddwn wedi cwrdd â nhw ar fy nhaith yn dweud: ‘Y bywyd syml ymhell o bob peth a’r wlad odidog.’ Byddwn yn ychwanegu hefyd, ei fod yn sialens bersonol ardderchog, ac yn gwneud i chi deimlo bod y bywyd cynt ac wedyn yn wahanol mewn rhyw ffordd fechan.