Cyrraedd yno ar y Trên
Mae’n hawdd cyrraedd dau ben y Llwybr ar y trên. Mae gorsaf Casgwent tua 2 filltir / 3 cilometr o ochr ddeheuol y Llwybr a gorsaf Prestatyn tua 0.3 milltir / 0.5 cilometr o’r ochr ogleddol.
Cyrraedd ar y Bws
Mae gwasanaethau bws lleol i fannau ar neu gerllaw Llwybr Clawdd Offa ar gael. Mae yna grynodeb da iawn o’r gwasanaethau sydd ar gael ar wefan Cymdeithas Clawdd Offa.