Offa’s Dyke Path is a 177 mile / 283 km National Trail which links the Severn estuary near Chepstow with the north sea at Prestatyn roughly following both the 8th Century earthwork after which it is named and the England-Wales border.

Hanes o Lwybr Clawdd Offa

Gwefan Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa – Testun yn sôn am ei hanes, Mai 2006 (Ian Bapty, CPAT)

Beth yw heneb Clawdd Offa?

Clawdd a ffos sy’n 1200 o flynyddoedd oed yw Clawdd Offa a welir yn rhedeg trwy’r ffin rhwng Cymru a Lloegr, o Dreuddyn (ger Wrecsam yng ngogledd-ddwyrain Cymru) i Sedbury Cliffs (ar aber yr Afon Hafren, yn ne Swydd Gaerloyw).

Clawdd wedi ei wneud o bridd ydy o, a gall fod yn 25 troedfedd o uchder, a thua’i orllewin ceir ffos.   Yn aml, mae ganddo ran amlwg a bwriadol o fewn y dirwedd, ac wrth edrych oddi wrtho i gyfeiriad Cymru gellir gweld golygfeydd bendigedig.   Ni wyddys neb sut glawdd yn union oedd o pan gafodd ei adeiladu, ond mae cloddfeydd archeolegol yn awgrymu bod ochr orllewinol y clawdd wedi ei ragfurio â thyweirch er mwyn creu arwyneb a oedd bron yn fertigol.   Hefyd, mae’n bosibl bod rhyw fath o balisâd neu wal i’w chael ar ben y clawdd.

Oddeutu canrif ar ôl y dyddiad y tybir i Glawdd Offa gael ei adeiladu, aeth yr Esgob Asser ati i’w ddisgrifio fel clawdd sy’n ‘rhedeg o fôr i fôr’.   Nid yw gwaith ymchwil archeolegol wedi cadarnhau’r haeriad hwn, a cheir bylchau mawr ac amlwg yn y clawdd yn Swydd Henffordd ac mewn mannau eraill.   Oddeutu 80 milltir o’r clawdd sydd i’w weld heddiw, ac mae Llwybr Clawdd Offa yn ei ddilyn y rhan fwyaf o’r ffordd.   Ceir sawl system sy’n seiliedig ar ‘gloddiau’, ond Clawdd Offa yw’r system fwyaf o ran maint a’r fwyaf trawiadol o blith systemau o’r fath yn ardal y gororau.   Enghraifft o glawdd arall yw Clawdd Wat, sy’n rhedeg am ddeugain milltir trwy ogledd y Mers, rhyw ychydig filltiroedd i’r dwyrain o Glawdd Offa.

Clawdd Offa yw heneb hiraf Prydain.   Dyma’r adeiladwaith mwyaf dramatig i oroesi o’r cyfnod Eingl-Sacsonaidd, ac o’r herwydd mae’n atgoffâd pwysig o gyfnod allweddol yn hanes Prydain  - cyfnod nad oes rhyw lawer o olion gweledol ohono wedi goroesi.  Wrth gwrs, nid oedd unrhyw beth tebyg i’w gael yn ystod cyfnod y Clawdd ei hun; ond, yn wir, ni chafodd unrhyw beth ar yr un raddfa ei adeiladu ym Mhrydain am fil o flynyddoedd wedyn, hyd nes yr adeiladwyd system gamlesi’r ddeunawfed ganrif.

Hyd yn oed heddiw, mae’r rhai sy’n dod i ymweld â’r Clawdd yn cael eu syfrdanu ganddo.   Yn gyntaf oll, mae graddfa’r clawdd a’r ymdrech aruthrol yr oedd ei hangen i’w adeiladu ac i gloddio’r ffos ag offer llaw, yn ddigon i ryfeddu pawb.   Yna, dyna’r gwaith peirianegol a’r gwaith cynllunio gofalus yr oedd angen ei wneud er mwyn gosod y Clawdd yn y lle priodol ar y dirwedd, boed hynny’n rhedeg ar gyrion Dyffryn Gwy yn Swydd Gaerloyw, gan wneud yn fawr o droeon, esgeiriau a llethrau ardal Clun yn Swydd Amwythig, neu’n gorymdeithio’n eofn ar draws iseldiroedd dwyreiniol Trefaldwyn.   Ac yn olaf, caiff rhywun ei ryfeddu gan yr holl waith trefnu a’r logisteg sydd ynghlwm wrth brosiect adeiladu o’r fath, yn ogystal â’r rheolaeth wleidyddol a’r systemau gweinyddol soffistigedig a oedd yn ofynnol gyda gwaith o’r fath.   A gwnaed hyn i gyd mewn cyfnod y cyfeirir ato o dro i dro fel ‘Yr Oesoedd Tywyll’!

Offa, a hanes y Clawdd

Brenin teyrnas Eingl-Sacsonaidd Mersia rhwng 757 a 796 oedd Offa.   Teyrnas wedi ei lleoli yng nghanolbarth y Lloegr bresennol oedd Mersia, ac roedd yn un o’r teyrnasoedd annibynnol a oedd wedi dod i’r amlwg tua chanol neu ddiwedd y mileniwm cyntaf OC wrth i’r Eingl-Sacsoniaid ymestyn eu gafael gwleidyddol yn raddol dros ran sylweddol o’r hen Brydain Rufeinig.   Trwy gyfrwng ymgyrchoedd milwrol a chynghreiriau gwleidyddol, llwyddodd Offa i ddod â grym Mersia dros ran helaeth o’r wlad a elwir heddiw yn Lloegr.   Yn wir, aeth ati i’w ddisgrifio’i hun fel ‘Rex Anglorum’ (sef Brenin y Saeson).   Er mai ychydig iawn o ddogfennau hanesyddol uniongyrchol yn ymwneud ag Offa sydd wedi goroesi, fe allwn gael cipolwg ar arweinydd pwerus a gwleidydd craff a gâi ei ystyried fel pennaeth cydradd gan Siarlamaen, sef prif arweinydd Ewrop yn ei ddydd.

Clawdd Offa yw’r dystiolaeth orau sydd gennym o bwer Offa a’r hyn a gyflawnodd.   Yr arfer gyffredin yw derbyn bod y Clawdd wedi ei adeiladu fel ymdrech i resymoli terfyn gorllewinol rhwng Mersia a’r Teyrnasoedd Prydeinig (Cymreig) annibynnol a geid yng Nghymru yr adeg honno – sef y teyrnasoedd yr oedd Offa wedi ymladd yn eu herbyn mewn nifer o ymgyrchoedd milwrol, ond heb eu trechu.   Ym marn Cyril Fox, archeolegwr a gynhaliodd astudiaeth arloesol ar gloddiau yn ystod y 1920au a’r 1930au, rhywbeth y cytunodd Mersia a Theyrnasoedd Cymru arno fel ei gilydd yw’r Clawdd.   Mae mwy nag un sydd wedi ymchwilio i’r clawdd yn ddiweddarach, gan gynnwys Frank Noble a David Hill, wedi dadlau yn erbyn y farn hon.   Yn eu tyb nhw, clawdd a oedd â’r bwriad o gynnig amddiffyniad oedd Clawdd Offa, a chlawdd a adeiladwyd yn benodol er budd trigolion Mersia mewn cyfnod lle ceid ansefydlogrwydd ar hyd y ffin dybiedig. 

Efallai fod y clawdd wedi ei adeiladu’n rhannol oherwydd ei faint a’i bresenoldeb amlwg ar y dirwedd, a bod y gallu i gynllunio, dylunio ac adeiladu clawdd o’r fath yn arwydd o bwer gwyr Mersia.    Yn wir, efallai mai diben y clawdd oedd efelychu’r campau peirianegol a welwyd wrth adeiladu Wal Hadrian a chofadeiladau Rhufeinig darfodedig eraill.   Yn ôl pob tebyg, fe fyddai Eingl-Sacsoniaid yr wythfed ganrif yn ymwybodol o olion cofadeiladau o’r fath, felly fe ellid hyrwyddo Offa fel rhyw fath o olynydd i’r traddodiad hwnnw ac i’r rheolaeth wleidyddol a oedd wedi mynd law yn llaw â gallu’r Rhufeiniaid i greu isadeiledd gwladwriaethol mor drawiadol.

Er mwyn deall hanes y Clawdd yn iawn, rhaid ymestyn y tu hwnt i ffiniau ei gyd-destun uniongyrchol.   Mae’r Clawdd yn enghraifft unigryw o’r prosesau a oedd ar waith ym Mhrydain adeg yr Eingl-Sacsoniaid ac, yn wir, yn Ewrop, o ran canoli grym gwleidyddol – rhywbeth a arweiniodd, yn y pen draw, at yr ardaloedd daearyddol a diwylliannol yr ydym yn dal i fyw ynddynt, er enghraifft Cymru a Lloegr.   Efallai fod y Clawdd wedi cael dylanwad uniongyrchol ar ffurfio hunaniaeth wleidyddol glir yng Nghymru. Er mai byr fu cyfnod y Clawdd fel ffin weithredol ar gyfer Mersia/Lloegr, gallai ei bresenoldeb fel llinell derfyn o fewn y dirwedd fod wedi ei ystyried fel datganiad ideolegol pwerus yn ymwneud â’r gwahanu ymddangosiadol rhwng y Brydain ‘Seisnig’ a’r tir tua’r gorllewin, ac o’r herwydd fe allai fod wedi cynorthwyo i greu ymdeimlad o undod ymhlith trigolion Cymru – rhywbeth nad oedd wedi bodoli cyn hynny.